To read this blog in English please click here.

Hoffech chi fwynhau amser efo’r teulu yn yr awyr agored yn darganfod y byd natur anhygoel yn ein dinas?
Yna Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yw’r clwb perffaith i chi!


Cewch hwyl a sbri yn eich sgidiau glaw, wrth rwydo pyllau gyda’ch gilydd a hela am fwystfilod bach - mae gennym ni llond trol o hwyl i’r teulu cyfan. Mae Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yn cyfarfod ar y trydydd dydd Sul o bob mis, ac arweinir pob sesiwn gan RSPB Cymru a Cheidwaid Parc Cyngor Dinas Caerdydd, er mwyn helpu chi a’ch teulu i ddod yn nes at natur drwy gydol y flwyddyn. Mae croeso i chi ymuno â ni am un sesiwn neu lawer, beth bynnag sydd hawsaf i chi.


Mae dros 30 o deuluoedd yn rhan o Dditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd ar hyn o bryd, a hyd yma rydym wedi darganfod pyllau glan môr traeth Sili, coedlannau yn Fferm y Fforest a bywyd gwyllt Llwybr Archwilio Parc Bute. Mae plant mor ifanc â dau wedi mwynhau palu planhigion sy’n fwy mewn maint na nhw! Lle mae plant 15 oed wedi cael eu hudo gan y creaduriaid maent wedi dal ym mhwll Fferm y Fforest. Gyda rhywbeth at ddant pawb, mae’r clwb yn gyfle perffaith i dreulio amser yn y gwyllt!

   
Rhaglen 2019 / 2020


Dydd Sul 21 Ebrill 2019 
10.00 – 12.00
Taith thema Pasg, celf a chrefft yn Fferm y Fforest

Dydd Sul 19 Mai 2019
10.00 – 12.00
Trochi pwll a helfa trychfilod ym Mharc Llanisien

Dydd Sul 16 Mehefin 2019
10.00 – 12.00
Sesiwn adnabod gwyfynod yn Fferm y Fforest, wedi ei arwain gan George Tordoff o ‘Butterfly Conservation’

Dydd Sul 21 Gorffennaf 2019
10.00 – 12.00
Darganfod planhigion meddyginiaethol a pherlysiau yn Fferm y Fforest

Dydd Sul 18 Awst 2019 (Wedi'i gaslo)
20.30 – 22.30
Taith ystlumod ym Mharc Hailey

Dydd Sul 15 Medi 2019
10.00 – 12.00
Gweithdy Ffotograffiaeth Fferm y Ffores

Dydd Sul 20 Hydref 2019
13:00 – 15:00
Darganfod ffyngau ym Mynwent Cathays

Dydd Sul 17 Tachwedd 2019
10.00 – 12.00
Creu celf a cherddoriaeth wyllt yn Fferm y Fforest

Dydd Sul 15 Rhagfyr 2020
10.00 – 12.00
Gweithgaredd Natur yn Fferm y Fforest a siocled poeth

Dydd Sul 19 Ionawr 2020
10.00 – 12.00
Glanhau’r Traeth (lleoliad i’w gadarnhau)

Dydd Sul 16 Chwefror 2020
10.00 – 12.00
Gwylio Adar y Gaeaf yng Ngwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd

Dydd Sul 17 Mawrth 2020
10.00 – 12.00
Profiad o Ysgol Goedwig yn Fferm y Fforest

Sut i ymaelodi

Ebostiwch cymru@rspb.org.uk neu ffoniwch 02920 353000 i gofrestru os gwelwch yn dda. Er mwyn talu am adnoddau mae pob sesiwn yn costio £1.50 ar gyfer pob plentyn neu aelodaeth blwyddyn am £9 ar gyfer pob plentyn. Gallwch dalu ar y dydd ac mae oedolion yn cael mwynhau’r hwyl am ddim.

 

Cwestiynau

1.  Gall plant fwynhau’r hwyl ar eu pen eu hunain? 

Er bod gan ein harweinwyr archwiliadau gan y DBS (yn ddiogel i weithio gyda phlant) gofynnwn i rieni/gofalwyr aros trwy gydol y cyfarfod. Nid rhywbeth i blant yn unig yw’r awyr agored ac rydym am i chi fel oedolion fwynhau rhyfeddodau byd natur hefyd. 

2. Rwy’n gorfod gweithio ambell ddydd Sul, a gaiff aelodau eraill o’r teulu ddod draw?

Mae croeso i Fodrybedd, Ewythrod, Teidiau neu Neiniau fod yn rhan o Dditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd! Er hynny, gofynnwn ichi roi gwybod inni os oes rhywun arall yn dod gyda’ch plant fel ein bod yn gwybod i’w disgwyl ymlaen llaw.

3. Beth sy’n digwydd os ydy’r tywydd yn ddrwg?

Os oes newid yn y rhaglen oherwydd tywydd drwg, byddwn wastad yn ceisio cysylltu â chi ymlaen llaw. Os digwydd inni orfod canslo byddwn wastad yn eich ffonio neu’ch tecstio ar fore’r cyfarfod.

4. A oes angen inni ddod â rhywbeth gyda ni?

Yr oll sydd angen arnoch yw dillad addas i’r tywydd, plant (ac oedolion!) llawn cynnwrf a brwdfrydedd dros natur!