English version available here. 

Mae sut orau i ddefnyddio ynni Aber Afon Hafren yn ddadl sydd wedi cael ei haildrafod dro ar ôl tro yn ystod y degawdau diweddar.   Môr-lynnoedd llanwol oedd y ffocws mwyaf diweddar; ac mae llawer wedi dibynnu ar ymateb Llywodraeth y DU i adolygiad y Gwir Anrhydeddus Charles Hendry ynglŷn â photensial technoleg y morlyn llanwol hwn.

Ar ôl misoedd o ddisgwyl, datganodd Llywodraeth San Steffan yr wythnos diwethaf nad yw môr-lynnoedd llanwol yn rhoi gwerth am arian ac ni fydd yn cefnogi yn ariannol unrhyw un o raglenni'r 6 morlyn sy’n cael eu hyrwyddo gan Tidal Lagoon Power (TLP), yn cynnwys Abertawe.   Mewn llawer o ffyrdd, roedd hyn yn atgyfnerthu barn Llywodraeth Glymblaid flaenorol San Steffan a ddaeth i’r casgliad yn adolygiad 2008-10 o ynni llawnol Afon Hafren drwy ddweud nad oedd unrhyw achos strategol i’r llywodraeth gefnogi prosiect ynni llanwol; ac ni fyddai yn ailagor y ddadl oni bai y bydd y cyd-destun strategol wedi newid neu tan y bydd hynny’n digwydd (h.y. os yw’r angen yn tyfu neu os yw cost y dechnoleg yn gostwng). Wrth gwrs, ailagorwyd y ddadl wedyn ac mae’n ymddangos ei bod wedi cau unwaith eto.

Safbwynt yr RSPB oedd cydnabod gwerth Morlyn Abertawe fel ‘prosiect braenaru’ posibl i ddysgu mwy ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol y dechnoleg amhrofedig hon – os gellid datrys y materion amgylcheddol sy’n parhau, yn enwedig yr effaith ar bysgod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd agwedd llawer llai rhagofalus ac wedi nodi ei chefnogaeth i’r cysyniad o fôr-lynnoedd yn nyfroedd Cymru. Mae drafft o’u Cynllun Morol yn cefnogi fflyd o fôr-lynnoedd llanwol yng Nghymru – ond mae’n methu â dangos sut y gellid cyflawni hyn er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol. Rydym yn bryderus ynglŷn â’r safiad hwn, oherwydd nad yw’n glir eto y gall morlyn sengl ar raddfa lai (fel Abertawe – sydd eto i gael Trwydded Forol) – fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Yn ogystal, mae’n ymddangos yn anghyson â’r agwedd a welir yn Adolygiad Hendry ynglŷn â dysgu o Forlyn Abertawe.

Mae penderfyniad San Steffan yn gyfle i Lywodraeth Cymru ystyried y polisi môr-lynnoedd amgen a gynigiodd yr RSPB yn ein hymateb i’r Cynllun Morol – un sy’n rhoi ystyriaeth lawnach i risgiau amgylcheddol y technolegau môr-lynnoedd llanwol.

Hwyaden yr eithin: un o’r rhywogaethau yn Aber Afon Hafren sydd wedi cael ei ddynodi yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig (Ben Hall, rspb-images.com)

Felly, beth allwn ni ddysgu o’r ddadl y tro yma?

Unwaith eto, mae unrhyw gyfeiriad at yr amgylchedd ar goll o’r rhesymau am beidio â symud ymlaen y tro yma. Gwelsom ynni môr-lynnoedd llanwol fel risg uchel i natur a buom yn dadlau bod angen agwedd rhagofalus a seiliedig ar dystiolaeth. Fodd bynnag, roedd hyn yn ymddangos ei fod yn cael ei anwybyddu fel yr oedd rhethreg yn caledu i safbwynt popeth neu ddim a oedd yn barnu’r canlyniad ymlaen llaw cyn cynnal prosiect arddangos. Felly, tra gallwn ni fyw gyda’r penderfyniad, mae’n siomedig nad yw canlyniadau amgylcheddol ein dewisiadau polisi ynni yn cael eu crybwyll yn y rhesymau am beidio â symud ymlaen.

Mae Adroddiad 2050 Energy Vision yr RSPB a gyhoeddwyd yn 2016 yn dangos sut mae trawsnewid i ynni cynaliadwy yn gallu cael ei wneud mewn cytgord â natur. Mae hyn yn dibynnu ar y dewis o dechnolegau ac ar ystyriaeth gywir o effaith amgylcheddol wrth eu lleoli a’u dylunio. Darganfu’r adroddiad hwn y gallwn ni gwrdd â’n targedau ynni a charbon gyda llai o risg i fywyd gwyllt a natur na chyda môr-lynnoedd llanwol ar raddfa fawr. Fodd bynnag, mae ynni amrediad llanw yn parhau yn syniad cymhellgar. Gyda phartneriaid, gwnaethom gyhoeddi’r Severn Vision sy’n cynnwys nod o ddatblygu ynni adnewyddadwy llanwol mewn cytgord â natur. Yr her wedyn yw a oes ateb sy’n werth am arian ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol.

Mae’r lleoedd gorau ar gyfer ynni amrediad llanw yn cynnwys rhai o’n safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf. Nid yn unig y mae Aber Afon Hafren yn lleoliad ar gyfer 4 o’r 6 morlyn sy’n cael eu hyrwyddo gan TLP, ond mae’n rhyfeddod bywyd gwyllt hefyd. Mae’i gynefinoedd gwastadeddau llaid a’i forfeydd heli yn storfeydd carbon naturiol sy’n cefnogi dros 80,000 o adar y dŵr ac adar hirgoes sy’n gaeafu. Yn ei ddyfroedd, ceir 110 o rywogaethau pysgod, yn cynnwys 7 rhywogaeth fudol sy’n bwysig yn rhyngwladol, nid yn unig yn Afon Hafren, ond yn yr afonydd dynodedig sy’n llifo iddi. Dyna pam y gwelsom ni’r achos ar gyfer morlyn Bae Abertawe fel safle prawf, i ddysgu mwy ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol y dechnoleg amhrofedig hon, pe bai – a phe bai yn unig – yn cael ei hymchwilio yn dda ac yn cwrdd â safonau amgylcheddol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn argyhoeddedig ynglŷn ag unrhyw un o’r pwyntiau hyn.

Yn ogystal, rydym yn cwestiynu a ellir chwyddo maint technoleg bresennol y môr-lynnoedd fel sy’n cael ei ragweld yn Adolygiad Hendry tra’n parhau i warchod ein bywyd gwyllt morol ac arfordirol. Dengys tystiolaeth y bydd fflyd o fôr-lynnoedd llanwol yn cael effeithiau ar raddfa fawr a chymhleth ar fywyd gwyllt. Ni allai asesiad Llywodraeth Cymru ei hun o bolisi cefnogi sawl morlyn llanwol o gwmpas Cymru ddiystyru effeithiau niweidiol ar 70+ o’r safleoedd bywyd gwyllt mwyaf gwarchodedig (AGA, ACA a Ramsar). Mae hyn yn cynnwys safleoedd ym mhob un o’r pedair gwlad yn y DU a rhai yn Ffrainc a Gweriniaeth Iwerddon!

Ceir gwersi sy’n berthnasol i’r ddadl ynglŷn â’n perthynas â’r UE yn y dyfodol gan fod ein bywyd gwyllt yn amlwg yn croesi ffiniau ac rydym angen dulliau cydweithredol ar draws ffiniau daearwleidyddol i’w warchod. Gwyddom ynglŷn â’r risgiau hyn oherwydd yr asesiad amgylcheddol sydd ei angen gan ddeddfwriaeth yr UE, ac felly mae’n hanfodol i gynnal y gofyniad hwn yn y dyfodol.

Mae hanes a phrofiad yn awgrymu y bydd ynni amrediad llanw yn ailymddangos yn y ddadl wleidyddol unwaith eto. Mae angen llawer mwy o feddwl ac ymchwil yn awr er mwyn deall amgylcheddau cymhleth ein haberoedd ac a ellid datblygu ynni llanwol mewn cytgord â natur. Roeddem yn falch bod Llywodraeth y DU fel rhan o’i Astudiaeth Ynni Llanwol Afon Hafren wedi cyhoeddi adolygiad yn 2010 ynglŷn â chysyniadau amrediad llanw amgen. Mae un o’r cysyniadau hyn yn awr wedi cael ei ddatblygu a’i addasu i gynllun gweithredol ar gyfer trydan dŵr o afon. Felly, os oes tro nesaf, dylem ni ddechrau gyda’r egwyddor sylfaenol o ddod o hyd i ateb sydd nid yn unig yn cynhyrchu symiau mawr o ynni adnewyddadwy ar gost sy’n ddeniadol i’r trethdalwr, ond yn ogystal un sy’n effeithio leiaf ar yr amgylchedd.

Man cychwyn da fyddai edrych unwaith eto ar dechnolegau amgen a thechnolegau datblygol.