Ail agor ein gwarchodfeydd

English version available here.

Rydyn ni'n ymwybodol eich bod chi yn edrych ymlaen at ddychwelyd i fyd natur ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi nol ar ein gwarchodfeydd. Mae’r rhan fwyaf o lwybrau cyhoeddus ar agor ar ein gwarchodfeydd erbyn hyn ond mae cuddfannau, toiledau, caffis a chanolfannau ymwelwyr dal ar gau tan y byddwn ni yn hyderus ein bod yn medru ail-agor yn ddiogel.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gennym bopeth mewn lle i gadw ein timau, cymunedau lleol, ymwelwyr a bywyd gwyllt yn ddiogel. Dilynwch yr holl arwyddion ar y warchodfa, os gwelwch yn dda, a byddwch yn ymwybodol y gallai systemau unffordd, llefydd pasio a marciau newydd fod ar waith i gynorthwyo gyda chadw pellter cymdeithasol. Mae hefyd yn bwysig ein bod i gyd yn dilyn cyngor swyddogol diweddaraf Llywodraeth Cymru ar bellter cymdeithasol, glendid a theithio.

 Mae llawer o'n bywyd gwyllt wedi dod yn gyfarwydd â'r tawelwch anarferol dros y misoedd diwethaf. Wrth i'r cyfyngiadau symud ddod i ben, mae angen eich help arnom i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib. Dyma rai awgrymiadau, wrth ymweld â'n gwarchodfa, ac mewn mannau eraill yng nghefn gwlad Cymru:

  1. Cadwch olwg allan - gall bywyd gwyllt fod wedi crwydro i lefydd llai cysgodol nag arfer.
  2. Cerddwch yn ofalus ar ymylon a llwybrau.
  3. Cadwch at lwybrau a llwybrau ceffylau - gallwch chi aflonyddu'n hawdd ar fywyd gwyllt trwy gwyro oddi ar y llwybr.
  4. Cerwch yn ôl - gallai galwadau larwm miniog, adar â phigau llawn neu adar yn dod yn anarferol o agos atoch chi olygu eich bod chi'n rhy agos at gywion bach. Dychwelwch i’r ffordd y daethoch chi, gan fod yn ofalus lle rydych chi'n camu.
  5. Os ydych chi’n sylwi ar ymddygiad gwrthgymdeithasol fel tystiolaeth o droseddau bywyd gwyllt, tipio anghyfreithlon neu danau heb eu rheoli, rhowch wybod i'r gwasanaeth brys perthnasol.

Dilynwch i link yma mm fwy o fanylion pwysig ac i gadw pawb yn ddiogel.

Diolch eto am eich cefnogaeth a'ch amynedd parhaus. Mae wir yn golygu llawer iawn i bob un ohonom yn RSPB Cymru.