English version available here

Mae gwyliau'r ysgol wedi dod i ben ac mae ein trefi a'n pentrefi glan môr yn cymryd hoe fach. Wrth i ymwelwyr dynol troi am adref, mae adar yn wynebu teithiau llawer hirach. Mae adar drycin Manaw sy'n nythu ar RSPB Ynys Dewi, er enghraifft, yn mynd tuag at arfordir De America i aeafu, tra bod môr-wenoliaid y Gogledd yn teithio o ynysoedd Ynys Môn i Dde Affrica a thu hwnt.

RSPB Ynys Lawd, Ben Hall rspb-images.com

2018 yw Blwyddyn y Môr yng Nghymru, ac mae RSPB Cymru wedi bod yn dathlu'r cynefin bywyd gwyllt gwerthfawr hwn sy'n amgylchynu tair ochr ein gwlad. Gobeithio y cawsoch gyfle i dreulio amser rhywle ar hyd yr 1680 o filltiroedd o arfordir Cymru yr haf hwn?

Efallai eich bod wedi ymweld â thraeth ac archwilio rhyfeddodau pyllau cerrig, yn fyw gydag anemonïau môr a sêr môr?

Neu ymestyn eich coesau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan fwynhau'r traethau, y clogwyni a'r golygfeydd syfrdanol, efallai'n ddigon ffodus i weld dolffin neu lamhidydd yn y môr. Neu hyd yn oed forfil, fel y gwnaeth rhai ymwelwyr o glogwyni RSPB Ynys Lawd ym mis Mehefin?

Efallai eich bod wedi ymweld â chytref adar y môr, gan brofi golygfeydd, sŵn ac arogl y gwylogod a’r gwylanod coesddu yn glynu’n dynn ar wyneb creigiog y clogwyni, neu fynd ar daith cwch a gweld y palod yn arnofio o gwmpas un o'r ynysoedd a’u gelwir yn gartref? 

Mae twristiaid yn caru'r môr, ac yn caru natur

Gwyddom fod y môr a'i fywyd gwyllt yn brif resymau dros ymweld â Chymru. Mae 67% o ymwelwyr sy'n aros dros nos yng Nghymru yn dod i fwynhau'r tirlun, traethau a chefn gwlad, ac oherwydd eu bod yn gwario mwy na £17 miliwn bob dydd, credwn ei fod yn bwysig i Lywodraeth Cymru wrando ar yr hyn y maent yn ei werthfawrogi.

Canfu'r arolwg diweddaraf o ymwelwyr sy'n cael gwyliau yng Nghymru mai trip i’r traeth yw’r prif ysgogiad i ymweld, ac ymwelodd un o bob pedwar o'r bobl hyn â gwarchodfa natur neu atyniad bywyd gwyllt. Roedd yr un arolwg yn gosod "ansawdd yr amgylchedd naturiol" fel y prif reswm ar gyfer boddhad ymwelwyr.

Mae gan Gymru olygfeydd ysblennydd o fywyd gwyllt, ac rydym wedi dathlu Blwyddyn y Môr gyda digwyddiadau ar warchodfeydd natur RSPB; o ddinas adar y môr yng RSPBYnys Lawd yn y gogledd-orllewin, i ganolfan ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd yn y de-ddwyrain. Roeddem ar y lôn yng Ngogledd Cymru yn cyfarfod cannoedd o bobl yn ein digwyddiadau Arfordir mewn Argyfwng mewn cyrchfannau o Brestatyn i Abermaw, a gorffen yn ddiweddar gyda digwyddiad glanhau traeth cymunedol yn Llanfairfechan. Ac yn amlwg, mae pobl sy'n ymweld â gwarchodfeydd natur RSPB yn cefnogi tafarndai, siopau, gwestai a busnesau eraill sy'n dibynnu ar foroedd iach, megis cwmnïau cychod.

Hanfodol i ffyniant Cymru

Mae amgylchedd arfordirol a môr yng Nghymru yn cefnogi bron i 92,600 o swyddi ac yn creu incwm o £6.8 biliwn (o ymchwil yn 2006), felly dylai ei gadwraeth fod yn flaenoriaeth flaenllaw i Lywodraeth Cymru.

Mae'r Llywodraeth yn gweithio ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru, lle bydd rhaid cydnabod pwysigrwydd ecosystemau’r môr, er eu lles eu hunain a lles bobl. Dyna pam yr ydym yn galw am Gynllun Morol Cenedlaethol cadarn ac uchelgeisiol i arddangos gwerth cyfreithiau uchelgeisiol Lles ac Amgylcheddol Cymru. Mi fydd yn faen brawf pwysig i ddangos os yw Cymru'n gofalu am ei moroedd yn ystod y flwyddyn i ddod.

Mor-wenoliaid y Gogledd

O gofio bod llawer o dwristiaeth bywyd gwyllt y môr yn canolbwyntio ar adar y môr, mae ambell grynodiad o bwysigrwydd cenedlaethol o’r adar yma yn peri pryder gan nad ydynt wedi eu diogelu o hyd, yn enwedig y mannau lle maent yn bwydo. Disgwylir i Lywodraeth Cymru ddechrau edrych ar ddynodi Parthau Cadwraeth Morol y gaeaf hwn, a bydd RSPB Cymru'n datgan yn gryf fod yn rhaid i adar y môr elwa o'r parthau hyn, oherwydd bod gwir berygl y gallant gael eu heithrio.

Mae twristiaeth a chadwraeth natur wedi elwa o arian yr UE dros y 40 mlynedd ddiwethaf, ac rydym yn gofyn i Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig i ymrwymo i gynnal yr arian hwnnw er mwyn sicrhau bod bywyd gwyllt a chynefinoedd yn gallu cael eu hadfer, gan gynnal cefn gwlad ac arfordir hyd yn oed yn well i ymwelwyr i fwynhau.

Felly, wrth i ni baratoi ar gyfer yr hydref a’r tywydd newidiol, cofiwch am yr adar y môr sy'n chwilota am fwyd yng nghanol yr Iwerydd neu oddi ar Benrhyn Gobaith Da. A chroesi bysedd, erbyn iddynt ddychwelyd fis Mai nesaf, bydd Cymru wedi gwneud rhai ymrwymiadau go iawn i'w dyfodol. Mae bob blwyddyn yn Flwyddyn y Môr i’n bywyd morol.