English version available here
Mae’n siŵr bod darllenwyr rheolaidd blogiau We Love Wales wedi dod ar draws y term ‘arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus’. Ond beth mae ‘nwyddau cyhoeddus’ yn ei olygu, clywaf chi’n gofyn? Wel, nid chi yw’r unig un, gan ei fod yn derm anghyfarwydd i lawer. Dyma ein hymgais i egluro beth rydyn ni’n ei olygu wrth nwyddau cyhoeddus (arhoswch efo ni – efallai na fydd mor gymhleth ag yr ydych yn tybio!)
Yn syml, nwyddau cyhoeddus yw pethau sydd eu hangen arnom ni fel cymdeithas ond na allwn eu prynu. Felly, rydyn ni’n sôn am nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel byd natur a’r manteision y mae natur yn eu darparu inni fel aer glân a dŵr, pryfed peillio a chynefinoedd fel coetiroedd a mawndir sy’n helpu i storio carbon (i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd) a’n diogelu rhag llifogydd.
Mewn iaith dechnegol mae nwyddau cyhoeddus yn anghyfyngedig, sy’n golygu bod y manteision ar gael i bawb, ac maen nhw hefyd yn anghystadleuol, sy’n golygu nad yw faint ohonynt sydd ar gael i eraill yn lleihau wrth i un person ddefnyddio’r nwydd. Er enghraifft, os bydd lles emosiynol un person yn elwa o gysylltiad â natur, nid yw’n atal person arall rhag elwa yn yr un ffordd. Yn yr un modd, nid yw un person yn anadlu aer glân i mewn yn amddifadu person arall o’r un fraint.
Fel y gwelwch chi, mae’r stwff yma’n bwysig iawn – ond allwn ni mo’i brynu.
Ffermio a Nwyddau Cyhoeddus
Felly, beth mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd i Gymru? Beth yw’r berthynas rhwng ffermio a nwyddau cyhoeddus? Wel, mae gan ffermio cynaliadwy rôl enfawr i’w chwarae o ran darparu nwyddau cyhoeddus amgylcheddol (wedi’r cyfan, mae 90% o Gymru yn cael ei ffermio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd), a dyma rai enghreifftiau:
Rydym wedi bod yn galw ers tro am Gynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru sy’n defnyddio arian trethdalwyr i wobrwyo ffermwyr am ddiogelu’r nwyddau cyhoeddus amgylcheddol hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i wrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt yng Nghymru ac adfer ein hamgylchedd. Ac er nad yw bwyd ei hun yn nwydd cyhoeddus (oherwydd gallwn ei brynu), bydd polisi sy’n adfer natur hefyd yn cefnogi cynhyrchiant bwyd cynaliadwy, oherwydd ni allwn gynhyrchu bwyd heb amgylchedd naturiol iach.
Mae llawer o ffermwyr, fel Hilary Kehoe yng Ngogledd Cymru, yn tynnu sylw at y ffaith bod ffermio sy’n ystyriol o natur yn well i fusnesau, gan eu bod yn gallu ymdopi’n well â materion fel llifogydd, sychder ac erydu pridd. Mae’r adroddiad diweddar hwn hefyd yn dangos y gall ffermio sy’n ystyriol o natur fod yn fwy proffidiol. Mae’r Rhwydwaith Ffermio sy’n Ystyriol o Natur yn taro’r hoelen ar ei phen;
“Credwn fod ffermio sy’n ystyriol o natur nid yn unig yn well i fyd natur, ond hefyd mai dyma’r ffordd fwyaf cynhyrchiol a chynaliadwy o gael bwyd o’n tir”
Mae gwobrwyo ffermwyr yn deg am ddarparu’r nwyddau cyhoeddus hyn yn creu fframwaith talu a fwy cadarn iddynt, nad yw’n cael ei effeithio gan ffactorau allanol, megis newidiadau ym mhrisiau bwyd, gwerth y bunt neu amharu ar gadwyni cyflenwi bwyd, yn effeithio arno. Bydd y neu alluogi i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, darparu manteision amgylcheddol ehangach i gymdeithas, yn ogystal â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Helpwch ni i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu polisi sy'n gweithio i ffermwyr, i bobl ac i fyd natur drwy lofnodi ein e-weithrediad yma.