To read this blog in English, please click here

 

Gallwn ddiogelu natur drwy wneud yn siŵr ei fod wrth galon ffermio yng Nghymru.
E-bostiwch y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud yn siŵr eu bod yn cefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i natur.


Beth yw eich hoff beth am fywyd gwyllt Cymru? Ai galwad hiraethus y gylfinir, cae yn llawn o flodau lliwgar yn ferw o synau pryfetach a gwenyn, neu’r wefr o weld ysgyfarnog wrth iddi ddiflannu o’r golwg? Mae ein profiadau gyda bywyd gwyllt yn bwysig iawn i ni, ond mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i’w ddiogelu.

Mae dros 80% o Gymru yn cael ei ffermio, ac felly mae amaethyddiaeth yn cael effaith enfawr ar ein hamgylchedd. Mae Brexit wedi rhoi cyfle anhygoel i ni lunio polisi amaethyddol newydd a fydd yn ein helpu i adfer a diogelu natur yng Nghymru – a gallwch chi fod yn rhan o hyn. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cymru (CCERA) am gael eich barn am ffermio yn y dyfodol – i natur, i ffermwyr ac i bobl – a bydd eich llais yn cyfrannu at yr argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Pam mae ffermio yn bwysig i natur

Nid dim ond effeithio ar y bwyd a rown ar ein platiau y mae ffermio, mae hefyd yn effeithio ar ein tirweddau, ansawdd yr aer, yr hinsawdd, pridd, dŵr a bywyd gwyllt. Dros y degawdau diwethaf mae arferion ffermio wedi newid a dwysau ac mae’r tir ar gyfer natur wedi cael ei wasgu.  Mae llawer o gynefinoedd wedi dioddef sydd wedi golygu bod llawer o’n hoff rywogaethau wedi colli’u cartrefi, gan eu gadael yn fregus a rhai hyd yn oed yn methu â goroesi.

Mae rhai ffermwyr yng Nghymru eisoes yn cymryd camau cadarnhaol i ddiogelu lle bywyd gwyllt ar y tir y maent yn ei reoli. Ond, oni fyddant yn cael y cymorth polisi y mae ei angen arnynt i ddiogelu natur, yn anffodus bydd bywyd gwyllt yn dal i leihau. Dyna pam mae sicrhau polisi ffermio yng Nghymru yn bwysig, polisi sy’n cefnogi ffermwyr i gefnogi natur ond a fydd hefyd yn darparu’r bwyd rydym ei angen i fyw.

A meddyliwch am y potensial sydd gan ffermio i achub natur yng Nghymru! Mae 80% o’n tir yn cael ei ffermio. Os gallwn lunio polisi newydd sy’n golygu bod ffermio yn cyfrannu at adfer a diogelu natur er mwyn ei gael i ffynnu, byddai’n cael effaith hirdymor digyffelyb ar ein hamgylchedd er gwell.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth

Mae ymchwiliad presennol Pwyllgor CCERA i ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu Gwledig yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni ddangos i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ein bod am gael polisi newydd sy’n dda i ffermwyr, sy’n dda i bobl, ac yn dda i natur. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd ein ffermwyr yn gallu gofalu am ein tir a’n bywyd gwyllt er mwyn iddo ffynnu. Ond bydd angen ein lleisiau ni i gyd i sicrhau bod ein gweledigaeth yn troi’n realiti. Felly cysylltwch! Gallwch helpu natur drwy siarad o’i blaid a gofyn iddynt argymell polisi rheoli tir cynaliadwy sy’n dda i bobl a bywyd gwyllt .

Dyma gyfle Cymru a ffermwyr Cymru i ddangos i’r byd ein bod yn defnyddio dull gweithredu modern a chynaliadwy sy’n dda i bobl a’r amgylchedd – lle rydym yn cynhyrchu bwyd iach a chynaliadwy, yn cynnal amgylchedd iach, ac yn cefnogi bywyd gwyllt amrywiol a llewyrchu. Gall Cymru arwain y ffordd.

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed gennych – e-bostiwch y pwyllgor heddiw!

I ddarllen rhagor am y ffordd rydym yn hyrwyddo ffermio sy’n gyfeillgar i natur yng Nghymru, darllenwch ein blogiau ffermio.