Ateb Naturiol i'r Argyfwng o ran yr Hinsawdd a Natur yr ydym i gyd yn ei wynebu

English version available here

Yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Wythnos Hinsawdd Cymru rithwir. Mae RSPB Cymru yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiad pwysig hwn a dydd Gwener gallwch wylio Rhys Evans a'r Rhwydwaith Ffermio Natur Gyfeillgar yn sôn am y rôl hanfodol y gall natur ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

Dwy her fawr, integredig

Cydnabyddir mai'r argyfwng o ran yr hinsawdd a natur yw dwy o'r heriau pwysicaf y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fwynhau'r un amodau amgylcheddol â'u rhieni a'u neiniau a’u teidiau. Er bod yr heriau hyn yn sylweddol, mae gennym ddealltwriaeth gynyddol o'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw, y gall llawer ohonynt fod o fudd i’r naill a’r llall.  Gallant hefyd helpu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau eraill megis gwella iechyd a lles drwy fynediad i fannau gwyrdd amrywiol a lleihau'r perygl o lifogydd.

Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Natur

Un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn ei wneud yn awr yw buddsoddi mewn Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Natur. Mae planhigion yn allweddol i fynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd, mae pob planhigyn yn dal a storio carbon o’r atmosffer (prif nwy tŷ gwydr) fel rhan o ffotosynthesis, maent yn defnyddio'r carbon hwn i adeiladu eu dail, eu coesynnau a'u blodau. Ar ôl i’r carbon gael ei amsugno gan blanhigion fel migwyn a choed gall y carbon hwn gael ei gloi am amser hir. Mae migwyn yn arbennig o effeithiol wrth i'r carbon y mae’n ei ddal gael ei gloi mewn priddoedd mawn sy'n cronni dros filoedd o flynyddoedd. Drwy reoli, adfer a chreu cynefinoedd newydd gallwn gloi symiau sylweddol o garbon o’r atmosffer mewn planhigion a thrwy hynny fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Os yw Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Fyd Natur i gyflawni eu potensial llawn, mae'n hanfodol nad yw’r man y cânt eu lleoli yn effeithio'n negyddol ar fyd natur ond yn hytrach yn helpu i hybu ein bywyd gwyllt. Er enghraifft, wrth blannu coed, rhaid osgoi cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig a phriddoedd organig sy'n llawn carbon, sydd eisoes yn storfeydd carbon pwysig, ac yn hytrach helpu i glustogi a chysylltu coetiroedd sy'n bodoli eisoes.

Rhaid inni hefyd fuddsoddi mewn amrywiaeth o Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Fyd Natur. naMae gormod o ffocws wedi'i roi ar greu coetiroedd fel yr unig gamau ar y tir i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru ac mae llawer mwy o gyfleoedd i ddefnyddio byd natur i dynnu carbon o'r atmosffer.  Mae'r rhain yn cynnwys adfer a rheoli mawndiroedd, cynefinoedd arfordirol a glaswelltiroedd lled-naturiol, gall pob un ohonynt ddal a storio llawer iawn o garbon.  Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw a chyllid a roddir i adfer a chreu'r cynefinoedd hyn o gymharu â phlannu coed.

Mae diwygio polisi ffermio yn allweddol

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn nodi dechrau'r cyfnod yn arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a aildrefnwyd ym mis Tachwedd 2021 (COP 26) a chyhoeddi Cynllun Cyflawni Carbon Isel nesaf Llywodraeth Cymru. Er mwyn cyflawni'r cynllun hwn yn effeithiol bydd angen nifer o gamau gweithredu integredig i fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd, gan gynnwys defnyddio Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Fyd Natur yn effeithiol. Un ffactor allweddol i gyflawni Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Fyd Natur fydd polisïau rheoli tir effeithiol sy'n cymell ffermwyr a rheolwyr tir i’w defnyddio ac yn sicrhau eu bod wedi'u lleoli'n briodol. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle unwaith mewn oes i ni ddatblygu'r polisïau hyn.

Gallwn yn awr ailystyried sut yr ydym yn defnyddio miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr i gefnogi ffermio cynaliadwy a rheoli tir mewn ffyrdd sy'n sicrhau gwerth gwirioneddol i'r cyhoedd.  Mae hyn yn cynnwys cymell ein ffermwyr a rheolwyr tir eraill i ddarparu amrywiaeth o Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Natur a fydd hefyd yn helpu i adfer natur.

Er mwyn llywio penderfyniadau ynglŷn â’r ffordd orau o weithredu Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Fyd Natur, comisiynodd yr RSPB ymchwil i helpu i nodi pa gamau a gymerir gan ffermwyr a allai gynnig y cyfraniad gorau i fynd i'r afael â'r argyfwng o ran yr hinsawdd a byd natur. Dengys yr adroddiad hefyd, er mwyn galluogi ein ffermwyr a rheolwyr tir eraill i gyflawni'r camau hyn yn effeithiol, fod angen i ni ddatblygu polisïau ffermio cynaliadwy a rheoli tir newydd i flaenoriaethu'r canlynol:

  • Cyngor a chymorth i bob ffermwr newid i arferion carbon isel
  • Arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ddarparu Atebion Hinsawdd sy'n seiliedig ar Fyd Natur, gan gynnwys adfer mawn a chynefinoedd arfordirol
  • Llinellau sylfaen amgylcheddol cryf a rheoleiddio yn y gyfraith fel na chaiff ffermwyr sy’n ystyriol o fyd natur a’r hinsawdd eu tanseilio
  • Cyllid a sicrwydd tymor hir fel y gall ffermwyr fuddsoddi'n hyderus mewn arferion carbon isel
  • Gwahardd llosgi llystyfiant ar fawn >30cm gyda chymhellion i adfer pob cynefin mawn ar ucheldir.

I gael copi llawn o'r adroddiad, cliciwch yma.