English version available here.
Gyda phryder cynyddol ynglŷn â’r argyfwng ecolegol a’r argyfwng hinsawdd, mae pawb yn dechrau ceisio gwneud synnwyr o beth mae hyn i gyd yn ei olygu i ni yng Nghymru. Mae un peth yn dod yn amlwg – nid yw popeth yn dda yn ein cefn gwlad. Rydym yn dechrau sylweddoli nad yw ein dolydd gwyrdd, ein bryniau tonnog a’n hucheldiroedd garw, tra eu bod yn ddeniadol dros ben, yn arwydd o amgylchedd iach, gwydn na gwlad sy’n gyforiog o fywyd gwyllt.
Mewn gwirionedd, Cymru yw un o’r gwledydd lle mae natur wedi prinhau fwyaf yn y byd. Mae traean o adar Cymru yn dirywio, ac mae un mewn pedwar ar ddeg o rywogaethau bywyd gwyllt o dan risg o ddifodiant.
Pam mae natur yn bwysig inni?
Dylai’r cyflwr natur pryderus hwn fod o bryder gwirioneddol inni i gyd. Mae natur yn ein darparu â’r gwasanaethau a’r adnoddau naturiol yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel ‘nwyddau cyhoeddus’. Maen nhw’n cynnwys y dŵr yr ydym ei yfed, yr aer yr ydym yn ei anadlu, y priddoedd i dyfu ein bwyd a’r cynefinoedd sy’n cloi’r carbon o’r atmosffer er mwyn helpu i ymdrin â newid yn yr hinsawdd. Rydym ni angen natur llawer mwy nag y mae hi ein hangen ni.
Fodd bynnag, pan rydym yn edrych ar natur, a natur tir fferm yn arbennig, dengys y dystiolaeth nad yw mewn cyflwr da. Ar wahân i’n coetiroedd, mae ein priddoedd yn dirywio ac nid yw llawer o’n hafonydd a’n llynnoedd yn cwrdd â statws da. Mae rhywogaethau tir fferm eiconig fel y gylfinir wedi dirywio mwy na 75% yn y pum mlynedd ar hugain olaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi yn eglur nad oes yr un o’n hecosystemau (ein cynhaliaeth bywyd) yn wydn.
Ceir llawer o resymau dros hyn, o newid yn yr hinsawdd at rywogaethau anfrodorol goresgynnol. Fodd bynnag, mae newidiadau i’r ffordd yr ydym yn rheoli’r tir yn un o’r ffactorau allweddol. Cyflwynwyd polisi ffermio sydd wedi’i lunio yn wael, fel Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC), er mwyn cynyddu cynhyrchiant bwyd. Ychydig o sylw a roddwyd i warchod yr amgylchedd, ac mae hyn wedi arwain at arferion ffermio anghynaladwy mewn llawer o leoedd yng Nghymru.
Cyfle i newid?
Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle unigryw inni ymdrin â’r polisi hwn sydd wedi methu. Mae’n gyfle i’w ddisodli gyda rhywbeth a fydd yn helpu ffermwyr Cymru i ymateb i heriau amgylcheddol heddiw, a thrwy wneud hyn, cyfrannu at lesiant ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol.
Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hail ymgynghoriad (Ffermio Cynaliadwy a’n Tir) ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. Rydym yn falch i weld bod y Llywodraeth yn ymrwymedig i greu polisi ffermio blaengar a chynaliadwy sy’n defnyddio arian y trethdalwyr i hyrwyddo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a gwobrwyo ffermwyr am adfer ynghyd â chynnal a chadw natur.
Tra bod ffermio mewn ffyrdd sy’n cynhyrchu bwyd cynaliadwy, gwarchod natur a chyflawni cynnyrch cyhoeddus ar gyfer cymdeithas yn gyraeddadwy, mae’n debygol y bydd hyn yn ffordd newydd o weithio i lawer o ffermwyr yng Nghymru. Gall y newid arfaethedig hwn mewn polisi gael ei ystyried hyd yn oed yn fygythiad gan rai i ffermio ac i’w bywoliaeth. Mae hyn yn ddealladwy. Wedi’r cwbl, gallwn ni i gyd weld newid yn gythryblus. Fodd bynnag, rydym yn ffodus yng Nghymru fod gennym ni lawer o ffermwyr sydd eisoes yn ffermio mewn ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu hyrwyddo. Mae hyn yn cynnwys ffermwyr fel aelodau o Rwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar (RhFfNG) sy’n gwneud gwaith gwych o gynhyrchu bwyd cynaliadwy ac edrych ar ôl natur a’r amgylchedd ehangach.
Mae’r RhFfNG a ffermwyr fel nhw yn dangos bod cynhyrchu bwyd a rheoli amgylcheddol yn gallu cael eu cyfuno. Dylid defnyddio eu profiad i helpu’r sector ffermio addasu i newid, fel bod ffermio cynaliadwy a’r holl fuddion y mae’n eu darparu yn dod y peth arferol.
Sut allwch chi gefnogi?
Gallwch chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy weithredu ar-lein, sy’n cynnwys e-bost a ysgrifennwyd ymlaen llaw y gallwch chi ei anfon yn syth neu’i bersonoli. Dyma eich cyfle chi i ddweud wrth Lywodraeth Cymru eich bod chi eisiau natur fod wrth galon y polisi newydd hwn, fel bod pawb sy’n rheoli’r tir yn gallu gwneud hynny yn gynaliadwy a thrwy adfer natur.