English version available here
Mae rhywbeth ar goll yn ein pentref.
Mae hi’n ganol mis Awst, ac mae sŵn yr haf wedi mynd. Rwy’n teimlo ychydig yn drist, ar ôl cael pleser mawr o wylio’r Gwenoliaid Duon yn hedfan dros y toeau llechi mewn awyrddawns na all unrhyw aderyn arall ei hefelychu. Dim un aderyn arall yn llythrennol, oherwydd y Wennol Ddu yw’r aderyn sydd â’r hediad gwastad cyflymaf ar y blaned, wedi’i fesur ar 69mya. Ac eto, nid hedfan yn wastad a wna’r adar hyn. Maen nhw’n gwyro o gwmpas adeiladau, yn plymio ac yn syrthio’n fertigol bron, gyda’r sgrech unigryw honno sy’n ysbrydoli awduron, beirdd, artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau.
Rwy’n falch o glywed bod cenhedlaeth newydd o Wenoliaid Duon wedi ymddangos yn ein toeau eto eleni. Roedd rhywfaint o ansicrwydd oherwydd yr haf oer a gwlyb. Roedd yn ymddangos bod gormod o ddiwrnodau wedi mynd heibio heb weithgarwch amlwg, ond gall Gwenoliaid Duon fynd i gyflwr o gysgadrwydd, gan leihau faint o egni sydd ei angen arnynt dros dro. Ac yna, ddiwedd mis Gorffennaf, roedd pethau’n ôl i'r arferol a chawsom ychydig wythnosau o wylio teuluoedd yn sgrechian wrth ddysgu sut i hedfan, bwydo a goroesi. Yna, un bore, fe ddringon nhw’n uchel i’r awyr, cylchu am 20 munud, a chychwyn eu taith am y de. Dim ond tair wythnos ar ôl gadael Cymru, maent bellach yn bwydo uwchlaw’r coedwigoedd glaw trofannol yng nghanolbarth Affrica.
Nid oes yr un aderyn arall yn cysylltu dinasoedd, maestrefi, pentrefi a chefn gwlad Cymru. Mae Gwenoliaid Duon yn bridio mewn adeiladau ond maent yn dibynnu ar gyflenwad da o bryfed sy’n hedfan. Adar tir amaethyddol sy’n digwydd byw mewn trefi ydyn nhw. Mae ambell un yn nythu mewn clogwyni ac efallai, rywle yng Nghymru, fod pâr yn dal i fridio ym moncyff cnotiog rhyw goeden hynafol, ond dros wlyptiroedd, bryniau a thir fferm y maen nhw’n bwydo – lle gall morgrug, pryfed gleision a mosgitos ymddangos. Mae angen aer a dŵr heb eu llygru ar Wenoliaid Duon, yn ogystal â llystyfiant llawn pryfed, a chrac neu hollt sydd â bwlch digon mawr i adeiladu eu nyth ynddo.
Wrth gwrs, mae adeiladau modern yn effeithlon o ran ynni, heb unrhyw fylchau ynddynt, a phan fydd adeiladau hŷn yn cael eu hatgyweirio, bydd bylchau o’r fath yn aml yn cael eu cau. Ond mae hynny’n golygu bod dim cartref i’r Gwenoliaid Duon. Mae’r niferoedd yng Nghymru wedi gostwng 76% ers 1995. Mae’n hawdd anwybyddu’r ystadegyn hwnnw. Ond stopiwch am eiliad a meddwl sut le fyddai eich cymuned petai tri chwarter y bobl wedi diflannu mewn llai na 30 mlynedd...
Diolch byth, mae pobl ar hyd a lled Cymru yn poeni am Wenoliaid Duon. Mae pobl wedi dod at ei gilydd mewn dinasoedd, trefi a phentrefi i weithredu, i adeiladu a gosod blychau nythu, i fonitro niferoedd, ac i godi ymwybyddiaeth. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny ar eu pen eu hunain. Mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wneud eu rhan. Mae’n hanfodol adfer cynefinoedd ar raddfa fawr ac ariannu dulliau ffermio ystyriol o natur sy’n cynhyrchu pryfed. Byddai mynnu bod adeiladwyr yn gosod “Brics Gwenoliaid Duon” fel mater o drefn ym mhob adeilad sydd dros bum metr o uchder yn creu miloedd o safleoedd nythu newydd ar gyfer y ganrif nesaf a mwy.
Nid Brics Gwenoliaid Duon yw’r peth mwyaf y mae gofyn i’r llywodraeth ei wneud dros natur o bell ffordd, ond mae ymysg y symlaf. Mae Julia Barrell o Gaerdydd, sy’n frwd dros Wenoliaid Duon, yn deisebu i gael Llywodraeth Cymru i weithredu, gyda chefnogaeth RSPB Cymru ac Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru. Petai dros 10,000 o bobl yn llofnodi’r ddeiseb, mae’n bosibl y byddai dadl yn cael ei chynnal yn y Senedd ac y byddai’n rhaid i’r llywodraeth ymateb iddi.
Efallai fod y Gwenoliaid Duon wedi gadael Cymru am flwyddyn arall, ond peidiwn ag anghofio amdanynt. Gofynnaf yn garedig i chi roi ychydig funudau o’ch amser i gefnogi’r ddeiseb, wedyn ei rhannu â’ch ffrindiau a’ch cysylltiadau. Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Oni fyddai’n wych petai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y DU i fynnu bod cartrefi’n cael eu darparu ar gyfer Gwenoliaid Duon, gan helpu cenedlaethau’r dyfodol yn sgil hynny?