2023 – blwyddyn o fynd i’r afael â’r argyfwng natur mewn sawl maes

English version available here

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n naturiol i fyfyrio ar y flwyddyn sydd newydd fynd heibio, gan bwyso a mesur yr holl ddigwyddiadau sydd wedi digwydd dros y deuddeg mis diwethaf. Gall cydbwyso’r hyn a aeth yn dda â’r hyn na weithiodd, er mwyn crynhoi pa fath o flwyddyn mae wedi bod, fod yn dasg eithaf chwerw felys; ac er bod mwy i’w wneud bob amser, gallwn ddathlu ein bod wedi mynd a’n neges a’n hagwedd gadarnhaol tuag at natur i lawer o wahanol lefydd eleni. Dyma rai o’r uchafbwyntiau!

Ym myd gwylio adar, dim ond un peth mae mis Ionawr yn ei olygu – y Sesiwn Fawr Gwylio Adar! Cymerodd 26,206 o bobl ran ledled Cymru, gan ddychwelyd 15,325 o arolygon, ar ôl gwylio 513,485 o adar! Fel y prosiect gwyddoniaeth mwyaf i ddinasyddion yn Ewrop, mae’r Sesiwn Fawr Gwylio Adar yn hanfodol i’n gwaith. Mae’n ddangosydd o ba adar sy’n gwneud yn dda a pha rai y gallai fod angen ein help arnynt – cyfle gwych i wylwyr adar hen a newydd fynd allan a chwarae eu rhan dros ddyfodol adar gardd Cymru.

“Roeddem ni mor hapus â faint o aelodau’r cyhoedd yng Nghymru a gymerodd ran yn Sesiwn Fawr Gwylio Adar eleni. Mae pob un sy’n cymryd rhan yn y Sesiwn Fawr Gwylio Adar yn cyfrannu at giplun blynyddol o sut mae ein hadar yn perfformio ledled Cymru. Dim ond wrth i ni ddeall sut mae bywyd gwyllt yn ymdopi y gallwn ni eu hamddiffyn. Gwyddom fod byd natur mewn argyfwng ond, gyda’n gilydd, gallwn gymryd camau i ddatrys y problemau hyn.”

- Rhys, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru


Ymgyrch i'w wylio

Daeth cyfres boblogaidd y BBC, Wild Isles, i’n sgriniau ym mis Ebrill, gan ddangos yr ysblander naturiol sydd gan yr ynysoedd hyn i’w gynnig, gyda nifer ohonynt yn cael eu rhannu gyda gwylwyr y DU am y tro cyntaf. Ond yr hyn a wnaeth y rhaglen yn rhagorol hefyd oedd dangos y colledion dinistriol y mae ein natur wedi’u dioddef dros y degawdau diwethaf a pham mae’n rhaid i ni weithredu nawr os ydym am wrthdroi ac atal yr heriau trychinebus y mae ein natur a’n hinsawdd yn eu hwynebu. Fe gymeron ni fantais o'r neges hon yn dilyn y gyfres boblogaidd, gyda’r ymgyrch Achub ein Hynysoedd Gwyllt.

“Mae’r ymgyrch wedi galw am ymdrech enfawr ac mae wedi bod yn her gyffrous i weithio ar draws y tri sefydliad partner. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae agweddau fel Cymdogaethau Natur a Chynllun Natur y Bobl yn parhau i ddatblygu yn 2024 a thu hwnt, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fyd natur.”

- Tamsin, Swyddog Ymgyrchoedd RSPB Cymru

Ffermio gyda gobaith

Os ydym am wrthdroi’r argyfwng natur, yna mae’n rhaid newid ein harferion amaethyddol. Mae 90% o dir Cymru yn dir amaethyddol o ryw fath, ac os ydym ni’n mynd i wrthdroi’r golled enfawr mewn natur rydym ni’n parhau i’w hwynebu, yna mae angen datrysiadau radical arnom sydd o fudd i ffermwyr a natur Cymru fel ei gilydd. Er ein bod wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ar adegau wrth gyflwyno deddfwriaeth addas, roeddem yn falch o weld Bil Amaethyddiaeth newydd yn cael ei basio drwy’r Senedd ym mis Awst.

“Rydym wedi cael ein plesio eleni o weld Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn dod yn gyfraith, lle mai ei nod yw sicrhau amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd a chynnal a gwella ecosystemau. Mae hwn yn gyfnod newydd i ffermio yng Nghymru ac rydym yn croesawu ei uchelgais. Rydym nawr yn gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y fframwaith cyflawni, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn gallu darparu’r modd i ffermwyr Cymru sbarduno newid cadarnhaol go iawn ar gyfer ffermio, natur a hinsawdd yma yng Nghymru.”

- Hannah, Swyddog Polisi Defnydd Tir RSPB Cymru

 

Cymru’n torri tir newydd i warchod ein hadar môr

Bydd hanner Adar Drycin Manaw y byd yn mudo i ynysoedd Cymru yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Ynys Sgogwm yw trydydd nythle gwylanwyddau mwyaf y byd. Mae hynny’n brawf o ba mor bwysig yw Cymru i adar y môr. Felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno Strategaeth Adar Môr a fydd yn diogelu’r adar ysblennydd hyn sy’n dod atom ni fel rhan hanfodol o’u cylch nythu blynyddol. Fe wnaethom greu cardiau post i’r cyhoedd eu hanfon at Julie James, y Gweinidog Hinsawdd, i gyfleu’r neges bod y cyhoedd yng Nghymru o ddifrif ynghylch gweld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth a addawyd i achub ein hadar môr, yn gyflym ac yn ddi-oed.

“Cawsom ymateb gwych i’n hymgyrch adar môr, gyda bron i 1,000 o bobl yn cysylltu â’r Gweinidog i ofyn am gyhoeddi strategaeth cadwraeth adar môr ar gyfer Cymru. Gobeithiwn yn fawr y bydd hyn yn dwyn ffrwyth yn y flwyddyn newydd.”

- Emily, Uwch Swyddog Polisi Morol RSPB Cymru

 

Gwirfoddoli i achub y Gylfinir – carreg filltir i grŵp Caerdydd

Gwirfoddolwyr yw conglfaen gwaith RSPB Cymru. Yng Nghymru, mae bron i 700 o wirfoddolwyr yn cyflawni amrywiaeth eang o rolau, o Weinyddwyr i Lysgenhadon Cymunedol, o Syrfewyr Rhywogaethau i Arweinwyr Gweithgorau. Yn syml iawn, heb ein gwirfoddolwyr, ni allem wneud yr hyn a wnawn.

Mae rhai o’n tasgau mwyaf, fel cynhyrchu’r adroddiad Cyflwr Byd Natur, yn dechrau gyda gwaith ein gwirfoddolwyr, sy’n aml yn arbenigo mewn un rhywogaeth neu gynefin, yn gweithio ar y rheng flaen, yn brwydro elfennau Cymru neu y tu ôl i’r llenni, yn trefnu ac yn cydlynu i wneud i bethau ddigwydd.

Enghraifft wych o hyn yng Nghymru yw prosiect Curlew LIFE yn Ysbyty Ifan a Hiraethog, lle mae dros 30 o wirfoddolwyr yn canolbwyntio ar weithio gyda’r gymuned ffermio leol i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys monitro poblogaeth bresennol y Gylfinir a gwella cynefinoedd ar gyfer y Gylfinir drwy greu ardaloedd gwlyb, torri brwyn a phori dan reolaeth. Ydy hynny’n apelio i chi? Maent yn chwilio am siaradwyr Cymraeg a chydlynydd gwirfoddolwyr!

Roedd 2023 hefyd yn flwyddyn fawr i Grŵp Lleol Caerdydd a’r Cylch wrth iddynt ddathlu hanner canrif yn cyflawni gwaith cadwraeth yn y brifddinas.

“Hanner canrif o lwyddiannau! Rhaid i ni dalu teyrnged i Huw, Sue, Phil, Jess, Angharad a Viv am arwain y grŵp drwy’r pandemig. Diolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr newydd sydd wedi ymuno â’r grŵp yn ddiweddar, a fydd yn rhannu eu hangerdd dros fyd natur Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf.

- Eva, Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr RSPB Cymru

 

Haf wedi’i dreulio’n dda

Mae misoedd yr haf yn golygu dim ond un peth i ni – mynychu digwyddiadau! Mae ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol ynghylch heriau a boddhad natur Cymru nid yn unig yn rhan hanfodol o’n gwaith, ond mae hefyd yn bleser pur.

Roedd yn foment bwysig a balch iawn i ni wrth i ni ymuno â Pride 2023 yng Nghaerdydd, gan ddangos ein cefnogaeth a’n hundod gyda’n holl gymunedau ymylol – nid oes gan natur ffiniau, ac mae hynny’n wir amdanom ni hefyd. Mae ein balchder a’n hymroddiad i’r Gymraeg a’i diwylliant hefyd yn gadarn – ac roedd dweud “shwmae” mawr i bobl o bob oed yng ngŵyl Tafwyl eleni ym Mharc Bute, Caerdydd, a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, gogledd Cymru, yn gyfle gwych i ddathlu popeth sydd gan y Gymraeg i’w gynnig i ni o fewn byd natur a thu hwnt.

“Does dim byd gwell gan RSPB Cymru na mynd allan i gwrdd â phobl, felly roedd hi’n anhygoel gallu gwneud hynny mewn gwahanol ddigwyddiadau dros yr haf ledled Cymru. Roedd bod yn Tafwyl a’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn gyfle gwych i ni ymgysylltu ag aelodau a chefnogwyr. Roedd gweld pobl ifanc sy’n hoffi natur yn chwilio am chwilod yng nghanol Parc Bute yng Nghaerdydd neu’n creu bomiau hadau i’w taflu i’w gerddi yn yr Eisteddfod ym Mhen Llŷn yn uchafbwyntiau personol. Yn dilyn ymgyrch digwyddiadau llwyddiannus iawn eleni, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth mae 2024 yn ei gynnig i ni.”

- Carwyn, Swyddog Digwyddiadau a Chyfathrebu RSPB Cymru

 

Mae cymaint o wahanol ffyrdd o ledaenu’r gair am yr argyfwng natur a sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i achub byd natur yng Nghymru. Ac rydym ni’n credu’n gryf mewn ymgorffori diwydiannau creadigol Cymru – wedi’r cyfan, gellid dadlau bod diwylliant cerddorol ac artistig cyfoethog Cymru wedi cael ei ysbrydoli’n fawr, yn y gorffennol a’r presennol, gan y cyfoeth o natur sydd gennym. Ym mis Medi, cawsom gyfle i rannu negeseuon cadarnhaol am natur yn y caffi a’r lleoliad cerddoriaeth poblogaidd, PARADISE GARDEN, yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd, mewn digwyddiad cydweithredol o’r enw ‘natur(e)’. Yn perfformio’n fyw roedd Ya Yonder, Teddy Hunter a DJ-Ginny, ynghyd ag elfennau gweledol gan Chameleonic. Dyma ddechrau partneriaeth gydweithredol gydag un o’r lleoliadau cerddoriaeth bach mwyaf poblogaidd yn y brifddinas, gyda’r nod o sbarduno sgyrsiau cychwynnol ac anffurfiol, a syniadau am yr argyfwng natur ymhlith pobl, gan ddefnyddio cyfrwng cerddoriaeth electronig ac amgylchynol, a chelf weledol.

Adroddiad arall o argyfwng

Ym mis Hydref, cyhoeddwyd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023, a roddodd gipolwg sobreiddiol arall i ni o ran faint rydym ni wedi gweld ein byd naturiol yn dirywio. Mae hi bob amser yn anodd ymateb i newyddion mor dorcalonnus, ond nid yw colli gobaith byth yn opsiwn - rhaid i ni bob amser weithredu gyda gobaith y gallwn wrthdroi cymaint o’r hyn rydym wedi’i golli. Ac felly, fe wnaethom lansio’r ymgyrch Nature Can’t Wait - sy’n galw ar ein cynrychiolwyr etholedig i weithredu ar frys er mwyn ymateb i’r colledion niweidiol a amlygwyd yn yr adroddiad diweddar. Un o’n galwadau yng Nghymru yw ffurfio Gwasanaeth Natur Cymru - nid yn unig y gall gwasanaeth o’r fath fod o fudd i’r cyhoedd (mae’n hysbys iawn faint mae natur yn ein helpu gyda’n hiechyd meddyliol a chorfforol) - ond gall hefyd roi hwb i’r economi. Yn wir, credwn y byddai ffurfio Gwasanaeth Natur Cymru a buddsoddi mewn adfer natur yn creu hyd at 7,000 o swyddi yn y degawd nesaf. Ein neges i Lywodraeth Cymru yw 'bwrwch ymlaen â’r gwaith'.

Dim ond llond llaw o uchafbwyntiau 2023 RSPB Cymru yw’r uchod – mae cymaint mwy i siarad amdano! Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith a helpu i achub byd natur ar garreg eich drws.