To read blog in English click here.

Mae cyllid datblygu cam cyntaf project ar gyfer Llyn Efyrnwy wedi’i gymeradwyo gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL).

Mae RSPB Cymru, mewn partneriaeth â Hafren Dyfrdwy, yn falch iawn o gael cefnogaeth gychwynnol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer ein project 'Profiad Llyn Efyrnwy', a fydd o fudd i'r gymuned, ymwelwyr a bywyd gwyllt yn Llyn Efyrnwy.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, nod y project yw gwneud Llyn Efyrnwy - sydd eisoes yn gartref i nifer o fathau o fywyd gwyllt mwyaf prin yn y DU, gan gynnwys y bod tinwyn, y rugiar ddu a'r cudyll bach - yn lle cyfoethocach fyth ar gyfer bywyd gwyllt, trwy gynnal mwy o waith cadwraeth i ddiogelu’r gors brin ar yr ucheldir a choetiroedd hynafol Llyn Efyrnwy.

Llun gan Ben Hall

Bydd y project hefyd yn ein galluogi i wella cyfleusterau ymwelwyr, sy'n golygu profiad gwell fyth i bawb sy'n dewis dod i Lyn Efyrnwy. Bydd y project yn gweld ailddatblygu Capel Bethel a gwaith adfer i atyniadau o gwmpas y llyn, megis y parc cerfluniau, mannau picnic a llwybrau cerdded.

Yn ogystal, bydd deunyddiau dehongli newydd a gwell yn dod â threftadaeth gymdeithasol Llyn Efyrnwy i'r amlwg. Dyfarnwyd cyllid datblygu o ychydig o dan £300k i RSPB Cymru a Hafren Dyfrdwy i’w helpu i ddatblygu eu cynlluniau i wneud cais am grant llawn o fewn deunaw mis. Yn ystod y cyfnod datblygu hwn bydd cyfleon cyflogaeth, gwirfoddoli a hyfforddi hefyd yn codi o ganlyniad i'r prosiect.

Ers dros ddeugain mlynedd, mae RSPB Cymru wedi bod yn weithgar iawn yn rheoli'r safle ac, yn 2015, fe wnaethom fyned i mewn i denantiaeth fusnes hirdymor gyda chwmni Hafren Dyfrdwy i reoli'r gwaith dydd i ddydd ar y fferm Organig a rheoli rhannau o'i dir ar gyfer cadwraeth. Roedd Dyffryn Efyrnwy ei hun yn edrych yn wahanol iawn 'slawer dydd a phan grëwyd y llyn bu'n rhaid adleoli hen bentref Llanwddyn cyn boddi'r dyffryn i lenwi'r gronfa ddŵr.

Llun gan Eleanor Bentall

Mae gwarchodfa natur RSPB Llyn Efyrnwy yn 10,000 hectar o goetiroedd, rhostiroedd a thir fferm ac mae ei llwyddiant wedi'i seilio ar y ddelfryd ei bod hi'n warchodfa ar gyfer pobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Mae Hafren Dyfrdwy a RSPB Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn adfywiad parhaus yr ardal ac mae'r warchodfa yn derbyn dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn a 1500 o blant ysgol, ynghyd â gwirfoddolwyr sy'n helpu i gyflawni gwaith hanfodol ar y safle. Mae Llyn Efyrnwy ei hun wedi dod yn warchodfa natur o bwys rhyngwladol i fywyd gwyllt a chynefinoedd.

Dywedodd Dominic O’Connor Robinson, Pennaeth Profiad Ymwelwyr Hafren Dyfrdwy: "Rydym wrth ein bodd bod rownd gyntaf y project wedi'i chymeradwyo gan fod cymaint yr ydym am ei wneud yma er mwyn dod â nifer o straeon Efyrnwy yn fyw. Llyn Efyrnwy yw trysor mwyaf Hafren Dyfrdwy ac rydym am i bobl ddod yma i ddarganfod ac i fwynhau’r golygfeydd hardd. Bydd deunyddiau dehongli gwell yn cyfoethogi profiad yr ymwelydd ac yn tynnu sylw at arwyddocâd Llyn Efyrnwy o safbwynt rheoli dŵr, cadwraeth a’i hanes.”

Dywedodd Mike Walker, Uwch Reolwr Safle RSPB Llyn Efyrnwy: “Mae cyffro mawr yma ein bod ni wedi derbyn y gefnogaeth hon gan y CDL, a’r cyfan yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y project hwn yn ein helpu ni i wneud y profiadau bywyd gwyllt gwych sydd eisoes gennym ni yma yn Llyn Efyrnwy yn well fyth. Byddwn hefyd yn cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer hyfforddi a magu sgiliau newydd i gefnogi ein gwaith ffermio a chadwraeth.

"Mae gan y dyffryn cyfan ddiwylliant cyfoethog gyda chymysgedd unigryw o dreftadaeth adeiledig a naturiol. Ni'n edrych ymlaen yn eiddgar am y cyfle i'w rannu ymhellach mewn ffordd newydd ac arloesol gyda'n hymwelwyr."

Mae Llyn Efyrnwy yn rhan annatod o'r gymuned, felly byddwn yn gwahodd grwpiau cymunedol lleol fel Cyngor Cymuned Llanwddyn a Chymdeithas Farchnata Llyn Efyrnwy i'n helpu i lunio'r project, fel ein bod ni, gyda'n gilydd, yn gwneud newidiadau a fydd o fudd nid yn unig i fywyd gwyllt am flynyddoedd i ddod, ond hefyd i genedlaethau'r o ymwelwyr y dyfodol i Lyn Efyrnwy.

Am ragor o wybodaeth am RSPB Llyn Efyrnwy, ewch i www.rspb.org.uk/lakevyrnwy neu ‘hoffwch’ y dudalen Facebook neu Twitter @RSPBMidWales

Am ragor o wybodaeth am Hafren Dyfrdwy, ewch i www.hdcymru.co.uk