English version available here

Mae pawb sydd wedi ymgyrchu dros achub Gwastadeddau Gwent - ers dros ddegawd - yn disgwyl penderfyniad terfynol Llywodraeth Cymru. Yn ddiau, mae adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus eisoes yn nwylo swyddogion Llywodraeth Cymru a bydd Gweinidogion yn penderfynu a ddylid caniatáu'r cynllun yn seiliedig ar ei gynnwys. Wythnosau yn unig sydd rhyngom ni â’r penderfyniad. Dyma hi felly, y cyfle olaf ar gyfer y ffordd liniaru ac ar gyfer byd natur.

Mae'r ardal hanfodol hon yn Ne Cymru wedi'i diogelu'n gyfreithiol am ei bywyd gwyllt prin, ei hecosystem hynafol o ddyfrffyrdd a gwlypdiroedd, a'r manteision anhygoel y mae'n eu creu i gymunedau lleol. Mae'r Llwybr Du gwerth (o leiaf) £1.4 biliwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru, ac a fyddai'n hollti'r dirwedd hynafol hon, wedi'i gondemnio gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Wedi i'r Prif Weinidog gyhoeddi ei benderfyniad, bydd adroddiad yr Arolygwyr yn cael ei gyhoeddi a bydd dadl yn y Cynulliad. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi y bydd hyn yn digwydd cyn penderfyniad terfynol Llywodraeth Cymru ynghylch a yw contractau'n cael eu gosod i gael gwaith adeiladu ar y gweill - felly hyd yn oed os rhoddir caniatâd ar gyfer y Llwybr Du, gallai'r bleidlais fod yn ddylanwadol.

Bydd eich AC yn gallu cynrychioli'ch barn a phleidleisio a yw penderfyniad y Llywodraeth yn un iawn i Gymru. Mae'n hanfodol bod cymaint o Aelodau'r Cynulliad â phosibl yn siarad o blaid byd natur yn y ddadl hon.


Ben Andrew, rspb-images.com

Er efallai na fydd hon yn bleidlais orfodi, dyma'r siawns gryfaf sydd gennym ni i ddylanwadu ar weithrediadau'r Llywodraeth; ein cyfle olaf i roi stop ar y rhan newydd yma o draffordd ac achub y Gwastadeddau.

Dywedwch i'ch AC i godi llais dros fyd natur yn y ddadl a phleidleisio yn erbyn Llwybr Du'r M4.

Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar sut i gysylltu â'ch Aelodau Cynulliad yn ein canllaw ymgyrchu (mae'n dweud eich 'MP' ond mae'r un rheolau'n berthnasol i'n holl gynrychiolwyr gwleidyddol) a gallwch ddod o hyd i'ch ACau yma.

Gallwch hefyd: