Ar ôl pum mlynedd anhygoel, mae’n bryd i ni ffarwelio â’r prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

English version available here

Mae’r prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd wedi dod i ben ar ôl pum mlynedd o waith agos gyda grwpiau cymunedol a mannau gwyrdd lleol Caerdydd. Dechreuodd y prosiect yn 2017 fel partneriaeth rhwng RSPB Cymru, Cyngor Caerdydd a Buglife Cymru, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.


Beth oedd pwrpas y prosiect hwn?


Yn 2013, fe wnaeth yr RSPB ganfod mai plant yng Nghymru sydd â’r lleiaf o gysylltiad â natur yn y DU. Dim ond 1 o bob 8 plentyn yng Nghymru sydd â chysylltiad rhesymol â natur, o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 1 o bob 5.


Plant yn plannu planhigion mewn digwyddiad 'Star Hub' (Tamsin Davies)

I fynd i’r afael â hyn, darparodd y prosiect weithgareddau natur rhad i blant a theuluoedd yng Nghaerdydd, sesiynau mewn ysgolion a gweithdai i athrawon ac arweinwyr cymunedol. Dros oes y prosiect, fe wnaeth y prosiect gysylltu 30,000 a mwy o blant â byd natur yn eu hamgylchedd lleol.

Gweithio gyda’r gymuned


Canolfan Gymunedol Maes Y Coed (Liams Olds)


Roedd y prosiect hefyd yn ceisio gweithio gyda chymunedau i wella bioamrywiaeth mannau gwyrdd lleol. Gweithiodd y prosiect gyda safleoedd Buzz Trefol, gan ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i safleoedd gwyrdd lleol a chymunedau a oedd yn ceisio helpu pryfed peillio yn y ddinas.


Plant ysgol yn ail-wylltio welingtons o Ysgol Gynradd Foslemaidd Caerdydd (rspb-images.com)


Dros y pum mlynedd, cafodd miloedd o blant a theuluoedd eu denu’n nes at fyd natur. Drwy ymuno â helfa chwilod neu weithdy pryfed peillio, ailwylltio hen welingtons neu ddod yn dditectif bywyd gwyllt, roedd digonedd o ffyrdd o ymuno yn yr hwyl. Bydd y cysylltiad hwnnw’n byw ymhell i’r dyfodol, gan helpu i sicrhau bod y byd natur ar garreg ein drws yn cael ei warchod am flynyddoedd i ddod.

Mae’r prosiect wedi cynyddu’r cyfleoedd i blant yng Nghaerdydd gysylltu â byd natur nawr ac yn y dyfodol. Mae wedi bod yn galonogol gweld 70% o ysgolion yn ymrwymo i greu mwy o gartrefi natur, a dros 90% o deuluoedd yn dweud eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd ac y byddent yn gwneud y gweithgareddau gyda’u plant eto.


Roedd ein gwirfoddolwyr yn barod i helpu mewn digwyddiadau plant.(Adam Careless)

Ni fyddai’r project wedi bod yn llwyddiant heb yr athrawon, y timau plant cymunedol, y grwpiau cymunedol a’n 193 o wirfoddolwyr talentog a brwdfrydig anhygoel a roddodd 3,500 awr o’u hamser i helpu gyda digwyddiadau, gwaith gweinyddol, ffotograffiaeth a chyfieithu. Diolch i bawb a gymerodd ran!


Beth nesaf?

Mae’r prosiect yn gadael etifeddiaeth o adnoddau amlieithog a gweithwyr a gwirfoddolwyr plant hyfforddedig, a fydd yn parhau i weithio’n agos gyda’r sefydliadau partner i roi cyfleoedd i blant a chymunedau weithio gyda’i gilydd i roi cartref i fyd natur ym mannau gwyrdd Caerdydd.