Please click here to read the English version of this blog.
Fedrwch chi ddychmygu Cymru heb alwad y gog yn y gwanwyn, gwenyn yn suo yn yr haf neu gylfinirod a phibyddion y mawn yn ymgasglu ar hyd ein harfordir yn yr hydref? Mae’n ddarlun ofnadwy, ond mae’r rhain yn rhywogaethau sy’n prinhau o’n cefn gwlad, a hynny’n gyflym.
Beth am wyddau talcenwyn hardd yr Ynys Las, sy’n ymweld â Chymru dros y gaeaf? Mae poblogaeth y rhywogaeth hon ar draws y byd yn dirywio’n enbyd, ac rydyn ni’n bryderus iawn ynghylch eu dyfodol.
(Llun gan Paul Marshall)
Mae’r boblogaeth fechan sy’n dod yma i dreulio’r gaeaf yng Nghymru yn lleihau yn gyflym. Dim ond 19 o wyddau welwyd yn Aber Dyfi eleni, gydag ychydig o bobl yn gweld rhai mewn un neu ddau man arall yng ngogledd Cymru. Er hynny, mae ein poblogaeth fechan yn hollbwysig er mwyn cynnal eu niferoedd a’u cyrhaeddiad deheuol.
Mae’r adar yn ffyddlon iawn i’r mannau lle maen nhw’n treulio’r gaeaf, gan ddod yn ôl blwyddyn ar ôl flwyddyn. Golyga hynny unwaith maen nhw wedi eu colli o Gymru, mwy na thebyg mi fydden nhw wedi mynd am byth.
Er hynny mae Cymru’n un o ddwy wlad yn unig yn y byd ar lwybr mudo'r gwyddau, lle nad oes gwaharddiad llwyr ar eu saethu. Ar hyn o bryd mae moratoriwm gwirfoddol ar eu saethu mewn rhannau o Gymru ar adegau o’r flwyddyn ac mae clybiau ffowlera yn cydymffurfio ag ef. Ond, ‘dyw hyn ddim yn amddiffyn y gwyddau yn y cefn gwlad ehangach.
Ond nawr, mae gennym gyfle i newid hynny. Mae gan Lywodraeth Cymru y grym i wahardd saethu gwyddau talcenwyn yn llwyr, ac maen nhw newydd lansio ymgynghoriad cyhoeddus i ganfod beth yw eich barn chi.
A wnewch chi bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar saethu'r adar hyn sydd mewn perygl.
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau na fydd gwyddau talcenwyn yn cael eu saethu yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i achub yr adar hyn sydd mewn perygl, rhag diflannu’n llwyr o Gymru.
A wnewch chi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru heddiw os gwelwch yn dda, a rhoi gwybod iddyn nhw eich bod yn cefnogi gwaharddiad llwyr ar saethu pob gŵydd dalcenwyn.
Os gwelwch yn dda ebostiwch . . .
natureconservation@wales.gsi.gov.uk
. . . gyda’r pwnc “Ymgynghoriad gwyddau talcenwyn”.
Gwnewch yn siwr eich bod yn gadael iddyn nhw wybod eich bod yn cefnogi opsiwn 1 – gwaharddiad llwyr ar saethu gwyddau talcenwyn ledled Cymru.
Mae pob ymateb yn bwysig, a gallwch chi helpu i warchod yr adar hyn sydd mewn perygl.
Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i chi.
Os oes angen help arnoch wrth benderfynu beth i’w ddweud gallwch ddefnyddio ein cyfarwyddyd byr yma: