To read this blog in English please click here
Copaon dramatig, dyffrynnoedd hynafol, afonydd gwyllt a rhosydd agored... mae ein profiad o gefn gwlad Cymru yn cael ei nodweddu gan dirweddau gwyllt a’r bywyd gwyllt eiconig sy’n byw yno. Mae gweld defaid a gwartheg ar hyd y llechweddau hefyd yn ddarlun cyfarwydd, gyda dros ¾ o Gymru’n cael ei ffermio. Mae gweld cefn gwlad sydd llawn bywyd gwyllt a bywyd fferm rhyfeddol yn rhan annatod o’n dealltwriaeth o gefn gwlad Cymru ond, yn anffodus, nid yw’r darlun hwn yn adrodd y stori’n llawn.
Mae llawer o’n bywyd gwyllt o dan fygythiad, ac mae 1 o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru ar ei ffordd i ddifodiant. Un o’r prif ffactorau a nodwyd sydd wedi sbarduno’r dirywiad hwn yw arferion ffermio dwys a ddatblygwyd yn sgil polisïau ffermio. Gan ein bod ar y ffordd i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae cyfle wedi codi yng Nghymru i lunio polisi ffermio newydd yn ogystal â chael ei phobl i’w helpu i’w lunio hefyd. Mae'r dirwedd wleidyddol newydd hon wedi ysbrydoli sefydliadau, cymunedau ac unigolion o bob math i ddod ynghyd i weld beth yw’r elfennau cyffredin sy’n achosi problemau cyffredin a’r atebion ar eu cyfer. Drwy uno, mae ganddynt ddealltwriaeth fwy cyflawn o’r pwnc a llais cryfach i argymell i Lywodraeth Cymru sut un ddylai’r polisi ffermio newydd fod.
Mae RSPB Cymru yn chwarae rhan mewn prosiect cydweithredol tebyg. Ar y cyd â Phrifysgol Bangor, Adnodd a Cynidr Consulting, a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, byddwn yn cynnal cynhadledd ar Dyfodol ffermio mynydd: Y tu hwnt i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, yng Nghanolfan Glasdir yn Llanrwst ar 15 Mawrth. Mae'r digwyddiad yn gyfle i ffermwyr fod yn rhan o’r drafodaeth am yr heriau a'r cyfleoedd a ddaw o ganlyniad i Brexit, a rhoi cyfle iddynt leisio eu barn am bolisi rheoli tir y dyfodol. Mae'r gynhadledd gyffrous hon yn un o nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gydweithio i wneud ffermio yn well i bobl, ffermwyr a natur.
Ymhlith y siaradwyr fydd Kevin Austin, Pennaeth Polisi a Strategaeth Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru, Arfon Williams, Rheolwr Polisi Defnydd Tir RSPB Cymru, Guto Davies, cynrychiolydd Fferm Ifan (grŵp annibynnol o ffermwyr mynydd yn ardal Ysbyty Ifan), a'r Athro Peter Midmore, darlithydd ym maes Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad rhad ac am ddim neu i gadarnhau eich bod yn dod iddo, ewch i’r dudalen eventbrite. Ond peidiwch ag oedi! Mae llefydd yn brin ac ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Taro'r cydbwysedd: bwyd, ffermio a natur
Yr her fawr a wynebwn ar draws y byd yw dysgu sut mae cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, drwy ffyrdd sydd hefyd yn gwarchod ac yn gwella'r amgylchedd naturiol. Yng Nghymru, rhan bwysig o’r sgwrs ar sut i wneud hyn fydd sut y bydd ffermwyr yn cael cymorth i warchod yr amgylchedd, ynghyd â darparu bwyd o safon. Os llwyddwn i daro’r cydbwysedd rhwng bwyd, ffermio a natur, bydd hyn yn diogelu'r cyflenwad bwyd yn well yn ogystal â diogelu ein hadnoddau naturiol, bywoliaeth pobl yn ein cymunedau gwledig, a rhoi sicrwydd o wybod y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn mwynhau Cymru sy’n llawn bywyd. Y weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw Cymru sy’n gyfoethog o ran ei byd natur, sy’n darparu'r adnoddau sydd eu hangen ar bobl, ac yn ailgyflenwi’r hyn sydd ei angen ar fywyd gwyllt. A drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyflawni hyn.
Os ydych chi’n awyddus i gefnogi ffermio sy’n ystyriol o fywyd gwyllt, gallwch wneud gwahaniaeth drwy fod yn rhan o’n e-weithredu i Lywodraeth Cymru. I weld beth arall rydyn ni wedi bod yn ei wneud, cymerwch gip ar ein tudalen Twitter (@RSPBCymru) neu edrychwch ar ein blogiau eraill diweddar.