To read this blog in English please click here
Deunaw mis wedi i’r garan cyntaf a anwyd yng Nghymru ers 400 mlynedd godi a hedfan i'r awyr, rydym yn peryglu’r gobaith o weld golygfeydd trawiadol tebyg yn y dyfodol. Ar ôl ymgartrefu ar Wastadeddau Gwent yn 2016, mae eu dyfodol bellach yn nwylo gwyriad traffordd yr M4. Ond beth petai ni'n eu colli o Gymru am yr eildro, ac o bosib, y tro olaf?
Llun: Garan gan Nick Upton.
Bydd Llwybr Du'r M4 arfaethedig yn cael effaith ddinistriol ar natur ac yn gosod cynsail peryglus ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) oherwydd mae'n blaenoriaethu budd economaidd dros yr amgylchedd, a ddisgrifiodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, fel bod 'yn erbyn ysbryd y ddeddf'. Mae Gwastadeddau Gwent yn hollbwysig i fywyd gwyllt prin tebyg i gornchwiglod a gardwenyn fain, yn ogystal â'r garanod.
Roedd garanod yn adar nythu cyffredin yn y DU hyd at 1600, ond cawsant eu difodi trwy ddraenio gwlyptiroedd a hela am fwyd. Ailsefydlwyd poblogaeth nythu fechan yn Norfolk yn y 1970au hwyr, ond roedd y grŵp hwn yn ymddangos yn fregus.
Fodd bynnag, er gwaethaf popeth, magwyd cyw, Garan, gan ddau o’r enw Lofty a Gibble ar Wastadeddau Gwent yn 2016. Roedd yr oedolion yn tarddu o'r ‘Great Crane Project’, prosiect a ailgyflwynwyd garanod i Wastadeddau Gwlad yr Haf o 2010. Er mwyn dod a’r adar hyn yn ôl, rhaid oedd magu’r cywion ifanc â llaw yn ofalus o wyau gwyllt yn yr Almaen, a hynny mewn cyfleusterau magu pwrpasol yng Nghanolfan Gwlyptiroedd WWT Slimbridge yn Swydd Gaerloyw.
Mae mentrau llwyddiannus gyda barcudiaid coch ac eryrod y môr (eryrod gynffonwen) wedi dangos y gall prosiectau ailgyflwyno fod yn effeithiol dros ben. Cafodd amryw o wlyptiroedd y DU eu hystyried yn ystod yr astudiaethau cychwynnol ar gyfer ailgyflwyno garanod, a Gwastadeddau a Rhosydd Gwlad yr Haf oedd y lleoliadau â mwyaf o botensial. Serch hynny, mae'r amodau yng Ngwastadeddau Gwent hefyd yn ddelfrydol ar gyfer garanod. Mae’r Gwastadeddau yma yn gymharol dawel a heb ei darfu a heb beryglon o bwys, ac mae'r hinsawdd yn gymharol fwyn – yn sicr roedd y garanod wedi ffafrio’r ardal.
Ond bellach, mae hyn oll yn y fantol. Gall y garanod, sydd wedi ailymddangos yn ein hawyr yn ddiweddar, ddiflannu o Gymru’n llwyr. Ai dyma’r Cymru y dymunwn ein plant i etifeddu? Gwlad lle mae bywyd gwyllt yn dod yn ail i adeiladwaith o ffyrdd anghynaladwy?
Gyda'n gilydd, gallwn roi terfyn ar wyriad traffordd yr M4, creu dulliau mwy cynaliadwy o ddatrys ein problemau trafnidiaeth a gofalu am y bywyd gwyllt gwerthfawr sy'n dibynnu ar Wastadeddau Gwent. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â campaigns.wales@rspb.org.uk.