English version available here.
Mae prosiect newydd ar y gweill yn Nyffryn Conwy i helpu i amddiffyn un o’n hadar mwyaf eiconig sydd wedi’i beryglu yma yng Nghymru. Ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd (21 Ebrill), dyma flog gan Lucy Foster, Swyddog Prosiect ar gyfer prosiect newydd Gylfinir (Curlew) LIFE, i ddweud mwy wrthym amdano.
‘Mae’r cyfyngiadau symud wedi dod â’i heriau, ond ni fedraf gwyno gormod pan allaf glywed y gylfinir yn galw wrth i mi hongian y dillad ar y lein’.
Mae'n hwyr ym mis Mawrth ac mae gylfinirod yn dechrau cyrraedd yn ôl ar rostiroedd blaenau Dyffryn Conwy. Wrth siarad â'r ffermwyr lleol, mae cyffro cyffredinol bod yr adar yn ôl. Mae hyn yn nodi dechrau misoedd yr haf yn yr ucheldiroedd a, gobeithio, yr amser i ffarwelio â stormydd garw'r gaeaf.
Gellir clywed galwadau gylfinirod a chornchwiglod ar draws y rhostir wrth iddynt ddechrau sefydlu tiriogaethau nythu. I mi, mae’n swnio fel yr ‘hwre’ a’r ‘ieee’ o fod yn ôl ar eu tiroedd haf. Rwy'n sicr wedi cyffroi eu bod yn ôl o gwmpas, ac yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar i'r hyn a ddaw yn sgil y tymor hwn.
Yn ogystal â dangos hoffter gwirioneddol tuag at ylfinirod, mae'r ffermwyr hefyd yn trosglwyddo straeon am fethu bridio, gostyngiadau mewn niferoedd a phryder am ddyfodol y gylfinir yn ucheldir Cymru. Mae'r adar yn rhan o'u tirwedd ac yn dwyn atgofion plentyndod o adeg pan oedd gylfinirod yn rhywogaeth gyffredin a'r rhostiroedd yn ferw gyda gweithgaredd. Mae yna frwdfrydedd gwirioneddol ar y cyd i wneud rhywbeth i helpu'r aderyn eiconig hwn. Fodd bynnag, nid yw pethau'n edrych yn dda i ylfinirod yng Nghymru. O dan y duedd bresennol, gallai gylfinirod ddiflannu yng Nghymru fel adar bridio yn ystod y 13 blynedd nesaf.
Sut mae gylfinirod yn dygymod yng Nghymru?
Mae sawl her yn wynebu gylfinirod yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys gostyngiad mewn cynefin bridio addas, newidiadau mewn defnydd tir ac arferion ffermio a chynnydd yn y nifer o ysglyfaethwyr cyffredinol. Yn ogystal â hyn, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd a newidiadau yn nifer yr infertebratau (eu prif ffynhonnell fwyd) yn ffactorau a allai fod wedi cyfrannu at eu dirywiad, ac nid yw'r rhain wedi cael eu deall yn llawn eto. Problem fawr arall i ylfinirod yw goroesiad cywion. Ar draws y DU ar hyn o bryd, dim ond 0.31 o gywion y flwyddyn y mae pob pâr yn eu cynhyrchu. Er mwyn cyrraedd poblogaeth iach, mae angen i hyn fod yn 0.63 o gywion.
(Capsiwn: Er mwyn cyrraedd poblogaeth gynaliadwy, mae gylfinirod angen yr holl help y gallant ei gael i fagu eu cywion yn llwyddiannus)
Felly beth ydyn ni'n ei wneud ynglŷn â’r peth?
Dechreuodd Prosiect Curlew LIFE yn gynnar yn 2021, a dechreuais fel Swyddog Prosiect Cymru ym mis Chwefror. Yn ogystal â cherdded o amgylch yr ucheldiroedd yn gwylio adar ac yn siarad â ffermwyr, mae llawer o waith pwysig i'w wneud fel Swyddog Prosiect. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn cynnal arolygon adar i nodi lleoliad tiriogaethau’r gylfinir. Byddwn yn monitro'r rhain trwy gydol y tymor bridio. Bydd lleoliad a llwyddiant bridio yn ein helpu i benderfynu lle mae angen gwaith dros yr hydref a'r gaeaf.
Byddwn hefyd yn ymgymryd ag ystod o waith rheoli cynefinoedd, gan gynnwys creu pyllau cors a thorri brwyn i wella cynefinoedd. Yn ogystal, rydym yn bwriadu gosod oddeutu 10km o ffensys ysglyfaethwyr bob blwyddyn o amgylch ardaloedd bridio allweddol i amddiffyn cywion, gan obeithio cynyddu'r nifer cynhyrchiant hud hwnnw. Elfen arall fydd amddiffyn rhag ysglyfaethwyr gan mai dyma un o'r prif ffactorau sy'n cyfyngu ar gynhyrchiant mewn safleoedd gylfinirod yng Nghymru.
Prif ran y prosiect, serch hynny, yw creu perthnasoedd cryf â thirfeddianwyr a brwdfrydedd dros gadwraeth y gylfinir. Mae'r prosiect yn rhedeg am bedair blynedd ond gobeithiwn y bydd yr etifeddiaeth yn parhau trwy gymunedau gyda chefnogaeth RSPB a'n partneriaid (Adnoddau Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Rwy’n llawn cyffro fy mod yn gweithio ar brosiect mor bwysig; ac rwy'n obeithiol y bydd ucheldir Cymru yn adleisio i alwadau'r gylfinir am flynyddoedd i ddod.