English version available here
Mae’r diwrnodau’n cynhesu ac yn ymestyn, mae’r adar yn canu a’r blodau’n agor – mae’r gwanwyn wedi cyrraedd ac mae’n rheswm dathlu. Dewch inni edrych ar rai o uchafbwyntiau’r tymor sy’n newid.
1. Carpedi o Glychau’r Gog
Mae mynd am dro trwy goedwig sy’n frith o heulwen a charped o Glychau’r Gog yn ffordd hyfryd i godi’ch ysbryd. Mae’r blodau ar eu llawn dwf ym mis Ebrill, a’u lliw glas-fioled dwys a’u persawr digamsyniol melys a chryf yn cynnig dihangfa o fywyd beunyddiol. Mae bron hanner Clychau’r Gog y byd yn y DU - maent yn brin ymhob man arall. Mae’r blodau mor bwysig mae’n rhywogaeth a warchodir, ac mae’n anghyfreithlon i’w pigo, eu codi o’r gwraidd neu eu dinistrio’n fwriadol. Mae’n demtasiwn cerdded i ganol y môr o las, ond mae’n cymryd rhwng pump a saith blwyddyn i’r clystyrau’n sefydlu eu hunain a gall gymryd blynyddoedd iddynt ymadfer o ddinistr ôl traed, felly peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybrau. Mae Llyn Efyrnwy a RSPB Ynys-hir yn lleoedd arbennig o dda i’w gweld.
2. Cân y Gog
Mae cri ddigamsyniol y Gog yn brinnach nag y bu, ond mae’n dal i’w glywed yn ucheldiroedd ac ardaloedd corslyd Cymru. Maent yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn dod yma i baru, gan gyrraedd o ganol mis Ebrill ymlaen. Ar ôl paru, mae’r aderyn benyw yn chwilio am nyth i ddodwy ei hwy ynddi, gan ddewis yn benodol yr un rhywogaeth a fu’n ei magu hi. Bydd yn treulio oriau’n chwilio am y nyth berffaith, gan nodi symudiadau’r aderyn lletyol. Rhaid iddi ddodwy ei hwy pan fydd nythaid yr aderyn lletyol wedi cychwyn. Pan ddaw’n amser, rhaid iddi ddodwy’r wy a thynnu un o wyau’r aderyn lletyol o’r nyth yn ei phig cyn diflannu. Bydd y rhiant wedi hen ymadael erbyn i’r cyw deor. Hefyd yn ddiddorol yw’r ffordd mae’r Gog ifanc yn gwybod sut a phryd i fynd ar ei hymfudiad hir i Affrica. RSPB Carngafallt yw un o’r lleoedd gorau i fynd os hoffech weld neu glywed eich Cog gyntaf y gwanwyn hwn.
3. Sgrechiadau’r Gwenoliaid Duon
Heb os, sŵn y gwanwyn yw sgrechiadau’r Gwenoliaid Duon. Treuliant eu bywydau cyfan bron yn yr awyr, gan fwydo, cysgu a pharu tra’n hedfan. Bob blwyddyn, mae Gwenoliaid Duon yn dychwelyd i Gymru o Affrica i fridio, ond gostyngodd y niferoedd 74% ar draws Cymru rhwng 1995 a 2021. Mae’r adar yn hoffi bylchau uchel ar gartrefi ac adeiladau eraill, ond gellir colli’r tyllau pwysig hyn oherwydd gwaith adnewyddu. Mae’r ardal o amgylch Morglawdd Bae Caerdydd yn le delfrydol i’w gweld y gwanwyn hwn.
4. Ysgyfarnogod yn Bocsio
Mae ysgyfarnogod yn rhywogaeth amlwg gyda’u blew eurfrown a chlustiau hir. Gallant redeg ar gyflymdra o hyd at 45 milltir yr awr a nhw yw mamal cyflymaf y tir yng Nghymru. Gallwch eu gweld drwy gydol y flwyddyn, ond mae eu hymddygiad bocsio unigryw i’w weld yn y gwanwyn gan fwyaf, wrth i’r tymor bridio ddechrau. Mae’r benywod yn herio’r gwrywod i wneud eu gorau glas mewn proses dethol digyfaddawd. Brwydr grym ewyllys a ddaw yn gyntaf, wrth iddynt ymgymryd â sesiwn o focsio gorffwyll. Ei stamina sydd dan brawf nesaf, wrth iddo redeg ar ei hôl nerth ei draed. Rhaid i’r gwryw ddangos ei ymroddiad wedyn, trwy gadw’r gwrywod eraill sy’n cystadlu i ffwrdd o’r fenyw. Yn gynnar yn y bore neu gyda’r nos yw’r amserau gorau i weld ysgyfarnogod ac mae RSPB Ynys Lawd yn le poblogaidd.
5. Dychweliad y Gwybedog Brith
Coetiroedd Derw Cymru yw cadarnle bridio’r ymwelydd gwanwynol hwn. Fel llawer o adar sy’n mudo, maent yn wynebu heriau cymhleth yn eu hardal bridio a’u hardal gaeafu, megis tywydd eithafol mwy rheolaidd yn gysylltiedig â newid hinsawdd. Cymru sy’n cynnal y rhan fwyaf o boblogaeth y DU (68-76%), ac oherwydd dirywiad ym mhoblogaeth fridio’r DU yn ddiweddar, mae’n rhywogaeth â blaenoriaeth inni. Yng Nghymru, mae pori gwartheg yr Ucheldir yn creu’r cynefin cywir iddynt yn y Fforest Law Celtaidd, ac rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn nifer o’n gwarchodfeydd natur, gan gynnwys Llyn Efyrnwy a RSPB Gwenffrwd Dinas i osod blychau nythu.
Cymerwch ran ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cor y Bore Bach!
Mae dydd Sul 5 Mai yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Cor y Bore Bach. Mae ymchwil yn dangos y gall gwrando ar ganu adar wella ein hiechyd meddwl a’n lles. Mae ein gwarchodfeydd yn lle perffaith i fynd allan a chlywed adar yn canu’n llachar trwy gydol y gwanwyn, gyda llawer o ddigwyddiadau arbennig Cor y Bore Bach yn cael eu cynnal ym misoedd Ebrill a Mai. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn ar ein gwefan. Ewch i rspb.org.uk.