To read this blog in English please click here

Wedi mwy na blwyddyn o dystiolaeth a thrafod mae'r ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer dargyfeiriad yr M4 yn dod i ben. Un o'r ymchwiliadau cyhoeddus hiraf yng Nghymru, mae'r ymchwiliad wedi gweld cannoedd o ddarnau o dystiolaeth a gwrthwynebiadau i'r cynllun yn asesu ei effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Mae'r RSPB yn parhau i fod yn bryderus iawn am yr effaith ar fywyd gwyllt a'r amgylchedd y bydd y ‘Llwybr Du’, sy’n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru, yn ei gael os bydd yn mynd rhagddo.

Llun: gardwenynen fain, wikimedia.

Dywedodd Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: “Mae'r RSPB yn gwrthwynebu'r draffordd newydd oherwydd bydd yn dinistrio tirwedd a bywyd gwyllt gwarchodedig Gwastadeddau Gwent - gan gynnwys un o ‘mond dwy gadarnle yn y DU ar gyfer y gardwenynen fain; y pâr cyntaf o aranod i nythu yng Nghymru ers dros bedair can mlynedd, a chartref un rhan o bump o boblogaeth Cymru o’r telor Cetti.

Mae ein deddfau Cymreig ni’n mynnu arweiniad cryfach a safonau uwch gan Lywodraeth Cymru, sy'n methu â'i dyletswyddau cyfreithiol i ddwyn ein bywyd gwyllt yn ôl. Cytunodd Adnoddau Naturiol Cymru yn ei ddatganiad cau i'r ymchwiliad y byddai colli safleoedd a ddiogelir ar y Gwastadeddau 'heb ei debyg' ac yn groes i ddyletswyddau statudol y Llywodraeth o dan y ‘Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad’ a ‘Deddf yr Amgylchedd (Cymru)’. Yn ogystal â hyn, mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi gwrthwynebu'n gryf â'r ffordd ac yn ei gwneud hi'n glir y gallai'r Llywodraeth osod y cynsail anghywir o dan Ddeddf Lles Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, trwy beidio â darparu datrysiad hirdymor cynaliadwy. Fe fydd parhau â’r cynllun hon er gwaetha’r trosedd yn annerbyniol i fyd natur a chenedlaethau'r dyfodol.

Er mai'r arolygwyr fydd yn cynghori ar ddyfodol yr M4, mae'r penderfyniad ynghylch p'un ai i ariannu'r project hwn neu ddim yn gorwedd yn nwylo Llywodraeth Cymru. Dyna pam y byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i'w chynlluniau niweidiol ac i ddatrys problemau tagfeydd yng Nghasnewydd mewn modd cynaliadwy. Fedrwn ni  wneud iawn am amser a gollwyd i gwrdd ag uchelgais Cymru i ddiogelu natur am genedlaethau i ddod."

Llun: garan, Nick Upton rspb-imaes.com

Ar wahân i'r nifer o gyrff anllywodraethol, cyrff statudol ac arweinwyr sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau, mae grwpiau ymgyrchu’r dinasyddion fel CALM hefyd wedi ymladd yn erbyn y cynlluniau. Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â nhw ar yr M4 a gallwch ddarganfod mwy ar y wefan yma