Gyda leddfu cyfyngiadau Covid-19 ar atyniadau awyr agored a daeth i rym yng Nghymru heddiw, rydym wrth ein boddau i gyhoeddi bod Ynys Dewi yn ail agor i ymwelwyr o dydd Sul 2fed o Mai.

Gan nad ydym wedi gweld unrhyw ymwelwyr ers mis Hydrf 2019 (!), rydym yn gyffrous iawn am gwrdd a wynebau hen a newydd a’ch croesawu yn ol i fwynhau’r hyfrydwch sydd gan Ynys Dewi i’w gynnig.

Fel y byddech yn digwyl, bu’n rhaid i ni weithredu ychydig o newidiadau i sicrhau bod eich profiad ar yr ynys yn ddiogel, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu glanio bob dydd.  Mae’r manylion llawn isod:

  • Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol – archebwch ymlaen llaw gyda’n gweithredwr cychod Thousand Islands Expeditions (nid oes gweithredwr arall wedi’i drwyddedu i glanio ymwelwyr ar Ynys Dewi). Cysylltwch a nhw ar 01437 721721 neu e-bostiwch info@thousandislands.co.uk i archebu lle ar y cwch. Byddant yn rhoi cyfarwyddiadau llawn i chi ar drefniadau parcio ceir a’r trefniadau cyfarfod yn St Stinian.

 

  • Er mwyn cynnal pellter cymdeithasol ar y cwch, mae’r niferoedd wedi’u cyfyngu i 12 teithiwr ar bob taith. Rhaid gwisgo gorchudd gwyneb bob amser ar y cwch gan bod adegau pan na fydd pellter 2m rhwng teithiwr a chriw yn bosib.

 

  • Bydd amseroedd hwylio yr un fath ag o’r blaen h.y. 10:00 a 12:00 gyda dau gwch i ffwrdd yn y prynhawn am 15:45 a 16:00.

 

  • Os bydd y tywydd yn caniatau, byddwn ar agor o ddydd Sul i ddydd Iau (ar gau dydd Gwener a dydd Sadwrn). Gan bod dim ond dau aelod o staff ar yr ynys eleni, bydd ambell ddiwrnod ychwanegol y bydd yn r8.haid i ni gau i wneud gwith cadwraeth neu ffermio hanfodol.  Byddwn yn ymdrechu i rhoi digon o rybudd ymlaen llaw i’n gweithredwr cychod.

 

  • Bydd y sgwrs ragarweiniol nawr yn digwydd y tu allan ac nid yn y sied ymwelwyr moethus y bydd llawer ohnoch wedi dod i garu! ….

 

  • Bydd y siop ar gau felly dewch a’r holl ddwr a bwyd gyda chi ac ewch a’ch sbwriel i gyd i ffwrdd ar diwedd y dydd.

 

  • Bydd y toiledau compost ar agor gyda ychydig o newidiadau fach a fydd yn cael eu cyfleu i chi ar ol cyrraedd.

 

  • Am resymau bioddiogelwch ni chaniateir bagiau agored – gwnewch yn siwr bod pob sip neu caewr yn gweitho’n iawn a bod bagiau i gyd ar gau. Gofynnir i chi gynnal gwiriad bioddiogelwch o’ch bag ar y cwch.

Ar ol 546 diwrnod ers yr ymwelydd diwethaf, mae’n ddiogel dweud ein bod ni’n edrych ymlaen i’ch croesawi yn ol!  Rydym yn gwerthfawrogi bod llai o gyfleoedd glanio eleni ac efallai na fydd pawb sydd eisiau yn gallu ymweld.  Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y newyddion diweddaraf, byddwn yn postio blogiau rheolaidd ac yn edrych i mewn i’r opsiwn o gynnal rhai digwyddiadau ar-lein i’r rhai ohonoch na allant ymweld yn bersonal.

Nawr beth yw rhagolygon y tywydd ar gyfer dydd Sul?! ….