To read this blog in English please click here

Y gwanwyn yw’r tymor lle mae popeth yn deffro ac yn dechrau blodeuo mewn paratoad ar gyfer misoedd yr haf. P’un ai ydych chi’n ddraenog yn deffro o gwsg y gaeaf neu’n gennin pedr prydferth yn blodeuo, mae’r gwanwyn yn dod â bywyd a lliw i’n cefn gwlad.

Eleanor Bentall, rspb-images.com

Mae amser cyffrous ar y gorwel yn RSPB Llyn Efyrnwy unwaith eto y gwanwyn yma, gyda’r warchodfa yn paratoi i groesawu trigolion newydd annwyl, ac mae cyfle i’r teulu cyfan i rannu’r profiad rhyfeddol o weld oen yn cael ei eni. Felly, pam na wnewch chi groesawu’r gwanwyn drwy ddod i RSPB Llyn Efyrnwy i fwynhau taith o gwmpas ‘uned famolaeth’ yr ŵyna. Gyda thros 2,000 o famogiaid beichiog, rydych chi’n sicr o weld oen yn cael ei eni - ac os ydych chi’n lwcus, gallwch chi fwynhau rhywfaint o brofiad ymarferol efallai. Yn ogystal, byddwch chi’n cael cyfle i gwrdd â Harold, tarw du Cymreig golygus RSPB Llyn Efyrnwy. Sicrhewch eich bod yn gwisgo’n gynnes gan fod y siediau ŵyna yn tueddu i fod yn oer a chofiwch ddod â’ch esgidiau glaw er mwyn i chi gael ychydig o hwyl ar y fferm.

Mae ein sesiwn ŵyna byw RSPB Llyn Efyrnwy yn ddigwyddiad rhagorol i’r teulu cyfan ei fwynhau. Byddwch chi’n gweld un o olygfeydd syfrdanol natur yn agos iawn wrth i chi lenwi eich ysgyfaint gydag awyr iach hyfryd.

Ymysg llawer o’r gweithgareddau a fydd i’w gweld, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu manteisio ar barc chwarae natur wyllt newydd y warchodfa. Ceir trawstiau boncyffion i gerdded arnyn nhw, bonion coed i neidio oddi arnyn a chegin fwd er mwyn coginio danteithion blasus. 

Gyda thros 2,000 o famogiaid beichiog; tarw du ni o’r enw Harold; y parc chwarae gwyllt newydd; y daith bosau anifeiliaid; yr hebogiaid tramor yn syrthio ac yn plymio dros y llyn wrth hela am ysglyfaeth; y coedwigoedd hudol yn dyddio’n ôl i oes yr iâ diwethaf a’r cefn gwlad gwyrdd melysber sydd o gwmpas; mae gan RSPB Llyn Efyrnwy lawer i gynnig.

Eleanor Bentall, rspb-images.com

Rydym hefyd wrthi'n cynnal ymgyrch i ddangos y daith ryfeddol mae ein bwyd yn ei wneud wrth iddo deithio o ffermydd fel yr un yn RSPB Llyn Efyrnwy i'n platiau cinio a’n bocsys bwyd. (Mwy o wybodaeth yn y blog yma)

Pan fyddwn yn gweld o ble bydd ein bwyd yn dod, rydym yn sylweddoli ar yr effaith fawr mae'n ei chael ar natur hefyd. Tydi digwyddiad ŵyna byw RSPB Llyn Efyrnwy nid yn unig yn brofiad teuluol unigryw, ond hefyd yn ffordd berffaith i weld y cysylltiadau rhwng bwyd, ffermio a natur.

Mae dyddiadau’r digwyddiadau ŵyna a’r prisiau mynediad fel a ganlyn:

Dyddiadau:

1, 2, 8, 9, 10, 15, 16, 17, 22, 23, 29, 30 Ebrill a 1 Mai 2017.


Prisiau:

£7.50/oedolyn a £3.75/plentyn, gyda disgowntiau ar gyfer aelodau o’r RSPB.


Mae’n hanfodol archebu – ffoniwch RSPB Llyn Efyrnwy ar 01691 870 278 neu anfonwch ebost tuag at: vyrnwy@rspb.org.uk  neu ewch i www.rspb.org.uk/lakevyrnwy.

Nodwch os gwelwch yn dda – oherwydd bod risg i famau beichiog, ni allwn adael iddyn nhw fynychu’r digwyddiadau hyn.