Hwyrach eich bod yn ymwybodol o’n pryderon am ddatblygiad newydd oddi ar arfordir Môn. Prosiect ynni adnewyddol morol newydd yw Parth Arddangos Morol Gorllewin Ynys Môn neu ‘Morlais’. Yn anffodus mae maint y prosiect yn fygythiad mawr i fywyd gwyllt lleol.

Beth yw'r prosiect arfaethedig?

Y nod yw defnyddio tyrbeini morol sy'n manteisio ar rediad y llanw i greu ynni 'llif llanw'. Os caiff ei wireddu'n llawn, byddai'n adeiladu 620 o beiriannau yn y môr heb fod ymhell oddi ar arfordir enwog RSPB Ynys Lawd. Fe fyddai'r datblygiad yn hawlio dros 35 cilomedr sgwâr o'r môr.

 Pam bod yr ardal hon mor bwysig?

Mae RSPB Ynys Lawd yn cynnig golygfeydd arfordirol heb eu hail. Mae'r ardal yn gartref i nifer o adar eiconig fel y pâl. Yma daw dros 10,000 o wylogod, 1,300 o lursod i nythu a magu eu cywion bob haf. Wrth droed y clogwyni gwelir dolffiniaid a llamhidyddion hefyd. Daw dros 180,000 o bobl i weld yr olygfa ryfeddol hon gan ddod â thwristiaeth bwysig i Ynys Môn.

Byddai'r dechnoleg a ddefnyddir i'r prosiect yn newydd sbon. Nid oes gwybodaeth am ei effaith ar fywyd gwyllt felly fe fydd yn anodd iawn i'w ddarogan. Amcangyfrifir y bydd amrywiaeth o effeithiau posib. Yn ôl un amcangyfrif gan Menter Môn gall dros 60% o'r gwylogod a 98% o lursod gael eu colli o ganlyniad i daro i mewn i'r tyrbeini. Byddai hynny'n gyfanswm o 795 o adar y flwyddyn.

Rydym yn bryderus iawn o faint y datblygiad sy'n cael ei ystyried a'i effaith ar boblogaeth yr adar. Credwn fod cynllun Morlais yn hap chwarae â dyfodol bywyd gwyllt RSPB Ynys Lawd a'r dwristiaeth sy'n dibynnu arno. Rydym yn poeni bod yw ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno gan y datblygwyr yn dangos nad ydynt wedi ystyried mesurau i reoli'r risg uchel o niwed i adar.

Am y rheswm hwnnw, rydym yn ailadrodd ein pryderon sydd wedi cael eu codi’n flaenorol trwy’r cais Gorchymyn dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd (TWAO) a’r cais Trwydded Forol sydd ar hyn o bryd yn agored ar gyfer ymgynghoriad. Mae’r cais Trwydded Forol yn broses ar wahân i’r TWAO.

Beth hoffwn ni ei weld?

Rydym yn galw am ddatblygiad fesul cam gyda'r mesurau diogelwch a'r rheolaethau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod y cynnig ddim yn chwarae siawns â dyfodol bywyd gwyllt a'r dwristiaeth sydd yn dibynnu arno. Mae hyn yn golygu lleihau'r nifer o dyrbeini i lefel y gellir dangos eu bod yn ddiogel i fyd natur. Hefyd i roi amser i wneud mwy o waith ymchwil ar effeithiau'r dechnoleg er mwyn ehangu ein dealltwriaeth wyddonol ohono.

Mae ein planed yn wynebu argyfwng hinsawdd a naturiol. Moroedd glân yw un o'r pethau sydd gennym wrth gefn wrth i'r hinsawdd newid. Mae ynni adnewyddol yn elfen hanfodol o drin newid hinsawdd ond mae'n rhaid i ddatblygiadau gael eu lleoli fel nad ydynt yn difrodi mwy ar ein moroedd. Wrth i'r cyfyngiadau ar symud godi rydym eisiau croesawu byd lle y gall pobl a natur ddod at eu hunain. 

 Beth yw'r diweddaraf gyda'r ymgyrch?

Ar hyn o bryd, mae cyfle i chi rannu eich pryderon a'ch barn ynglŷn â Morlais trwy ymgynghoriad cyhoeddus newydd ar y cais am Drwydded Forol. Mae angen Trwydded Forol i weithredu yn yr amgylchedd morol. Mae'r cais am Drwydded Forol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru gan mai nhw yw'r awdurdod sydd yn penderfynu. Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 17 Mawrth a 28 Ebrill 2021. I gyflwyno'ch ymatebion, cliciwch y ddolen hon.

Fe gynhaliwyd Ymchwiliad Cyhoeddus ffurfiol mewn perthynas â'r cais TWAO yn ystod mis Rhagfyr ac ar hyn o bryd mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried y cyflwyniadau.