To read this blog in English please click here

O’r diwedd, ar ôl blynyddoedd o waith cadwraethol caled, rydym yn falch o gyhoeddi bod aderyn y bwn wedi nythu ar RSPB Malltraeth (Cors Ddyga) yn Ynys Môn yr haf yma - y tro cyntaf yng Nghymru mewn 32 mlynedd.

 


 

Nid yw aderyn y bwn, sef math o grëyr brown gwelw ei liw sydd wedi ei guddliwio’n wych ar gyfer ei gartref ymysg y cyrs, wedi nythu yng Nghymru ers 1984 pan fu’n nythu yn ardal Y Fali ar Ynys Môn. Serch hynny, mae ymdrech anhygoel staff RSPB Malltraeth, sy’n dyddio'n ôl i 1994, wedi gweld aderyn y bwn yn dychwelyd i Ynys Môn.

Ffurfiwyd y warchodfa yn 1994 gyda'r nod hwn mewn golwg. Ar ôl disgwyl peth amser, ac gweld amryw o rywogaethau bregus ei niferon fel llygod y dŵr, telor y gwair a dyfrgwn yn ffynnu yn yr ardal oherwydd ein gwaith, darganfod bod aderyn y bwn wedi nythu yng Nghymru am y tro cyntaf mewn 32 mlynedd ar ein gwarchodfa ni oedd yr eisin ar y gacen.

Mae'n aderyn gyfrinachol ei ffordd ac yn anodd ei gweld wrth iddi symud yn dawel drwy gyrs ar lan y dŵr yn chwilio am bysgod. Fodd bynnag, yn y gwanwyn mae'r gwrywod yn enwog am eu trwst uchel sy’n ffynnu wrth iddynt ddenu cymer - dyna pam enwyd yn aderyn y bwn.

Gan fod yr aderyn yn un mor gyfrinachgar bu’n rhaid i ni wario oriau hir allan yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos i geisio cadarnhau eu hamheuon.

Mae popeth am aderyn y bwn yn gofyn am amynedd a chlymu cliwiau bychain at ei gilydd i greu darlun clir. Gwyliwn y fenyw yn hedfan bwyd drwy gydol cyfnod nythu, ac un noson, tua’r adeg y dylai'r ifanc gadael y nyth roeddem yn ddigon ffodus i weld adar y bwn dibrofiad yn dychwelyd i'r nyth. Mae’r aderyn y bwn yn hoff iawn o amgylchedd tawel ac unigryw wrth fridio, felly roedd RSPB Malltraeth yn cynnig y cynefin bron perffaith.

Rydym yn ddiolchgar i’r gwylwyr adar lleol sy’n ymwybodol am yr adar ers gyfnod, ond cytunwyd i gadw draw i roi pob cyfle i’r cyw nythu yn llwyddiannus. Maent yn haeddu clod am eu parodrwydd ac rydym yn gobeithio y bydd unrhyw ymwelwyr i RSPB Malltraeth yn y dyfodol yn cadw’r hyn mewn cof.

Gallwn nawr frolio bod aderyn y bwn yn ei ôl.