English version available here.
Ar ôl dyddiau oer a thywyll y gaeaf, mae bob amser yn rhyddhad gweld y gwanwyn ar y ffordd a’r arwyddion niferus a gawn o fyd natur yn dangos i ni fod y gwanwyn ar gyrraedd. Gyda’r dyddiau’n ymestyn ar ôl troi’r clociau ymlaen, dyma bum arwydd inni fod y gwanwyn ar y gorwel.
Y gog yn canu
Yn ôl y traddodiad, hyd nes y clywch chi’r gog yn canu am y tro cyntaf, nid yw’r gwanwyn wedi cyrraedd eto. Mae’r adar mudol hyn yn tueddu i gyrraedd o Affrica tua diwedd mis Mawrth neu ddechrau mis Ebrill. Er bod y niferoedd yn gostwng, mae’n dal yn bosibl gweld a chlywed y gog ledled Cymru. Ar ôl dychwelyd am yr haf, mae’r benywod yn dodwy eu hwyau mewn nythod adar eraill, yn enwedig corhedydd y waun, gwas y gog a thelor y cyrs. Beth am ymweld â Gwlyptiroedd Casnewydd y gwanwyn hwn i glywed a gweld y gog yn canu.
Un wennol ni wna wanwyn
Mae’n arwydd da bod y gwanwyn wedi cyrraedd wrth weld ambell wennol yn yr awyr uwchben Cymru. Mae’r gwennoliaid cyntaf yn tueddu i gyrraedd yn ôl wedi iddynt fudo dros y gaeaf ddechrau mis Ebrill, felly cadwch lygad am yr aderyn bach gyda chefn glas tywyll sgleiniog a chynffon hir os ydych chi’n crwydro.
Croesawu Brenhines y cacwn
Rhywbryd yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, mae’r cacwn yn ymddangos am y tro cyntaf yn y flwyddyn. Y cyntaf allan yw’r frenhines sydd wedi bod yn gaeafgysgu o dan y ddaear ar ei phen ei hun. Ar ôl gaeafgysgu, mae egni’r frenhines yn prinhau a bydd yn gwibio o amgylch blodau’r gwanwyn gan gymryd neithdar i mewn cyn iddi fynd ati i chwilio am safle addas a phriodol ar gyfer nythu, sy’n ddigon mawr i ddenu hyd at 200 o weithwyr.
Carped o glychau’r gog
Yn ogystal ag uwch ein pennau, mae’r natur ar y ddaear yn dangos fod y gwanwyn wedi hen gyrraedd. Arwydd pendant bod y tywydd yn newid, a bod y gwanwyn hwnnw ar ein gwarthaf, yw’r carped o glychau’r gog sy’n ymddangos yn ein coetir bob gwanwyn. Mae clychau’r gog yn tueddu i flodeuo unrhyw bryd rhwng diwedd mis Mawrth a dechrau mis Mai. Fel arfer y rhain yw’r olaf bron i flodeuo yn y gwanwyn cyn i ddail newydd gau canopi’r coetir a chau golau’r haul. Yn y pen draw, mae’r clychau’r gog yn pylu mewn lliw. Os hoffech chi weld carped o las, beth am ymweld â gwarchodfa RSPB Ynys-Hir y gwanwyn hwn.
Cnoc Cnocell y Coed
Un o arwyddion cynharaf y gwanwyn yw cnoc cnocell y coed wrth iddi bigo ar graen y coed i sefydlu ei thiriogaeth. I leddfu effaith y cnocio, mae gan gnocell y coed feinwe bigog rhwng gwaelod y bil a’r penglog. Mae’n debygol mai’r gnocell fraith fwyaf neu’r gnocell werdd y dewch ar ei thraws os gwelwch gnocell y coed, ond ar yr achlysur prin, efallai mai’r gnocell fraith leiaf y byddwch yn digwydd ei gweld.
Gyda chyfyngiadau’n cael eu llacio ymhellach, rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod ein gwarchodfeydd wedi dechrau cynnal digwyddiadau. Cliciwch yma i ddod o hyd i’ch gwarchodfa agosaf a pha ddigwyddiadau llawn hwyl maen nhw wedi’u trefnu yn ystod y gwanwyn.