Mae Her Natur Dinas yn ddigwyddiad byd-eang sy’n dathlu grym iachau bod allan ym myd natur, drwy chwilio am fioamrywiaeth leol a’i chofnodi. Eleni, mae pethau’n cael eu gwneud ychydig yn wahanol ac rydym yn cydweithio â nifer o bartneriaid prosiect i annog pobl i gymryd rhan a dechrau cofnodi beth sydd yn eu hardal leol.  Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 30 Ebrill a 3 Mai, gyda phob diwrnod yn canolbwyntio ar thema bywyd gwyllt wahanol.

I gael rhagor o wybodaeth am Her Natur Dinas, ewch i: https://citynaturechallenge.org/

Mae’n hawdd cymryd rhan. Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw mwynhau’r awyr agored, tynnu llun o’r bywyd gwyllt rydych chi’n dod o hyd iddo a’i rannu drwy’r ap, iNaturalist. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio iNaturalist, ewch i:  Hyfforddiant iNaturalist  

 

Beth ydyn ni’n ei wneud ar gyfer Her Natur Dinas 2021?

Bydd RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd yn arddangos rhai o’r bywyd gwyllt sydd gennym ar y warchodfa natur, er mwyn i chi allu mwynhau’r olygfa yn eich cartref eich hun. I gymryd rhan, ewch ar ein cyfryngau cymdeithasol ar y dyddiadau canlynol:

Twitter: https://twitter.com/rspbnewport

Facebook: https://www.facebook.com/RSPBNewWitlands/

Dydd Gwener 30 Ebrill - Bwystfilod Bach

Ymunwch â ni yn rhithiol i weld beth sydd yn ein trap gwyfynod! Byddwn yn rhannu beth a welwn yn y trap gyda’n harbenigwr gwyfynod preswyl, a fydd wrth law i rannu ffeithiau ac ateb eich cwestiynau. Byddwn yn rhannu sut rydym yn gosod ein trap gwyfynod ac yn cynnig y cyngor a’r awgrymiadau gorau ar sut allwch chi wneud un gartref.

 

Kevin Hewitt.

Dydd Sadwrn 1 Mai – Pryfed Peillio.

Codi'r llen ar y gwenyn! Byddwn yn rhannu gwybodaeth am sut i ddenu gwenyn i’ch gardd, y gwahanol fathau o wenyn y gallwch ddisgwyl eu gweld, ac un o rywogaethau prin Gwlyptiroedd Casnewydd, y Gardwenynen Feinlas.

Michael Foley

Dydd Sul 2 Mai – Pyllau, planhigion a choed.

Ymunwch â ni ar daith i’r bywyd tanddwr yma yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Gan ddefnyddio ein camera tanddwr, byddwch yn gallu cael cipolwg ar rai o’r creaduriaid dŵr croyw nad ydych yn cael cyfle i’w gweld wrth ddod i'r warchodfa.

Jeremy White

Dydd Llun 3 Mai – Adar a mamaliaid.

Cymerwch ran yn ‘Gwawr yn y Gwlyptiroedd!’ Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio cân adar, lle cewch gyfle i brofi eich sgiliau cân adar mewn cwisiau a pholau piniwn ar-lein. Byddwn yn rhannu fideos o fywyd gwyllt rydyn ni wedi’u dal yn ystod y cyfnod clo, gyda rhai o’r mamaliaid sy’n galw Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref.

 

 Jeremy White