To read this blog in English please click here.

Mae mis Ionawr yn cynnal amrywiaeth o emosiynau - i rai mae’n gyfle da i ffarwelio â holl ormodedd y Nadolig a dechrau’r flwyddyn o’r newydd. I eraill mae’n amser cael yn heini neu i gynilo arian ar ôl yr holl wario dros y gwyliau. Ond i’r adar yn ein gerddi, mae mis Ionawr bob amser yn gyfnod da i hel cyflenwad o fwyd a mwynhau tameidiau blasus er mwyn wynebu misoedd caled y gaeaf o’u blaenau.

Wrth i ni ddianc rhag tywydd oer y gaeaf, rydym yn gofyn i chi feddwl am ein hadar cyn digwyddiad blynyddol Gwylio Adar yr Ardd - yr arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt ein gerddi - a’r cyfan o’ch cartrefi neu’ch man gwyrdd lleol.

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhedeg dros dridiau eto yn 2018, o’r 27-29 Ionawr. Bu dros 24,000 o bobl yn cymryd rhan yng Nghymru yn 2017 a gyda’r gaeaf yn ei anterth mae’n gyfle perffaith i sicrhau bod y teulu cyfan yn cymryd rhan. Rhowch y tegell ymlaen, ewch i nôl bisged a chyfrwch yr adar a welwch yn eich gerddi.

Uchod: Rahul Thanki (rspb-images.com)
 
Yn ogystal â chyfri’r adar, hoffem wybod am y bywyd gwyllt arall sy’n byw yn eich cartref drwy gydol y flwyddyn - megis y llwynog, broga, draenog a’r wiwer. Ond yn bwysicach na dim, does dim gwahaniaeth os byddwch yn gweld cyfoeth o fywyd gwyllt neu ddim o gwbl, gan y byddem yn dal eisiau clywed gennych er mwyn i ni allu gweld beth yw sefyllfa ein byd natur a rhoi help llaw i’r bywyd gwyllt sydd efallai mewn trafferth.

Er bod darparu bwyd ar gyfer ein hadar yn bwysig, mae nifer o ffyrdd eraill o helpu hefyd (mwy o wybodaeth yma - rspb.org.uk/homes).  Mae adar angen ystod eang o blanhigion er mwyn ffeindio lloches, fel y gallant ddefnyddio’r teclynnau bwydo a ddarparwn yn y gaeaf yn ogystal â’r planhigion llawn neithdar sy’n denu pryfed yn yr haf.  Yn ystod y Gwylio Adar yr Ionawr, beth am edrych ar y ffordd y mae’r adar yn dod at eich teclynnau bwydo gan ddefnyddio gwahanol goed, llwyni a gwrychoedd? Gwneud eich gardd yn fwy cyfeillgar i fyd natur yw’r ffordd orau y gallwch chi helpu’r adar a’r bywyd gwyllt arall sy’n ei defnyddio, ac mae llawer o bethau syml y gallwch eu gwneud  i roi bywyd newydd i’ch gardd.

Felly beth am ymuno â’r 24,000 o bobl eraill yng Nghymru a chofnodi’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnoch chi? Gallwch dderbyn rhagor o fanylion am ein digwyddiadau a manylion am sut i dderbyn eich pecyn rhad ac am ddim yn www.rspb.org.uk/birdwatch.