English version available here

Mae angen byd natur ar bob un ohonom – hwn sy’n darparu bwyd, dŵr ac aer i ni, ynni i wresogi ein cartrefi, mannau gwyrdd i’n plant chware ynddynt a'r bywyd gwyllt sy’n ein cyfareddu a’n hysbrydoli - allwn ni ddim byw hebddo. Ond Cymru yw un o'r gwledydd sydd wedi dirywio fwyaf yn y byd o ran byd natur - mae 1 ym mhob 12 o’n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Ond yn ffodus - mae gennym gyfle enfawr i droi'r fantol ar hyn i gyd ac mae eich llais chi wrth galon hyn.

Andy Hay, rspb-images.com

Mae 80% o dir Cymru yn cael ei ffermio, felly mae’r deddfau sy’n rheoli ffermio yn cael effaith enfawr ar fyd natur, sydd mor agos i’n calonnau ac rydym yn dibynnu gymaint arno.     Wrth adael yr UE, bydd Cymru’n cael cynllunio ei deddfau ei hun o ran sut rydym yn rheoli ein tir; gan ystyried nid yn unig ffermio ond yr holl arferion gwahanol sy’n effeithio arno, er enghraifft, coedwigaeth, cadwraeth natur a rheoli dŵr. Ond, rydym yn wynebu newid a allai naill ai gyflawni popeth neu gyflawni dim byd dros fyd natur - a allai helpu i'w adfer neu brysuro ei ddirywiad.

Dim ond i ni gael y polisi hwn yn iawn, gallai:

  • ddenu bywyd gwyllt yn ôl i gefn gwlad Cymru,
  • talu ffermwyr i fod yn fwy cynaliadwy ac adfer byd natur,
  • cyfnerthu ein cymunedau cefn gwlad a’r economi, a
  • sicrhau manteision hanfodol rydym yn aml yn eu cymryd yn ganiataol, megis dŵr ac aer glân.

Gallai pawb fod ar eu hennill - byddai ffermwyr yn cael eu talu, byddai byd natur yn cael ei adfer a byddai pobl yn ffit ac yn iach.

Gweithredwch


Andy Hay, rspb-images.com

Ein barn ni am yr ymgynghoriad

At ei gilydd, mae RSPB Cymru yn hapus iawn â chynlluniau Llywodraeth Cymru. Maent am weld system newydd yn cael ei sefydlu sy’n golygu y bydd ffermwyr, a phobl eraill sy'n rheoli tir, yn cael eu talu o arian cyhoeddus i adfer ein hamgylchedd, dod â bywyd gwyllt yn ôl, a darparu manteision i’r cyhoedd fel dŵr glân i yfed. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth yn sylweddoli y bydd angen i ffermwyr gael help yn y dyfodol i weithio gyda’i gilydd er mwyn newid y ffordd maent yn rheoli tir ar y raddfa sy'n angenrheidiol i adfer natur. Rydym hefyd yn credu bod helpu ffermwyr i fod yn fwy effeithlon a lleihau ôl troed Carbon y diwydiant yn hanfodol i leddfu ar effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd.

Yr unig beth sy’n ein poeni yw y gallai uchelgais y Llywodraeth lithro wrth inni edrych yn fwy manwl ar y materion a fydd, ymhen amser, yn cael eu troi yn ddeddf newydd. Y rheswm y gallai eu cymhelliant wanhau yw ei bod yn bosibl y byddai ffermwyr, oherwydd eu bod yn poeni am addasu i system newydd, yn dadlau dros gadw'r status quo, h.y. Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Ond rydym ni o’r farn nad yw'r Polisi Amaethyddol Cyffredin wedi gwneud digon dros natur. A dweud y gwir, mae’n cael ei gydnabod yn eang ei fod wedi chwarae rhan fawr yn ei ddirywiad, felly rydym am weld system newydd sy’n cefnogi ffermwyr ac sy’n helpu natur. Rydym eisoes yn cydweithio â llawer o ffermwyr sy'n ystyriol o natur ac sy’n arwain y ffordd o ran sut mae rhedeg busnesau cynaliadwy yn ogystal â gwarchod natur a'r amgylchedd ehangach, a byddwn yn parhau i gydweithio â nhw a Llywodraeth Cymru i rannu cyngor ar draws y gymuned ffermio ynghylch sut y bydd y dull newydd hwn nid yn unig yn helpu natur, ond yn helpu ffermwyr hefyd.

’Er mwyn gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn glynu wrth eu huchelgais, mae'n rhaid inni ddangos iddynt gymaint o feddwl sydd gan bobl Cymru o fyd natur.

Beth allwch chi ei wneud

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ddefnyddio ein hadnodd gweithredu ar-lein, sy'n cynnwys neges e-bost sydd wedi cael ei hysgrifennu’n barod y gallwch ei hanfon ar unwaith neu ei phersonoli. Dyma'ch cyfle i ddweud wrth Lywodraeth Cymru eich bod am i natur fod wrth galon y polisi newydd hwn, er mwyn i bawb sy'n rheoli’r tir allu gwneud hynny mewn modd cynaliadwy ac adfer natur.

Gallwch hefyd gofrestru fel hyrwyddwr ymgyrch, i glywed sut mae'r hyn rydych chi wedi'i wneud wedi cael effaith ac i weld mwy o gyfleoedd i weithredu dros natur.