£594 miliwn eu hangen yn flynyddol i gefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur yng Nghymru

English version available here

Mae dadansoddiad economaidd annibynnol newydd, a gomisiynwyd gan RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn dangos bod y gyllideb amaethyddol bresennol yng Nghymru hanner y swm sydd ei angen i gyrraedd targedau adfer natur a hinsawdd drwy ffermio a defnydd tir, er mwyn roi ffermio Cymru ar sylfaen fwy cynaliadwy.

Rydym wedi dweud mewn blogiau blaenorol bod yn rhaid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy helpu ffermwyr i ddod â natur yn ôl a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd tra'n cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac atgyfnerthu gwydnwch busnesau fferm. Rydym hefyd wedi dweud, er mwyn i hynny ddigwydd yn effeithiol, bod yn rhaid cael cyllideb ddigonol.

Mae’r adroddiad newydd yn adeiladu ar ddadansoddiadau blaenorol, gan roi'r asesiad mwyaf cywir hyd yma o'r buddsoddiad blynyddol sydd ei angen i alluogi ffermwyr Cymru i ddarparu dros natur a’r hinsawdd ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae’r ffigwr £594 miliwn a nodwyd gan yr adroddiad newydd yn cynnwys dadansoddiad manwl o wahanol fathau o ffermydd a chostau amrywiol adfer natur ar draws sectorau gwahanol a ffermydd o feintiau gwahanol. Mae'r ffigwr hwn ddwywaith swm cyllideb wledig bresennol Cymru ac mae wedi cynyddu £100 miliwn y flwyddyn ers y dadansoddiad diwethaf ychydig dros ddeuddeg mis yn ôl. Oherwydd ‘Maint yr Angen’ cynyddol hon, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddiad aml-flynyddol hirdymor mewn ffermio sy'n gyfeillgar i natur a'r hinsawdd o hyn ymlaen. Gydag effaith argyfyngau natur a hinsawdd yn gwaethygu, bydd unrhyw oedi pellach i ddiogelu'r sector amaethyddol yn y dyfodol yn costio llawer mwy i'w drwsio.

Braf i’w gweld cydnabyddiaeth gynyddol o’r buddion ehangach a ddaw yn sgil buddsoddi mewn adfer byd natur. Yn ogystal â darparu’r aer rydyn ni’n ei anadlu a’r dŵr rydyn ni’n ei yfed, mae natur yn darparu pridd iach i ni gynhyrchu ein bwyd. Mae adfer natur yn hanfodol i’n diogeledd bwyd yn y dyfodol, gan gynnwys gwneud ffermio’n fwy gwydn i effeithiau achosion o dywydd eithafol, sy’n gwaethygu, fel tywydd poeth, sychder a llifogydd, o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae ffermio gyda natur hefyd yn gwneud synnwyr busnes da gan ei fod yn llai dibynnol ar borthiant a gwrtaith sy’n gynyddol gostus.

Gan fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i ohirio tan 2026, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn uchelgeisiol yn ei chynlluniau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y cynllun yn cael ei ariannu'n briodol i wobrwyo ffermwyr am fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r hinsawdd a sicrhau cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.