Cartref arloesol i wenoliaid duon ym Mae Caerdydd

To read this blog in English please click here

Wrth i'r dyddiau godi’n braf a’r nosweithiau ymestyn, croesawn nifer o ymwelwyr haf i Gymru. Tra bydd rhai adar mudol yn heidio tuag at eu safleoedd nythu arferol, caiff y gwenoliaid duon ym Mae Caerdydd eu croesawu gan dŵr llawn cartrefi teuluol newydd yn unigryw iddyn nhw.

Gan ddarparu 90 o safleoedd nythu newydd i wenoliaid duon ddychwelyd iddyn nhw bob blwyddyn, mae tŵr y wennol ddu ar Forglawdd Bae Caerdydd yn enghraifft arloesol o roi cartref i wenoliaid duon yn y ddinas. Cynlluniwyd y tŵr gan y penseiri Pwyl ‘Menthol’, ac wedi'i osod fel rhan o broject partneriaeth a gyflwynwyd gan RSPB Cymru, Clwb Adar Morgannwg ac Awdurdod Harbwr Cyngor Caerdydd. Ariennir y project trwy gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Yn ogystal â darparu safleoedd nythu angenrheidiol a diogel i’r adar, bydd y tŵr yn cael ei fonitro gan Wirfoddolwyr Arolwg Gwenoliaid Duon Caerdydd. Hefyd bydd digwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus am ddim yn cael eu cynnal ar y morglawdd trwy gydol yr haf i helpu pobl i weld ac adnabod gwenoliaid duon yn y Bae a darganfod mwy am sut y gallwn eu helpu.

Os yw poblogaeth y wennol ddu yn parhau i ostwng ar y raddfa gyfredol, efallai y byddwn yn eu colli fel aderyn bridio yng Nghymru o fewn yr 20 mlynedd nesaf. Ers 1995, mae gostyngiad o 69% wedi bod yn niferoedd gwenoliaid duon yng Nghymru.

Er eu bod yn treulio 90% o'u bywydau yn hedfan, mae’r wennol ddu yn ffafrio nythu'n uchel ar ben adeiladau a hefyd llecynnau o dan fondo eglwysi a hen dai. Oherwydd ailddatblygu a moderneiddio adeiladau yn ein trefi a'n dinasoedd, mae'r llecynnau pwysig yma yn diflannu, ac felly yn un o’r prif achos pam fod y boblogaeth yn dirywio.

Wrth i'r gwenoliaid duon gwblhau eu taith mudo arwrol o 6,000 milltir o Affrica yn gynnar ym mis Mai, bydd yr adar ond yn aros yn ddigon hir i fridio. Maent angen y tywydd cynnes i ddarparu cyflenwad cyson o bryfed hedfan, felly’n treulio dim ond tua thri mis yng Nghymru bob blwyddyn.

Yna byddant yn mudo trwy Ffrainc a Sbaen i dreulio’r gaeaf yn Affrica, i'r de o'r Sahara, lle maent yn dilyn y glawogydd i fanteisio ar y newidiadau chwim mewn poblogaethau pryfed. Er bod nifer o adar ifanc yn dychwelyd i'w tiroedd bridio yn y gwanwyn, bydd rhai yn aros yn Affrica.

Llun: Gwennol ddu, Ben Andrew rspb-images.com

Tra bo gwenoliaid duon yn treulio eu haf yng Nghymru, gallwch chi eu helpu. Beth am osod bocs nythu angenrheidiol ym mondo eich tŷ? Neu os welwch wennol ddu, gadewch i ni wybod trwy lenwi Arolwg Gwenoliaid Duon yr RSPB. Mae’r arolwg yn ein galluogi i adeiladu cofnod o ble gwelir yr adar yng Nghaerdydd er mwyn i ni allu eu diogelu’n well. Neu os ydych yn lleol i’r ardal gydag awr neu ddwy i'w sbario bob mis, efallai bo diddordeb gennych i fod yn Arolygydd Gwenoliaid Duon Caerdydd a helpu i fonitro safleoedd nythu’r adar o amgylch Caerdydd o fis Mai i Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth neu fanylion ar sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â jazz.austin@rspb.org.uk