English version available here.
Bore ‘ma, derbyniais y llun (isod) a gododd fy nghalon.
Mae'r llun hwn, a dynnwyd gan Will, ffermwr sy’n gweithio gyda ni yng ngogledd Cymru, braidd yn aneglur, ond mae’n dangos bod y gylfinir yn ôl ar ei dir nythu ac yn paratoi am y tymor. Mae Will yn gwybod faint mae'r llun yma’n ei olygu i mi gan ein bod wedi bod yn gweithio tuag at ein gwanwyn ers sawl mis bellach.
Yn ôl ym mis Chwefror, roedd y gwanwyn yn dal i deimlo ymhell i ffwrdd. O un wythnos i’r llall roedd y tywydd yn benderfynol o wneud bywyd yn anodd i ni. Mae'r demtasiwn i dreulio nosweithiau’r gaeaf yn swatio o flaen y tân naill ai gyda llyfr da neu'n gwylio beth bynnag sydd ar y teledu yn rhywbeth sy'n apelio at bob un ohonom mae'n siŵr. Ond allan gyda Will yn gweithio ar brosiect Rheoli Treialon y Gylfinir oeddwn i am sawl noson aeafol ym mis Chwefror.
Mae sefyllfa’r gylfinir yng Nghymru yn druenus. Mae'r boblogaeth wedi dirywio 68% rhwng 1995 a 2018. Gall y gylfinir fyw hyd at 30 o flynyddoedd, felly mae'n bosibl bod un gylfinir wedi gweld y dirywiad cyfan hwnnw. Yn syml, mae'r prosiect rheoli treialon yn ceisio atal y rhywogaeth rhag diflannu'n llwyr o'n cefn gwlad.
Mae safle rheoli'r treialon yng Nghymru yn un o chwe lleoliad ledled y DU. Mae'r tir y mae’r gylfinir yn ei ddefnyddio ar bob un o'r safleoedd hyn yn dir sydd wedi cael ei siapio a’i ddylanwadu gan bobl. Yn wir, ychydig iawn o dir yn ein gwlad y gell ei ystyried yn naturiol erbyn hyn, ac mae gylfinir yn defnyddio tiroedd yn y ffiniau rhwng cynefinoedd lled-naturiol a chynefinoedd wedi’u creu. Fel arfer caiff y tir hwn ei ffermio.
Yn achos ardaloedd yn y prosiect rheoli treialon yng Nghymru, ffermio defaid yw hyn yn bennaf. Mae Will yn ffermwr lleol, ac ef yw'n contractwr yn ardal rheoli treialon y gylfinir. Ei waith yw cynyddu llwyddiant faint o ylfinirod sy'n nythu yno. Mae gylfinirod yn cael trafferth magu cywion ar hyn o bryd, ac yn aml iawn mae ysglyfaethwyr yn dod o hyd i’w wyau neu gywion a'u bwyta.
Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr gogledd Cymru yn synhwyrol am eu cyfrifoldebau fel rheolwyr tir a cheidwaid cefn gwlad. Mae hyn yn wir am Will hefyd, ac er fy mod yn gweithio gydag ef i'w helpu i gyrraedd ein safonau llym, rydym bob amser yn trafod y problemau sy'n wynebu'r gylfinir heddiw. Gall hyn amrywio o ehangu coedwigaeth, yr ansicrwydd ariannol sy'n wynebu ffermwyr defaid a sut y daw'r term ‘nwyddau cyhoeddus’ i effeithio pob un ohonom. Mae gan gefn gwlad we gymhleth a chyd gysylltiedig o flaenoriaethau sy'n llywodraethu'r modd y caiff ei rheoli, sy'n cymryd cryn amser i’w dehongli.
Mae pobl wedi siapio'r tiroedd hyn dros filoedd o flynyddoedd drwy gael gwared ar goetiroedd. Mae hyn wedi rhoi cyfle i adar fel y gylfinir ffynnu, ond maent yn cael eu gorfodi fwy a mwy i bocedi bach o dir sy'n cael eu chwalu gan ffyrdd eraill o ddefnyddio’r tir, fel coedwigaeth a datblygu. Mae'r math yma o dirwedd yn gwasgu gylfinirod i ardaloedd llai eu maint, a hefyd mae’n gynefin perffaith i berffaith i lwynogod a brain tyddyn. Gall dim ond rhywfaint o ysglyfaethu wyau neu gywion sicrhau’r gwahaniaeth rhwng tymor da a thymor trychinebus.
Yn y pen draw, mae dyfodol y gylfinir yn nwylo Will a ffermwyr eraill sydd eisiau gwneud y pethau iawn dros fyd natur. Mae angen i ni feddwl gyda’n gilydd sut gyflwr sydd ar ein tirweddau er mwyn i rywogaethau fel y gylfinir ddewis sut i'w defnyddio. Heb y gweithredoedd hynny ar y dirwedd, bydd pwysau eraill yn trechu’r nifer fach o barau sydd ar ôl yng Nghymru. Mae gennym gyfle i sicrhau gwelliannau go iawn yn yr hyn y mae'r tir hwn yn ei ddarparu, gwobrwyo gwaith da a'r systemau ffermio sy'n eu cefnogi. Mae Will yn un o'r ychydig rai sy'n dal i gael y fraint o glywed cân y gylfinir ar ei dir bob haf.
Dymunaf y gorau i'r gylfinir yn eu tymor nythu. A fyddant yn llwyddo i gael eu cywion yn yr awyr eleni?
* Mae RSPB Cymru yn bartner gweithgar i waith Gylfynir Cymru, proses gydweithio rhwng sefydliadau sy'n gweithio i achub y gylfinir yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, BTO Cymru, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, y Gynghrair Cefn Gwlad, Curlew Country, Undeb Amaethwyr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Hela a Chadwraeth Bywyd Gwyllt, Canolfannau Cofnodion Amgylchedd Lleol Cymru, y Sefydliad Ciperiaid Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Ornitholegol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru.