To read this blog in English, please click here

 

Gwarchod moroedd ac achub byd natur yng Nghymru

Bydd un o bob tair anadl y byddwch chi’n ei chymryd yn dod o’r môr - neu’n fwy penodol o’r miliynau o blanhigion bach iawn sy’n byw yno.  Mae ein moroedd yn cefnogi biliynau o fywydau o bob math, yn cynnwys pobl, ond maen nhw dan fygythiad. Mae’n hanfodol ein bod yn eu gwarchod. 

Gan gydnabod y sefyllfa hon, mae cyflwr ein moroedd yn un o brif flaenoriaethau’r agenda wleidyddol ar hyn o bryd ac mae Cynulliad Cymru wedi lansio arolwg i ganfod ein barn. Mae am wybod pa mor bwysig yw ein moroedd i ni yng Nghymru a beth yw ein barn ar sut y dylid eu gwarchod.  Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn ddangos yn union pa mor bwysig yw ein moroedd a’n harfordiroedd ac mae angen i ni gael eich help chi i brofi hynny.

 

Ben Hall, rspb-images.com

Pam mae angen i ni warchod moroedd Cymru

Mae’r arfordir a’r dyfroedd o amgylch Cymru yn hynod amrywiol, yn rhyfeddol o hardd ac yn bwysig iawn i’r bywyd gwyllt a’r bobl sy’n byw yno.  Fodd bynnag, fel llawer o’n hamgylchedd, mae ein moroedd yn dod o dan bwysau cynyddol yn sgil amrywiaeth enfawr o weithgareddau yn cynnwys llongau, twristiaeth, pysgota ac yn fwy eang pethau fel newid yn yr hinsawdd, dŵr ffo o’r tir a sbwriel. 

Mae achub natur ynddi'i hun yn dasg ddigon anodd, ond mae’r adnoddau sydd gennym i warchod yr amgylchedd morol yn fwy cyfyngedig byth.  O ganlyniad, mae angen defnyddio’r ychydig adnoddau sydd gennym yn dda er mwyn gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd agored i niwed. 

Sut gallwn ni eu gwarchod

Fel ardaloedd gwarchodedig ar y tir, mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn fodd i atal gweithgareddau a allai niweidio ecosystemau sy’n agored i niwed.  Mae nodi a rheoli ardaloedd fel yr un yma yn un o’r unig adnoddau sydd gennym i sicrhau goroesiad a gwytnwch hirdymor ein rhywogaethau a’n cynefinoedd morol.  Dychmygwch Sir Benfro heb ei phalod, Ynys Môn heb ei brain coesgoch a Bae Ceredigion heb ei dolffiniaid - byddai’r Gymru rydym yn ei hadnabod heddiw yn dra gwahanol ac mae’r holl bethau hyn yn y fantol.

Nododd Cynulliad diwethaf Cymru bod angen rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig fel mater o flaenoriaeth.  Gan weithio gyda’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, pwysleisiodd yr RSPB y pwynt hwn ac rydym yn hynod falch eu bod yn lansio ymchwiliad i’r modd y caiff Ardaloedd Morol Gwarchodedig eu rheoli ledled Cymru. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Ngweithgor Morol Cyswllt Amgylchedd Cymru, bydd RSPB Cymru yn darparu tystiolaeth dechnegol i’r ymchwiliad hwn a gobeithio y bydd hyn yn helpu’r pwyllgor i graffu ar Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, nid dyma ddiwedd y gân.  Mae’r Pwyllgor wedi lansio arolwg hefyd er mwyn i bawb ddangos i ba raddau rydym yn defnyddio, yn gwerthfawrogi ac yn caru ein harfordiroedd a’n moroedd.  A fyddech cystal â’i lenwi heddiw fel ein bod yn gallu dangos i’n gwleidyddion pa mor bwysig yw ein bywyd morol i ni, a gweithio gyda’n gilydd tuag at gael moroedd biolegol gyfoethog, glân ac iach.

Mae'r ddolen i’r arolwg yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/protecting-welsh-seas

Gallwch drydar y Pwyllgor yn uniongyrchol ynghylch yr angen i gael moroedd iach ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig wedi’u rheoli’n dda @SeneddCCERA.