Ai Prif Weinidog newydd Cymru fydd yr anrheg Nadolig sydd ei hangen ar fyd natur?

English version available here

Blog gwadd gan Sharon Thompson, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth RSPB Cymru

Mae angen ewyllys da ar fyd natur Nadolig ‘ma. Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn o galedi parhaol i nifer o'r adar sydd agosaf at ein calonnau. 'Rydym wedi gweld y dirywiad yn niferoedd ein hadar sy'n byw ar dir fferm yn dwysáu - adar fel y gylfinir, y llinos werdd, y drudwy, y bras melyn, y cudyll coch a'r ydfran. Gwelwyd dirywiad hefyd mewn niferoedd adar mudol, yn enwedig rheiny sy'n mudo i Affrica fel y wennol ddu a'r gog.

Dwi'n mawr obeithio mai Mark Drakeford, Prif Weinidog newydd Cymru, fydd y person sy'n arwain ar gyflawni'r newid sydd cymaint ei angen ar fyd natur. Yn ei faniffesto ar gyfer ei ymgyrch i arwain y Blaid Lafur cyhoeddodd mai adfer byd natur oedd un o'i brif flaenoriaethau polisi, a hynny oherwydd ei fod yn cydnabod nad yw ein hamgylchedd mewn cyflwr da; mae bywyd gwyllt yn dirywio ac nid yw ein hecosystemau yn wydn.

Mewn ymateb i'r heriau hyn, awgrymodd fod Cymru'n buddsoddi mwy mewn ardaloedd gwledig i wella bioamrywiaeth ac i hyrwyddo diwydiannau sy'n diogelu, yn hytrach na difrodi, byd natur. Fel RSPB Cymru, mae'n cefnogi polisi ffermio yn y dyfodol sy'n talu ffermwyr i ddarparu nwyddau cyhoeddus fel awyr a dŵr glân, pridd mewn cyflwr da a storio carbon.

Mae'n frwd iawn dros osod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y Llywodraeth a defnyddiodd ddywediad gan Americanwyr Brodorol, 'Nid ydym yn etifeddu'r ddaear gan ein hynafiaid, rydym yn ei fenthyca gan ein plant' i ddisgrifio ei ddealltwriaeth o'r egwyddor. Un o'i benderfyniadau cynnar fydd a ddylid adeiladu ffordd liniaru'r M4 ai peidio. Fe fydd hwn yn brawf ar ei ymrwymiad i gynaliadwyedd. Byddai buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy o amgylch Casnewydd a de-ddwyrain Cymru yn amlwg yn ddewis cynaliadwy gwell.

Mae ei faniffesto'n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu Cynllun Twf Amgylcheddol i Gymru gyda'r nod o atal a gwrthdroi'r difrod a achoswyd yn barod i’n hamgylchedd naturiol. Os gall y Prif Weinidog newydd afael gydag arddeliad yn yr uchelgais hon yn ei rôl newydd, a sicrhau cefnogaeth ei Gabinet, yna fe fydd y dyfodol yn edrych yn fwy sicr i fyd natur.

Felly, dwi'n croesi 'mysedd, gan ei fod yn ymddangos bod byd natur yng Nghymru'n mynd i dderbyn rhodd o ewyllys da’r Nadolig hwn. Mae gan y Prif Weinidog newydd y potensial i gyflawni'r newid sydd ei angen yn ddybryd ar ein bywyd gwyllt ac i ddangos arweiniad amgylcheddol cryf ar draws y Llywodraeth. Felly, yma yn RSPB Cymru, hyd yn oed ar adeg mor heriol â hon, ry'n ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at 2019 gyda chymhelliant newydd i barhau i ymgyrchu am gyfreithiau a pholisïau gwell ar gyfer adfer byd natur yng Nghymru.