Click here for the English version.

Mae Heddlu Gogledd Cymru ag RSPB Cymru yn galw am wybodaeth yn dilyn diflaniad amheus ail foda tinwyn sydd wedi’i dagio â lloeren ger Wrecsam o fewn cyfnod o chwe mis.#

Heulwen

Cafodd y boda tinwyn, wedi’i henwi yn Heulwen, ei thagio mewn nyth yng Ngwynedd yn 2018, fel rhan o brosiect LIFE y Boda Tinwyn sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Ar ôl iddi adael ei nyth, fe deithiodd Heulwen drwy ogledd Cymru, ar draws Eryri ac i’r dwyrain tuag at Wrecsam. Roedd ei lloeren yn trawsyrru’n rheolaidd cyn iddo stopio’n sydyn. Roedd ei safle diwethaf yn dangos ei bod hi yng nghyffiniau Mynydd Rhiwabon.

Mae technoleg tagio lloeren yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd i ddilyn symudiadau adar ac mae’r tagiau’n trawsyrru’n gyson, hyd yn oed pan mae’r aderyn yn marw a than y mae’r tag yn cyrraedd diwedd ei oes. Mae’r tag yn darparu diweddariadau cyson am leoliad yr aderyn, felly mae terfyn sydyn ag annisgwyl y trawsyrru yn amheus ac o bosib yn awgrymu ymyrraeth droseddol.

Mae’r RSPB wedi chwilio am yr aderyn ond wedi methu dod o hyd i unrhyw beth ac mae’r diflaniad wedi cael ei reportio i Heddlu Gogledd Cymru, sy’yn cynnal ymholiadau ac yn apelio am wybodaeth yn yr ardal leol.

Dyma’r ail aderyn i ddiflannu yng ngogledd Cymru o fewn chwe mis, ar ôl colli Aalin yn Chwefror 2018. Cafodd Aalin ei geni ar Ynys Manaw yn 2016;  teithiodd i Gymru yng ngwanwyn 2017 gan aros yn yr ardal. Roedd ei thag yn trawsyrru’n gyson, cyn iddo stopio’n sydyn ar fore 9 Chwefror 2018 o gwmpas ardal Mynydd Rhiwabon ger Wrecsam, ac nid yw’r aderyn wedi’i gweld nai chlywed ers hynny.

Dywedodd Dr. Cathleen Thomas, rheolwraig prosiect LIFE y boda tinwyn i’r RSPB: “Dim ond ychydig wythnosau’n ôl roedden ni’n dathlu llwyddiant bridio boda tinwyn ar draws y DU, ond mae’r cywion ifanc hyn yn diflannu’n barod dan amgylchiadau amheus, a hynny pan maen nhw’n ddim ond ychydig fisoedd oed. Mae’n dorcalonnus i’r rhai ohonom ni sydd wedi cymryd rhan mewn project sy’n dilyn a gwylio’r cywion er mwyn eu amddiffy, ac yn ergyd drom i rywogaeth sydd mewn perygl ac sydd yn parhau i ddirywio.

“Nid ydym ni eto’n gwybod beth sydd wedi digwydd i Heulwen, ond mi rydym ni’n gwybod mai prif ffactor sy’n cyfyngu'r boblogaeth boda tinwyn yn y DU yw lladd yn anghyfreithlon sydd yn gysylltiedig â rheolaeth ddwys sydd yn cael ei yrru gan rostiroedd grugiar.”

Dywedodd Rob Taylor, Rheolwr Troseddau Cefn Gwlad, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r golled o boda tinwyn yma’n achos pryder ac rydym ar hyn o bryd yn cadw meddwl agored ar gyfer yr ymholiad. Mae ein Tîm Troseddau Cefn Gwlad yn gweithio’n agos gyda’r RSPB yn ystod yr ymchwiliad ac rydym yn apelio i’r cyhoedd, os oes gennych unrhyw wybodaeth, ffoniwch 101 i roi adroddiad cyfrinachol trwy Crimestoppers."

Mae boda tinwyn yn un o’r adar ysglyfaethus prinnaf yn y DU. Mae’r boblogaeth boda tinwyn wedi adfer yn araf yng Nghymru ers ail-goloneiddio yn y 1950au, ond, roedd yr arolwg diweddaraf yn 2016 yn dangos fod niferoedd parau wedi lleihau fwy na thraean dros y chwe blynedd ddiwethaf, o 57 pâr i 35, y nifer lleiaf yng Nghymru ers degawd.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth yn ymwneud ar achos, plîs ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 drwy ddyfynnu’r cyfeirnod WO28466. Neu, fe allwch ffonio llinell gymorth RSPB Raptor Crime Hotline yn gyfrinachol ar 0300 999 0101. Mae pob galwad yn gyfrinachol.

Dilynwch @RSPB_Skydancer i gael y newyddion diweddaraf am fodaod tinwyn