Adfer byd natur a chreu swyddi gwyrdd

English version available here

Mae pob un ohonom yn gwybod bod angen i ni fuddsoddi mewn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur, ond anaml y byddwn yn sôn am sut gall buddsoddi mewn byd natur ei hun arwain at nifer o fanteision a chynnig gwerth am arian cyhoeddus.  

Mae'n bosib mynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol mawr sy’n ein hwynebu ni a chenedlaethau’r dyfodol, gan adfer ein byd naturiol, drwy ‘Atebion sy’n Seiliedig ar Fyd Natur’.  

Atebion yw’r rhain, sydd, yn eu hanfod, yn defnyddio byd natur ei hun i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol a chymdeithasol fel llygredd aer, newid yn yr hinsawdd, ansawdd dŵr, gwrthdroi'r dirywiad mewn bywyd gwyllt.   

 Mae tuedd i feddwl am Atebion sy’n Seiliedig ar Fyd Natur fel atebion i newid yn yr hinsawdd yn unig. Mae RSPB Cymru yn herio hyn ac yn codi ymwybyddiaeth o sut gellir rhoi atebion sy’n seiliedig ar fyd natur ar waith i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gyda’i gilydd.  

Mae buddsoddi mewn mawndiroedd yn enghraifft wych. Mae talu am adfer mawndiroedd yn hanfodol os ydym am gyrraedd ein targedau newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Mae dros 90% o fawndiroedd Cymru wedi’u diraddio, felly maent yn allyrru mwy o garbon nag a fydd yn cael ei ddal gan y senarios plannu coed mwyaf uchelgeisiol hyd yn oed. Fodd bynnag, bydd adfer ein mawndiroedd nid yn unig yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy storio mwy o garbon, bydd hefyd yn gwella’r gwaith o storio dŵr, yn lleihau’r perygl o lifogydd ac yn gwella cynefinoedd gwerthfawr i rywogaethau agored i niwed fel y gylfinir.  

Rydym yn credu bod buddsoddi mewn Atebion sy’n Seiliedig ar Fyd Natur yn fanteisiol iawn i fyd natur, economi a chymdeithas. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr atebion hyn drwy ein Map Stori Atebion sy’n Seiliedig ar Fyd Natur.  

Buddsoddi mewn byd natur  

Yn ddiweddar, mae adolygiad mawr wedi canolbwyntio ar pam mae’n rhaid i ni fuddsoddi mewn byd natur hefyd. Mae Adolygiad Dasguptasy’n garreg filltir bwysig, wedi galw am newid trawsnewidiol yn y ffordd rydym yn gwerthfawrogi byd natur, yn mesur llwyddiant economaidd ac yn diogelu ein byd naturiol.   

Roedd yr RSPB yn croesawu canfyddiadau’r adolygiad hwn yn fawr ac rydym wedi nodi ein hymateb yma. Rydym yn annog llywodraethau i gymryd sylw a chymryd camau pendant i drawsnewid ein heconomi er mwyn i’n dibyniaeth ar fyd natur gael ei hadlewyrchu yn ein penderfyniadau economaidd.  

Byddai buddsoddi mewn Gwasanaeth Byd Natur Cenedlaethol yn enghraifft o gam y gallai llywodraeth ei chymryd i adlewyrchu’n well ein dibyniaeth ar fyd natur mewn polisi economaidd.  Byddai hyn yn darparu sgiliau a swyddi gwyrdd drwy ailadeiladu ein hamgylchedd naturiol i adfer bywyd gwyllt ac adfywio dalfeydd carbon, gwella amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, a sicrhau ein bod yn symud tuag at ddyfodol carbon isel sy’n gadarnhaol i fyd natur. Canfu adroddiad gan yr RSPB a gyhoeddwyd yn ddiweddar y gallai’r buddsoddiad cywir mewn natur ddarparu bron i 7,000 o swyddi gwyrdd yng Nghymru. 

I wylio recordiad o’r digwyddiad, ewch i Sianel YouTube RSPB Cymru  

Lluniau:

Gylfinir - Jake Stephen Photography

Gwyddonwyr RSPB - Ray Kennedy (rspb-images.com)