Rydyn ni'n falch iawn o fod yn bartner gyda Netflix ac Aardman ar Robin Robin, sy’n stori gerddorol stop-symud newydd ar gyfer y Nadolig ac sy’n adrodd sut mae robin goch ifanc yn ceisio darganfod ei le yn y byd. Mae’n ymddangos am y tro cyntaf ar Netflix ar Tachwedd 24 – felly rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur! 

I ddathlu, rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â theithiau antur unigryw ar thema Robin Robin yma yn Gwlyptir Casnewydd y Nadolig hwn. 

Mae dros 30 o warchodfeydd yr RSPB o amgylch y DU yn cynnig teithiau ar gyfer teuluoedd i helpu pawb fod eu robin gorau. Yn ogystal, bydd pecyn gweithgaredd unigryw Robin Robin      a’r  RSPB gyda llyfryn ynglŷn â’r daith, gweithgareddau sy’n gysylltiedig â robin, cerdyn ryseitiau bwyd ar gyfer adar a llawer mwy. 

 Bydd y teithiau llawn hwyl hyn yn caniatáu i’r teulu cyfan gael profiad o lawenydd Nadolig Robin Robin, y cwbl tra’n treulio amser yn yr awyr agored. 

Rhwng Tachwedd 24 a Ionawr 10, (ar gau Rhagfyr 24, 25 a 26) bydd anturwyr ifainc yn dysgu i ganu fel robin goch, dod o hyd i’w gallu arbennig eu hunain, a defnyddio eu synhwyrau i gyd i gysylltu gyda’u robin goch mewnol. Bydd llyfryn gweithgareddau yn helpu plant i gwblhau'r holl heriau a derbyn tystysgrif am gwblhau’r llwybr a dod yn robin goch gwych. 

Bydd llwybrau sain hefyd ar gael gyda’r actorion Mali Ann Rees yn siarad yn y Gymraeg a Bronte Carmichael yn siarad yn Saesneg, sef yr actorion llais ar gyfer Robin Robin. 

Ymysg gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnig mae adeiladu nyth, digwyddiadau dweud stori a chrefftau ar thema’r robin goch. 

Bydd ein caffi hefyd yn cynnig bwyd a diod ar thema Robin Robin, fel y gall yr anturwyr gael bwyta mewn steil! Hefyd, bydd ein siop yn gwerthu llyfrau Robin Robin, bathodynnau     

unigryw 

Robin Robin a nwyddau i helpu teuluoedd edrych ar ôl robinod a bywyd gwyllt eraill y gaeaf hwn o’u cartrefi.  

 Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gydag Aardman a Netflix i ddathlu swyn y robin goch gyda theuluoedd yn ystod Tymor y Nadolig. Un o’r adar mwyaf annwyl y DU ydyn nhw ac maen nhw’n wir eicon y Nadolig. Bydd ein teithiau newydd yn trochi teuluoedd yn stori Robin Robin ac yn dod â hi yn fyw ymysg byd natur, a gobeithiwn y bydd y ffilm a’r teithiau antur yn gallu ysbrydoli pawb i ddarganfod robinod cochion a bywyd gwyllt eraill wrth eu hymyl nhw a mynd allan i fyd natur. Mae ein pecyn gweithgareddau Robin Robin hefyd yn cynnwys gweithgareddau a syniadau ynglŷn â sut y gallwch chi helpu robinod a bywyd gwyllt eraill y gaeaf hwn o’ch cartrefi. 

Dywed Dan Ojari a Mikey Please, cyd-greawdwyr a chyfarwyddwyr Robin Robin: “Mae’n freuddwyd sydd wedi cael ei gwireddu i fod yn bartner gyda’r RSPB, gan ddod â’n Robin ni i’w gwarchodfeydd rhyfeddol a helpu teuluoedd gysylltu gyda’r bywyd gwyllt o’u cwmpas. Mae stori Robin Robin yn trafod camdealltwriaeth rhwng y bobl sef yr ‘Who-mens’ ac adar, ac rydym wrth ein boddau yn cefnogi unrhyw ymdrech a fydd yn helpu i ddod â’n dau fyd yn agosach at ei gilydd.” 

 Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn am ein digwyddiadau a'n gweithgareddau Robin Robin yma

Am fanylion llawn o’n cyfleusterau a'n hamseroedd agor dros y Nadolig edrychwch ar ein gwefan