English version available here.
Wrth i'r gwenoliaid a’r teloriaid cyntaf ddechrau cyrraedd Cymru, mae’r dyddiau hirach hefyd yn ysgogi’r adar sy’n mudo dros y gaeaf i gychwyn eu taith adref.
I wyddau talcen-wyn yr Ynys Las, mae hynny’n golygu taith hir i’r gogledd-orllewin – taith ddi-stop o Gymru i Wlad yr Iâ i ddechrau, gan ddilyn arfordir gorllewinol yr Alban, cyn mynd ar draws Gogledd Cefnfor Iwerydd. Erbyn diwedd mis Mai, byddan nhw’n symud eto, gan hedfan yr holl ffordd i orllewin yr Ynys Las. Mae hynny’n tua 2,000 o filltiroedd i gyd. Bydd y rhan fwyaf o wyddau talcen-wyn yr Ynys Las yn treulio’r gaeaf yn Iwerddon ac ar ynysoedd yr Hebrides yn yr Alban, ond mae rhywfaint yn byw yng Nghymru. Arferant fod yn llawer mwy eang eu gwasgariad yma – mae’n debyg bod tua 1,100 o adar yma ganrif yn ôl – ond dim ond mewn dau le maent i’w gweld yn rheolaidd erbyn hyn. Y gaeaf hwn, roedd hyd at 30 yn aber afon Dyfi yng Nghanolbarth Cymru, a 19 ar Ynys Môn.
Yn ôl yr amcangyfrifiad diweddaraf, dim ond 22,000 sydd ar ôl yn y byd, felly er mai cyfran fach ohonynt sydd yng Nghymru, mae pob aderyn yn cyfrif. Mae'r niferoedd wedi gostwng oherwydd nad ydyn nhw wedi bod yn esgor ar ddigon o gywion ers canol y 1990au, yn rhannol oherwydd bod y tymheredd yn ystod y gwanwyn yn is a bod mwy o eira yn eu mannau magu ar yr Ynys Las. I gael y siawns orau o fridio’n llwyddiannus, mae angen i’r oedolion adael Cymru mewn cyflwr da. Diolch i reolaeth ffermwyr, gan gynnwys RSPB Cymru yng ngwarchodfa RSPB Ynys-hir ger aber afon Dyfi, a gwarchodfa RSPB Cors Ddyga ar Ynys Môn, gellir darparu glaswellt maethlon iddynt, ond mae angen digon o amser i bori ar yr adar, felly mae osgoi tarfu arnynt yn hollbwysig.
Fel y rhan fwyaf o gynlluniau cadwraeth llwyddiannus, mae gweithio gyda’n gilydd yn hollbwysig er mwyn esgor ar newid. Mae partneriaeth gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las yng Nghymru wedi golygu bod mudiadau fel RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain a chlybiau adarwyr lleol yn canolbwyntio ar weithio i warchod yr adar. Mae ein staff a’n tenantiaid pori ger afon Dyfi, gan weithio gyda CNC, yn gofalu nad ydynt yn tarfu ar y gwyddau, ac rydyn ni’n ddiolchgar i’r adarwyr yn ardal yr aber am wahardd saethu gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las o wirfodd ers 1972. Ond, ar draws Cymru, gallai’r gwyddau gael eu saethu yn ystod y tymor hela - er enghraifft, saethwyd 29 ar Ynys Môn rhwng 1998 a 2010. Cymru a Lloegr oedd yr unig wledydd â gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las oedd yn caniatáu hela. A’r aderyn ar y rhestr Goch a’r niferoedd yn gostwng yn sylweddol, doedd hyn ddim i'w weld yn gwneud synnwyr – ac roedd arbenigwyr rhyngwladol yn cytuno. Dywedodd AEWA (cytundeb rhyngwladol adar dŵr) wrth lywodraeth y DU nad oedd cytundeb gwirfoddol yn ddigon i fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol.
Roedd Aaron Davies o Abertawe yn rhannu’r pryder hwnnw felly aeth ati i gasglu enwau miloedd o bobl oedd yn cytuno, a chyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2014. Gwrthodwyd yr alwad gan Lywodraeth Cymru i ddechrau, ond ar ôl cael tystiolaeth ategol gan Gymdeithas Adaryddol Cymru ac arbenigwyr fel Dr Tony Fox, gofynnodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd i Lywodraeth Cymru ailystyried. Aeth ati i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn 2016 ond, er bod mudiadau fel RSPB Cymru, Cymdeithas Adaryddol Cymru, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir a chynghorwyr y llywodraeth ei hun (Cyfoeth Naturiol Cymru) o blaid gwahardd saethu, ni newidiwyd y gyfraith.
Ond roedd y ddeiseb yn effeithiol o ran codi proffil gwleidyddol gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las ac fe sbardunodd Lywodraeth Cymru i ariannu'r bartneriaeth i osod lloeren-draswsyryddion ar ychydig o wyddau yn ardal Dyfi yn 2017 er mwyn deall sut mae’r gwyddau’n defnyddio'r dirwedd. Yn yr adroddiad hwn gan BBC News, mae ein warden, Tom, yn esbonio sut oedd hyn yn gweithio. Fe wnaeth un o’r gwyddau hedfan i Iwerddon, sy’n dangos bod Ynys-hir yn rhan o rwydwaith o safleoedd mae’r adar yn eu defnyddio o amgylch Môr Iwerddon. Arhosodd y llall gyda’r haid ar afon Dyfi, gan ddefnyddio meysydd pori yn bennaf ond bu’n bwyta ar y morfa heli hefyd. Yn ystod y gwanwyn canlynol, fe wnaeth y ddau aderyn hedfan i Wlad yr Iâ; dychwelodd un i afon Dyfi’r ddau aeaf canlynol; treuliodd y llall y ddau aeaf ar afon Coll, a rhywfaint o amser yn Loch Gruinart ar Islay (sydd ill dwy yn warchodfeydd natur RSPB Scotland). Mae hyn yn dangos eto sut mae eu safleoedd dros y gaeaf yn gysylltiedig.
Y tu ôl i’r llenni, daliodd RSPB Cymru ac eraill ati i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o warchodaeth i'r gwyddau, ac roedden ni wrth ein boddau pan gyhoeddodd y Gweinidog Hannah Blythyn y byddai gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o adar y caniateir eu saethu. Mae hyn yn gyfraith o heddiw ymlaen. Mae wedi cymryd chwe blynedd, gwyddoniaeth dda, partneriaeth o bobl mae adar yn bwysig iddynt, a llawer o siarad a gwrando. Fis Hydref nesaf, byddwn yn cadw llygad am y gwyddau sy’n dychwelyd ac yn gobeithio y bydd mwy o wyddau ifanc yn eu plith, gan wybod eu bod yn cael eu gwarchod yn well yn ystod y cyfnod maen nhw’n ei dreulio yng Nghymru dros y gaeaf. Wrth iddyn nhw hedfan uwchben, byddwn yn siŵr o gofio am Aaron a phawb arall oedd o blaid gwahardd eu saethu.