Credyd Aardman/Netflix

Rydyn ni'n falch iawn o fod yn bartner gyda Netflix ac Aardman ar Robin Robin, sy’n stori gerddorol stop-symud newydd ar gyfer y Nadolig ac sy’n adrodd sut mae robin goch ifanc yn ceisio darganfod ei le yn y byd. Mae’n ymddangos am y tro cyntaf ar Netflix ar Tachwedd 24 – felly rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur! 

I ddathlu, rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â theithiau antur unigryw ar thema Robin Robin yma yn 

RSPB Ynys Lawd y Nadolig hwn. 

Mae dros 30 o warchodfeydd yr RSPB o amgylch y DU yn cynnig teithiau ar gyfer teuluoedd i helpu pawb fod eu robin gorau. Yn ogystal, bydd pecyn gweithgaredd unigryw Robin Robin a’r RSPB gyda llyfryn ynglŷn â’r daith, gweithgareddau sy’n gysylltiedig â robin, cerdyn ryseitiau bwyd ar gyfer adar a llawer mwy. 

Bydd y teithiau llawn hwyl hyn yn caniatáu i’r teulu cyfan gael profiad o lawenydd Nadolig Robin Robin, y cwbl tra’n treulio amser yn yr awyr agored. 

Credyd Aardman/Netflix 

 

Rhwng Tachwedd 24 a Ionawr 10, bydd anturwyr ifainc yn dysgu i ganu fel robin goch, dod o hyd i’w gallu arbennig eu hunain, a defnyddio eu synhwyrau i gyd i gysylltu gyda’u robin goch mewnol. Bydd llyfryn gweithgareddau yn helpu plant i gwblhau'r holl heriau a derbyn tystysgrif am gwblhau’r llwybr a dod yn robingoch gwych. 

Bydd llwybrau sain hefyd ar gael gyda’r actorion Mali Ann Rees yn siarad yn y Gymraeg a Bronte Carmichael yn siarad yn Saesneg, sef yr actorion llais ar gyfer Robin Robin.  

Ymysg gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnig mae digwyddiadau dweud stori. 

Bydd ein caffi hefyd yn cynnig bwyd a diod ar thema Robin Robin, fel y gall yr anturwyr gael bwyta mewn steil! Hefyd, bydd ein siop yn gwerthu llyfrau Robin Robin, bathodynnau unigryw Robin Robin a nwyddau i helpu teuluoedd edrych ar ôl robinod a bywyd gwyllt eraill y gaeaf hwn o’u cartrefi.  

 

(Credyd Aardman/Netflix)

 

Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gydag Aardman a Netflix i ddathlu swyn y robin goch gyda theuluoedd yn ystod Tymor y Nadolig. Un o’r adar mwyaf annwyl y DU ydyn nhw ac maen nhw’n wir eicon y Nadolig. Bydd ein teithiau newydd yn trochi teuluoedd yn stori Robin Robin ac yn dod â hi yn fyw ymysg byd natur, a gobeithiwn y bydd y ffilm a’r teithiau antur yn gallu ysbrydoli pawb i ddarganfod robinod cochion a bywyd gwyllt eraill wrth eu hymyl nhw a mynd allan i fyd natur. Mae ein pecyn gweithgareddau Robin Robin hefyd yn cynnwys gweithgareddau a syniadau ynglŷn â sut y gallwch chi helpu robinod a bywyd gwyllt eraill y gaeaf hwn o’ch cartrefi. 

Dywed Dan Ojari a Mikey Please, cyd

greawdwyr a chyfarwyddwyr Robin Robin: “Mae’n freuddwyd sydd wedi cael ei gwireddu i fod yn bartner gyda’r RSPB, gan ddod â’n Robin ni i’w gwarchodfeydd rhyfeddol a helpu teuluoedd gysylltu gyda’r bywyd gwyllt o’u cwmpas. Mae stori Robin Robin yn trafod camdealltwriaeth rhwng y bobl sef yr ‘Who-mens’ ac adar, ac rydym wrth ein boddau yn cefnogi unrhyw ymdrech a fydd yn helpu i ddod â’n dau fyd yn agosach at ei gilydd.” 

Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am ein digwyddiadau a'n gweithgareddau Robin Robin yma  

Am fanylion llawn o’n cyfleusterau a'n hamseroedd agor dros y Nadolig edrychwch ar ein gwefan