To read this blog in English please click here

Mae wedi bod yn daith hir, ond mae ein brwydr yn erbyn ffordd liniaru’r M4 yn prysur ddod i ben. Mae amgylcheddwyr wedi bod yn brwydro am dros 20 o flynyddoedd i warchod Gwastadeddau Gwent rhag y datblygiad dinistriol hwn. Mae miloedd ohonoch chi wedi gwrthwynebu cynlluniau’r Llywodraeth, llofnodi deisebau, ysgrifennu llythyrau a rhannu eich straeon. Mae sefydliadau a grwpiau ledled Cymru wedi dod ynghyd yn cynnwys yr RSPB, Ymddiriedolaeth Natur Gwent, CALM, Cyfeillion y Ddaear, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Cycling UK, Ymgyrch dros Gludiant Gwell a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, i enwi dim ond rhai. Bellach, mae’r ymchwiliad cyhoeddus wedi dod i ben, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi i’r Llywodraeth ddechrau’r hydref, a bydd y penderfyniad terfynol ynghylch yr M4 yn cael ei wneud erbyn y gaeaf yma, boed gan Carwyn Jones neu ei olynydd. Rydyn ni nawr yn wynebu rhan olaf ein taith, ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fagu nerth newydd a sefyll gyda’n gilydd yn erbyn y bygythiad hwn am y tro olaf.

Mae angen i ni roi mwy o bwysau ar Lywodraeth Cymru dros y ddau fis nesaf i ddylanwadu ar Brif Weinidog presennol Cymru, Carwyn Jones, a’i olynwyr posibl, ymhell cyn iddynt gael gafael ar yr adroddiad ymchwilio. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod, heb os, fod cael ffordd liniaru yn benderfyniad anghywir i Gymru. Bydd ein gwlyptiroedd gwerthfawr, sy’n gartref i’r gardwenynen feinlais a garanod prin ymhlith eraill, yn cael eu difa os byddant yn bwrw ati gyda’r ffordd liniaru hon.

Dyma sut gallwch chi helpu - gallwch ddewis a dethol o'r opsiynau isod:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi llofnodi’r ddeiseb [https://you.38degrees.org.uk/petitions/stop-the-proposed-m4/]
  2. Ysgrifennwch at y Prif Weinidog
  3. Rhannwch luniau’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol**
  4. Rhannwch fideo’r ymgyrch**
  5. Ysgrifennwch at eich papur newydd rhanbarthol
  6. Dywedwch wrth eich rhwydweithiau am wneud yr un peth!

**fydd yn cael eu rhyddhau ym mis Mehefin 2018. Cymerwch gip ar ddiweddariad y mis nesaf am ddeunyddiau i'w lawrlwytho a dolenni, ynghyd â chanllaw ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr eich bod chi’n ymuno â’r sgwrs ehangach ac yn targedu'r Prif Weinidog.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi i ysgrifennu at eich papur newydd, at y Prif Weinidog, i rannu cynnwys neu lofnodi’r ddeiseb, neu os oes gennych chi unrhyw syniadau eraill yr hoffech weithredu arnynt i ymgyrchu yn erbyn yr M4, mae croeso i chi gysylltu â ni ac fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i helpu. Cysylltwch â campaigns.wales@rspb.org.uk