(Cerdit Aardman/Netflix)

Rydyn ni'n falch iawn o fod yn bartner gyda Netflix ac Aardman ar Robin Robin, sy’n stori gerddorol stop-symud newydd ar gyfer y Nadolig ac sy’n adrodd sut mae robin goch ifanc yn ceisio darganfod ei le yn y byd. Mae’n ymddangos am y tro cyntaf ar Netflix ar Tachwedd 24 – felly rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur! 

 

I ddathlu, rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â theithiau antur unigryw ar thema Robin Robin yma yn RSPB Ynys-hir  y Nadolig hwn. 

 

Mae dros 30 o warchodfeydd yr RSPB o amgylch y DU yn cynnig teithiau ar gyfer teuluoedd i helpu pawb fod eu robin gorau. Yn ogystal, bydd pecyn gweithgaredd unigryw Robin Robin a’r RSPB gyda llyfryn ynglŷn â’r daith, gweithgareddau sy’n gysylltiedig â robin, cerdyn ryseitiau bwyd ar gyfer adar a llawer mwy. 

 Bydd y teithiau llawn hwyl hyn yn caniatáu i’r teulu cyfan gael profiad o lawenydd Nadolig Robin Robin, y cwbl tra’n treulio amser yn yr awyr agored.

(Ceridt Aardman/Netflix)

Rhwng Tachwedd 24 a Ionawr 10, bydd anturwyr ifainc yn dysgu i ganu fel robin goch, dod o hyd i’w gallu arbennig eu hunain, a defnyddio eu synhwyrau i gyd i gysylltu gyda’u robin goch mewnol. Bydd llyfryn gweithgareddau yn helpu plant i gwblhau'r holl heriau a derbyn tystysgrif am gwblhau’r llwybr a dod yn robin goch gwych. 

 

Bydd llwybrau sain hefyd ar gael gyda’r actorion Mali Ann Rees yn siarad yn y Gymraeg a Bronte Carmichael yn siarad yn Saesneg, sef yr actorion llais ar gyfer Robin Robin.  

 

Ymysg gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnig mae digwyddiadau dweud stori a chrefftau ar thema’r robin goch. 

(Credit Aardman/Netflix)

Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gydag Aardman a Netflix i ddathlu swyn y robin goch gyda theuluoedd yn ystod Tymor y Nadolig. Un o’r adar mwyaf annwyl y DU ydyn nhw ac maen nhw’n wir eicon y Nadolig. Bydd ein teithiau newydd yn trochi teuluoedd yn stori Robin Robin ac yn dod â hi yn fyw ymysg byd natur, a gobeithiwn y bydd y ffilm a’r teithiau antur yn gallu ysbrydoli pawb i ddarganfod robinod cochion a bywyd gwyllt eraill wrth eu hymyl nhw a mynd allan i fyd natur. Mae ein pecyn gweithgareddau Robin Robin hefyd yn cynnwys gweithgareddau a syniadau ynglŷn â sut y gallwch chi helpu robinod a bywyd gwyllt eraill y gaeaf hwn o’ch cartrefi. 

 

Dywed Dan Ojari a Mikey Please, cyd-greawdwyr a chyfarwyddwyr Robin Robin: “Mae’n freuddwyd sydd wedi cael ei gwireddu i fod yn bartner gyda’r RSPB, gan ddod â’n Robin ni i’w gwarchodfeydd rhyfeddol a helpu teuluoedd gysylltu gyda’r bywyd gwyllt o’u cwmpas. Mae stori Robin Robin yn trafod camdealltwriaeth rhwng y bobl sef yr ‘Who-mens’ ac adar, ac rydym wrth ein boddau yn cefnogi unrhyw ymdrech a fydd yn helpu i ddod â’n dau fyd yn agosach at ei gilydd.” 

 

Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am ein digwyddiadau a'n gweithgareddau Robin Robin https://events.rspb.org.uk/ynys-hir

Am fanylion llawn o’n cyfleusterau a'n hamseroedd agor dros y Nadolig edrychwch ar ein https://bit.ly/30tkJoG