To read this in English, please click here.
Gwarchodfa RSPB Ynys Dewi, sydd wedi'i hamgylchynu gan glogwyni ar y môr a thonnau gwyllt, yw un o'r mannau gorau i weld rhywfaint o'r bywyd gwyllt ac adar y môr mwyaf rhyfeddol, o'r brain coesgoch yn nythu ar y clogwyni i'r morloi llwyd yn dangos eu pennau ar hyd y glannau. Yn ddiweddar, mae'r ynys wedi dod yn enwog am y boblogaeth gynyddol o adar drycin Manaw sy'n nythu yno, ond nid hyn oedd yr sefyllfa i'r rhyfeddodau nosol hyn drwy gydol yr amser...
Llun: Dave Boyle. Un o adar drycin Manaw RSPB Ynys Dewi.
Yn ôl yng nghanol yr 19eg ganrif, cafodd arfordir Ynys Dewi ei lethu gan wyntoedd cryfion, gan ddod â thaith llong nwyddau oedd yn mentro drwy Swnt Dewi i ben yn gynnar ar greigiau miniog yr ynys. Cafodd y digwyddiad hwn effaith ar boblogaethau adar y môr Ynys Dewi am y 150 mlynedd nesaf, wrth i lygod brown heidio at y lan, a chyn bo hir roeddent wedi difrodi poblogaethau adar drycin Manaw, pedrynnod drycin a phalod, oedd yn ffynnu ar un adeg.
Fodd bynnag, yn 2000, cyflawnwyd prosiect uchelgeisiol i gael gwared ar lygod gan RSPB Cymru a'r cwmni Wildlife Management International o Seland Newydd. Yn sgil hynny, gwelwyd adferiad anhygoel mewn rhai rhywogaethau, a rhai eraill yn dychwelyd er mawr lawenydd i bawb.
Llun: Greg Morgan. Aderyn drycin Manaw ifanc yn cael ei bwyso gan staff RSPB Ynys Dewi.
Daeth pedrynnod drycin yn ôl i fridio yn 2008, a bellach mae 12 pâr ohonynt yno, ac er bod staff RSPB Ynys Dewi yn dal i aros am y palod, adar drycin Manaw sy'n serennu. Llwyddodd y rhywogaeth hon i beidio â chael ei dinistrio'n llwyr yn ystod 'blynyddoedd y llygod' o ganlyniad i orlif o'r poblogaethau enfawr ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm gerllaw. Yn 1998, amcangyfrifwyd bod 850 o barau yno, ond erbyn 2016, heb orfod poeni am dresbaswyr estron, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i 4,796 o barau.
Serch hynny, dim ond hanner y frwydr yw darparu cartref diogel iddynt nythu, gan fod adar drycin Manaw yn treulio dros hanner eu bywyd ar y môr, a dim ond yn dychwelyd i'r tir er mwyn nythu. Yn y dyfroedd o gwmpas Môr Iwerddon a'r Cafn Celtaidd maent yn bwyta, cyn mudo i arfordir yr Ariannin ar gyfer y gaeaf.
Llun: Greg Morgan. Rhai o'r blychau nythu mae staff RSPB Ynys Dewi wedi adeiladu.
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwybod cymaint â phosib am eu symudiadau, mae staff yr RSPB Ynys Dewi wedi bod yn gosod blychau nythu i roi poblogaeth hwylus iddynt roi geoleolwyr (geolocators) arnynt. Dyfeisiau tracio bach iawn sy'n cofnodi codiad a machlud yr haul yw'r rhain. Yna, drwy gyfeirio at gloc mewnol, mae'r geoleolwr yn gallu darparu amcangyfrif o'r lledred a'r hydred unrhyw le yn y byd. Mae'r dyfeisiau hyn yn ddigon bach i ffitio ar fodrwy blastig fach, ac maent yn aros ar yr adar drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn ein galluogi ni i 'ysbïo' ar yr adar pan fyddant ym mhen draw'r byd, a gobeithio sylwi ar unrhyw broblemau sy'n codi yn gynnar.
Dros y ddau dymor diwethaf, rydyn ni wedi adeiladu a thyllu bron i 100 o flychau nythu yng Ngwarchodfa'r RSPB ar Ynys Dewi. Yn 2016, llwyddodd y ddau bâr cyntaf i fridio, ac yn 2017 mae'n ymddangos bod gennym ni saith pâr yn eistedd ar wyau ar hyn o bryd. Os bydd y cynnydd yn parhau ar y gyfradd hon, cyn bo hir fe fydd gan Warchodfa'r RSPB ar Ynys Dewi boblogaeth ffyniannus a fydd yn sail i'n hastudiaethau tracio yng Nghymru a thu hwnt. Siawns fod hon yn stori i'w dilyn yn y dyfodol.
I gael mwy o wybodaeth am adar drycin Manaw rhyfeddol RSPB Ynys Dewi, cysylltwch â ramsey.island@rspb.org.uk