Adar yr ardd a’u henwau da

English version available here.

Mae adar yr ardd yn rhan bwysig i fywydau llawer ohonom. Mae eistedd wrth y ffenest a syllu allan ar yr adar yn bwydo yn brofiad braf, ac mae’n hawdd ymgolli eich hun wrth wylio pob mathau o adar, a’u plu trawiadol a’u hymddygiad difyr.

Ond, ydych chi erioed wedi meddwl am darddiad enwau’r adar hyn o’r blaen? Wrth gymryd eiliad i feddwl, mae yna lawer o enwau llawn dychymyg i’r adar sydd fwyaf cyffredin i ni. Mae rhai yn hynod ddisgrifiadol, tra bod eraill yn fwy anghyffredin ac anarferol.

Dyma olwg gyflym ar enwau rhai o’r adar efallai a fydd yn ymweld â’ch gardd dros eich awr Gwylio Adar yr Ardd 2020.

Titw Tomos las

Mae gweld yr aderyn bach hwn, gyda’i blu glas a melyn yn olygfa gyffredin iawn i ni. Mae pawb yn hoff o’r aderyn hwn, er bod ganddynt arferiad o dyllu twll mewn caeadau poteli llefrith i yfed yr hufen sydd ar yr arwyneb!

 Ji-binc
Mae’r ji binc yn delor cyffredin sy’n ymweld â gerddi dinesig a gwledig, ynghyd a pharciau, perthi a chaeau. Mae’r enw wedi’i selio ar ei frest binc/oren sy’n ei wneud yn hawdd i’w adnabod.

Aderyn du / mwyalchen
Tra mae’n amlwg sut y mae’r aderyn du wedi cael ei enw, cwestiwn sydd ar wefusau llawer yn aml yw “mae sawl math o aderyn du i’w cael - pam rhoi’r enw i un aderyn?”

Y rheswm am hyn oedd bod brain (sy’n adar duon eraill) wedi cael eu categoreiddio’n ‘fowl’ yn hytrach nag adar oherwydd eu maint, yn oes y Tuduriaid. Felly, ynghyd a’r rheolau hyn, dim ond un aderyn du oedd yn bodoli i bob pwrpas! Enw arall i’r aderyn du yw mwyalchen - sydd efallai’n fwy addas, yn enwedig wrth labelu’r iâr sydd yn frown!   

Socan eira
Ymwelydd i’n gerddi yn y gaeaf yw’r socan eira, ac fel y mae’r enw’n awgrymu, rydych yn debygol o’i weld yn dawnsio o gwmpas yr eira a’r rhew yn chwilota am fwyd.

Bronfraith
Mae’r fronfraith yn aderyn sy’n canu o’r gangen a’n hoff o fwydo ar ffrwyth a phryfaid genwair oddi ar y llawr, yn debyg i’r fwyalchen. Mae ei enw yn un lythrennol dros ben - yn seiliedig ar ei fron felen sy’n fraith â smotiau bach tywyll!

Ysgrech y coed

Mae’r aderyn lliwgar hwn yn fwy tebygol o gadw at goedlannau a choedwigoedd, ond mae’n bosib eu gweld mewn gerddi, yn enwedig yn y gaeaf pan mae’n chwilio am fwyd. Mae’n fwy tebygol i chi glywed yr aderyn hwn, ac fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae ganddo alwad swnllyd a chroch. 

 Coch y berllan

Dyma aderyn arall sydd ychydig yn fwy anghyffredin i’n gerddi. Mae’r aderyn hwn yn rhan o deulu’r llinosiaid, ac mae ganddo big bwerus, a phen du. Ond beth fydd yn dal eich sylw amdano yw ei frest binc/coch golau - mae’n byw fel arfer mewn perthi neu berllannau hefyd - felly, be gewch chi? Coch y berllan!

Llwyd y gwrych
Aderyn bach sy’n cadw ei hun at ei hun, yn mynd yn ôl a blaen o wrychoedd. Fe welwch chi lwyd y gwrych yn bwyta’r gweddillion sy’n disgyn i’r llawr o ardaloedd bwydo uwchben. Daw’r ‘llwyd’ ei enw o’r mannau llwyd ar ochr ei ben a’i frest.

Gwennol y bondo
Aelod o deulu’r gwennoliaid sy’n nythu o dan fondo tai ledled pentrefi a threfi. Efallai fod gwennol y bondo yn nythu dan eich bondo chi - neu os ydych yn byw ar stad o dai, mae’n berffaith bosib i chi weld rhai’n gwibio heibio yn eich gardd!

Dringwr bach
Mae llawer o ddringwyr bach yn nythu yng nghoed collddail Cymru yn y gaeaf - ac fel y mae’r enw yn ei awgrymu, mae gan yr aderyn bach hwn dueddiad i ddringo a chropian fyny a lawr boncyn y goeden! 

Mae cymryd rhan ym mhenwythnos Gwylio Adar yr Ardd yn gyfle gwych i weld rhai o’r adar hyn. Ar 25-27 Ionawr, bydd pobl ar draws y wlad y troi eu golwg at eu gerddi a’u parcio i gyfri adar, fel rhan o’r arolwg mwyaf o fywyd gwyllt mewn gerddi. Hoffech chi gymryd rhan? Cliciwch yma ar gyfer mwy o wybodaeth.