Ar y trywydd cywir tuag at amgylchedd naturiol ffyniannus ac iach

English version available here

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Tîm Polisi RSPB Cymru yn mynychu cynadleddau pleidiau gwleidyddol Cymru, ac mae’r neges sydd gennym yn un syml dros ben. Mae angen i ni weithredu nawr os ydym am achub byd natur yng Nghymru.

Mae Cymru’n wlad sy’n llawn tirweddau a morluniau godidog, ac anodd yw dychmygu bod ein byd natur mewn trafferthion – ond dyma’r realiti! Yn ystod ein hoes ni, mae bron i hanner ein hadar, ein mamaliaid, ein hamffibiaid, ein pryfed a’n creaduriaid di-asgwrn-cefn ar dir amaethyddol wedi diflannu, ynghyd â thros 90% o laswelltiroedd caeedig llawn blodau. Mae poblogaeth ein hadar môr, sydd eisoes dan bwysau, hefyd dan fygythiad oherwydd Ffliw Adar. Erbyn heddiw, Cymru yw un o’r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd. Gall hyn i gyd newid. Rydyn ni eisiau gweld dyfodol cadarnhaol i fyd natur, ac mae pobl Cymru yn rhannu’r un weledigaeth.

O ran gweithrediadau gwleidyddol, mae’r Senedd wedi datgan Argyfwng Natur, ac ym mis Rhagfyr 2022 rhoddodd Llywodraeth Cymru ei chefnogaeth i gytundeb pwysig newydd ar gyfer natur, sef Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal (GBF). Mae’r fframwaith hwn yn nodi cynllun y cytunwyd arno’n fyd-eang i geisio atal a gwrthdroi colli byd natur erbyn 2030, gyda’r gobaith o adfer nifer ac amrywiaeth bywyd erbyn 2050.  Mae hyn yn cyd-fynd â’r ymgyrch ryngwladol  ‘Natur Bositif’ y mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi’i chymeradwyo.

Mae un peth yn hollol amlwg, os ydyn ni am gyflawni’r nodau hyn, rhaid inni droi’r ymrwymiadau hyn yn gamau gweithredu brys, fel bod gennym fwy o natur erbyn 2030, ac i sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir tuag at amgylchedd naturiol ffyniannus ac iach. Dyma pam fo siarad â gwleidyddion Cymru yn bwysig, gan mai Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Senedd ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru sydd â’r rheolaeth dros wneud y penderfyniadau ar sut a phryd y byddwn yn mynd ati i gyflawni hyn. Mae’r meysydd allweddol y byddwn yn galw am weithredu’n syth dros fyd natur yng Nghymru yn cynnwys:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Llywodraethu Amgylcheddol i Gymru ar frys, a fydd yn gosod targedau adfer byd natur sy’n rhwymo mewn cyfraith ac yn sefydlu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol. Credwn fod gosod targedau’n hanfodol i sbarduno camau gweithredu cadarnhaol dros fyd natur, yn yr un modd ag y mae’r targed Sero Net yn helpu pob un ohonon ni i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

  2. Rhaid i Aelodau’r Senedd sicrhau bod Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Bil Amaethyddiaeth newydd Cymru yn sicrhau’r buddion gorau posibl i fyd natur. Mae ffermio’n cwmpasu oddeutu 90% o dir Cymru, felly mae'r ffordd rydyn ni’n ffermio’n cael effaith enfawr ar sefyllfa byd natur. Mae'n hanfodol ein bod yn achub ar y cyfle hwn i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio arian cyhoeddus i helpu ein ffermwyr adfer byd natur, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

  3. Mae Cymru yn gartref i boblogaethau adar môr sy’n bwysig yn rhyngwladol a dan bwysau cynyddol, felly mae'n hanfodol i Lywodraeth Cymru ddatblygu a gweithredu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr er mwyn gwarchod ardaloedd bwydo a bridio pwysig. Dylai Cymru hefyd ddatblygu Cynllun Datblygu Morol penodol i sicrhau bod datblygiadau morol (fel datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr) yn cael eu lleoli’n briodol, ac i osgoi unrhyw niwed i’r bywyd yn ein moroedd.

Mae angen i ni sicrhau dyfodol cadarnhaol i fyd natur yng Nghymru, lle gall rhywogaethau ffynnu fel rhan o amgylchedd naturiol ac iach. I gyflawni hyn, mae rhai penderfyniadau mawr y mae angen eu gwneud ar frys i sicrhau bod gennym fwy o natur ar ddiwedd y degawd, ac i’n rhoi ni ar y trywydd cywir tuag at ddyfodol cadarnhaol i fyd natur erbyn 2050.