Sgroliwch i lawr am y fersiwn Saesneg / Scroll down for the English version
Er mwyn dathlu lansio Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, project blaenllaw RSPB Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd, rydym yn gwahodd trigolion Caerdydd i ail-wylltio eu welis a phlannu’r niferoedd uchaf erioed o hen welingtons ar gyfer bywyd gwyllt.
Bydd digwyddiadau Ail-wylltio eich Welis! yn digwydd drwy Gaerdydd o 11-16 Ebrill (gweler rhestr isod). Yn ogystal, ar 16 Ebrill gwahoddir trigolion i helpu creu ardal bywyd gwyllt gwirioneddol unigryw yn y Ddinas, ac adeiladu Wal Welis ar Lwybr Pren Stadiwm y Mileniwm. Bydd pridd, hadau blodau gwyllt ac offer garddio ar gael yn holl ddigwyddiadau Ail-wylltio eich Welis! Anogir pobl i ddim ond dod â hen bâr o welingtons.
I’r rhai hynny sy’n awyddus i Ail-wylltio eu Welis! gartref, mae ‘Cyngor Welis’ ar gael (gweler isod) ar www.twitter.com/rspbcymru a www.facebook.com/rspbcymru sy’n cynnig awgrymiadau ar blannu hen welingtons er mwyn denu bywyd gwyllt. Anogir pawb i drydar eu Welfis hefyd (delweddau ohonyn nhw’n ail-wylltio eu welis!) @rspbcymru drwy ddefnyddio #caerdyddgwyllt. Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Ail-wylltio eich Welis! dilynwch @rspbcymru neu ewch i www.facebook.com/rspbcymru
Bydd y gweithgareddau dathlu yn parhau yn Sioe Flodau'r RHS ym Mharc Bute o 17-19 Ebrill, gyda gerddi yn cynrychioli Gwarchodfa Natur Howardian a gorffennol daearegol rhyfeddol Caerdydd, a gardd Rhoi Cartref i Fyd Natur sy’n addas i chwilen! Sylwch ar Gastell Caerdydd fel gwesty i chwilod; Canolfan y Mileniwm fel cartref i draenogod, a mwynhewch weithgareddau o gwmpas y gerddi yn cynnwys Bioblits Mawr yr Ardd, adrodd storïau am fywyd gwyllt a chyfle i helpu adeiladu Gwesty Chwilod Anferth er mwyn i ysgol neu gymuned ei ennill.
Er mwyn ennill y Gwesty Chwilod, gall ysgolion a grwpiau cymunedol drydar llun ohonyn nhw’n ‘Rhoi Cartref i Fyd Natur’ i @rspbcymru drwy ddefnyddio #caerdyddgwyllt. Bydd y llun orau yn ennill y cartref chwilod ar gyfer eu hysgol neu’u cymuned.
Diolch i gefnogaeth cwsmeriaid Tesco drwy dreth Llywodraeth Cymru ar fagiau plastig, mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn barod i gyflwyno sesiynau rhad ac am ddim i’r holl ysgolion cynradd drwy Gaerdydd, a rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer teuluoedd drwy’r ddinas er mwyn helpu i ddod â llyffantod, dail yr hydref a phengliniau mwdlyd yn ôl i blentyndod ac er mwyn ysbrydoli mwy o blant i ofalu am y bywyd gwyllt rhyfeddol sydd yng Nghaerdydd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd a lansio’r prosiect newydd cyffrous hwn dilynwch @rspbcymru neu ewch i www.facebook.com/RSPBCymru
Rhestr o’r digwyddiadau
Dydd Sadwrn 11 Ebrill 10yb – 4yp Canolfan siopa Dewi Sant
Dydd Sadwrn 11 Ebrill 10yb – 4yp Canolfan Gymunedol Trelái a Caerau
Dydd Sul 12 Ebrill 11yb – 4yp Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd
Dydd Sul 12 Ebrill 11yb – 4yp Parc Fictoria
English
Re-wild your wellies and give nature a home in Cardiff
To celebrate the launch of Giving Nature a Home in Cardiff, RSPB Cymru’s flagship project in partnership with the City of Cardiff Council, Cardiff residents are being invited to re-wild their wellies and plant-out record numbers of old wellingtons for wildlife.
Re-wild your Wellies! events will be taking place across Cardiff from 11-16 April (see list below). On 16 April residents are also invited to help create a truly unique wildlife hotspot in the city, and build a record-breaking Welly Wall on the Millennium Stadium Boardwalk. Soil, wildflower seeds and gardening tools will be available at all Re-wild your Wellies! events. Residents are encouraged just to bring along an old pair of wellies.
For those keen to Re-wild their Wellies! at home, Welly Wisdoms (see below) are available at twitter.com/rspbcymru and facebook.com/RSPBCymru offering tips on planting-out old wellingtons to attract wildlife. Everyone is encouraged to tweet their Welfies too (images of them re-wilding their wellies!) to @rspbcymru using #wildcardiff. For more information about Re-wild your Wellies! events follow @rspbcymru or visit facebook.com/RSPBCymru
Celebratory activities will continue at the RHS Flower Show Cardiff in Bute Park from 17 – 19 April, with gardens representing Cardiff’s amazing Howardian Nature Reserve and geological past, and a Giving Nature a Home garden fit for a bug! Spot Cardiff Castle as a bug hotel; the Wales Millennium Centre as a hogitat for hedgehogs, and enjoy activities around the gardens including a Big Garden Bioblitz, wildlife storytelling and a chance to help build a Giant Bug Hotel for a school or community group to win.
To win the bug hotel, schools and community groups can simply tweet a photo of them ‘Giving Nature a Home’ to @rspbcymru using #wildcardiff. The most inspiring entry will win the bug home for their school ground or community space, including delivery.
Thanks to the support of Tesco customers through the Welsh Government’s carrier bag levy, Giving Nature a Home in Cardiff is ready to deliver free outreach sessions for all primary schools across Cardiff and a city-wide programme of events for families to help put frogs, autumn leaves and muddy knees back in to childhood and inspire more children to look after Cardiff’s amazing wildlife.
For more information about Giving Nature a Home in Cardiff and the launch of this exciting new project follow @rspbcymru or visit www.facebook.com/RSPBCymru
Events listing
Saturday 11 April 10am – 4pm St David’s shopping centre
Saturday 11 April 10am – 4pm Ely and Caerau Community Hub
Sunday 12 April 11am – 4pm Norwegian Church Arts Centre
Sunday 12 April 11am – 4pm Victoria Park