To read this blog in English please click here

Mae'r mis diwethaf wedi bod yn llawn o weithgarwch am ffermio, natur a sut rydym yn rheoli ein tir. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu gweledigaeth newydd ar gyfer polisi rheoli tir (papur gwyrdd sy'n gosod y sylfeini ar gyfer ein cyfraith newydd ar sut rydym yn rheoli ein tir, gan gynnwys ffermio, coedwigaeth, dŵr a chadwraeth), ac mae'r sioeau amaethyddol wedi dechrau, gan gynnwys yr un mwyaf, Sioe Frenhinol Cymru. Yn llawn o weithgareddau i’r teulu, bwyd i’w flasu, anifeiliaid i’w harddangos, ffermwyr a gwleidyddion i siarad â nhw – mae’n rhaid i ni ymuno â’r bwrlwm!

Gallwch ddod o hyd i ni yno o 23-26 Gorffennaf yn Ardal Gofal Cefn Gwlad, stondin CC775 ar y map. Ymunwch â ni i 'wneud eich dymuniad ar gyfer byd natur' ac archwilio’r cae prydferth o flodau gwyllt a glaswellt ar ein stondin wrth i ni ddathlu ein peillwyr gwerthfawr. Byddwn yn cynnal gweithgareddau llawn hwyl i’r teulu - o dipio yn y pwll a dadansoddi pelenni tylluanod i baentio wynebau ar y thema natur. Bydd ein tîm aelodaeth wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a helpu hyd yn oed mwy o bobl i ddod yn agosach at fyd natur. Bydd siop RSPB hefyd yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion, llyfrau, teganau, porthwyr adar a llawer mwy er mwyn i chi helpu i roi cartref i fyd natur.

Bydd ein staff hefyd yn cwrdd â gwleidyddion a ffermwyr yn y Sioe i siarad am ddyfodol ffermio yng Nghymru. Bydd pawb yn sôn am Brexit a ffermio – rydym ni gyd eisiau gallu dychmygu sut bydd bywyd y tu allan i'r UE. Mae'n amserol iawn bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau eu Papur Gwyrdd newydd, Brexit a’n Tir, sy’n amlinellu beth fydd ein polisi newydd; mae'n gyfle perffaith i hyrwyddo'r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos fel bod pobl yn gallu lleisio eu barn am y cynlluniau. (Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad fan hyn. Cadwch lygad yn ystod yr wythnosau nesaf pan fyddwn ni'n lleisio’n barn ni am gynlluniau'r Llywodraeth ac yn rhoi mwy o arweiniad ynglŷn â sut gallwch chi gyfrannu at yr ymgynghoriad.)

Er ein bod yn wynebu cyfnod o ansicrwydd mawr, mae hefyd yn gyfnod o gyfleoedd gwych; os gallwn weithio gyda'n gilydd, gallwn adeiladu'r dyfodol rydym ni i gyd eisiau ar gyfer Cymru. O ran natur, mae hyn yn golygu newid y deddfau a'r polisïau sy'n llywodraethu ein tir, er mwyn iddyn nhw adfer byd natur yn hytrach na'i ddiystyru.

Fel rhan o'r sgwrs newydd hwn am ein tir a'n dyfodol, mae RSPB Cymru wedi ymuno â CLA Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Coed Cadw a WWF Cymru i gynnal digwyddiad sy'n dangos gweledigaeth unedig. Rydym ni'n rhannu'r un nodau - fel ffermwyr, perchnogion tir a rheolwyr, busnesau gwledig, undebau a chadwraethwyr - i gadw ein pobl ar y tir er mwyn i ni gael cymunedau gwledig, economi a byd natur sy’n ffynnu. Am gyfnod hir iawn, mae'r sectorau ffermio ac amgylcheddol wedi bod yn brwydro yn erbyn ei gilydd, ond dyma’r amser i roi ein gwahaniaeth barn i’r naill ochr a chydweithio gyda'n gilydd er lles pawb.

Mae'n gyfnod cyffrous, gyda hyd yn oed mwy i edrych ymlaen ato yn ystod y misoedd nesaf. Mwy o ddigwyddiadau bwyd a ffermio anhygoel dros yr haf - fel Sioe Sir Benfro, Gŵyl Fwyd y Fenni, Gŵyl Fwyd Conwy, Sioe Môn - mae cymaint o gyfleoedd i barhau â'r drafodaeth hon. Gallwch hefyd ddod o hyd i'n timau aelodaeth yn y digwyddiadau hyn, gyda llu o fathodynnau a nwyddau am ddim gyda phob aelodaeth.

Os hoffech gael gwybod mwy am RSPB Cymru yn y Sioe Frenhinol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â cymru@rspb.org.uk