To read this blog in English please click here
Mae pawb am i fyd natur gael ei warchod yn well ar ôl i ni adael yr UE. Ond gan fod bylchau mawr yn ein cyfreithiau domestig ni fydd hynny’n digwydd. Felly mae risg anferth i’r rhywogaethau a’r mannau rydym yn eu caru. A gan nad yw byd natur yn ystyried ffiniau gwleidyddol, mae angen i bedair llywodraeth y DU gydweithio er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl ar gyfer ein hamgylchedd.
Mae angen i aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru frwydro dros ddyfodol byd natur ar ôl i ni adael yr UE. Gallai llythyr gennych chi ddylanwadu ar y ffordd y byddan nhw’n blaenoriaethu byd natur wrth gynllunio ein cyfreithiau a’n sefydliadau newydd – sgroliwch i lawr i gael gwybod sut i weithredu.
Llun: Glas y dorlan, Andy Hay rspb-images.com
Os bydd bylchau yn y gyfraith pryd fyddwn yn gadael yr UE, bydd yr amgylchedd yn dioddef.
Mae bylchau amlwg ym Mil Lywodraeth y DU ar Adael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ceisio troi cyfreithiau amgylchedd yr UE yn gyfraith ddomestig. Er enghraifft, nid yw’n trosglwyddo egwyddorion amgylcheddol yr UE sy’n sicrhau bod cyfreithiau’n cael eu rhoi ar waith yn briodol.
Mae hyn yn golygu bod perygl o golli egwyddorion cyfreithiol cadarn. Megis yr egwyddor y dylai llygrwyr dalu am y difrod y maen nhw wedi ei achosi, neu’r egwyddor y dylai’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ystyried ac ymateb os oes risg o ddifrod amgylcheddol difrifol, hyd yn oed heb sicrwydd gwyddonol llawn.
Mae angen corff amgylcheddol i warchod byd natur pryd fyddwn yn gadael yr UE
Wrth gwrs, hyd yn oed os oes gennym ni gyfreithiau cadarn i warchod byd natur ar bapur, mae angen yr adnoddau o hyd i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol ar lawr gwlad. Ar hyn o bryd, mae nifer o sefydliadau’r UE yn gwneud y gwaith yma, gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop. Ar ôl gadael yr UE, bydd angen i ni gael ein sefydliadau ein hunain, i sicrhau bod ein cyfreithiau amgylcheddol yn cael eu gweithredu’n llawn ac fel ein bod yn gallu dal y llywodraeth a chyrff y sector cyhoeddus i gyfrif.
Corff annibynnol a chadarn fyddai’r teclyn grymus rydym ei angen i ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru
Mae’n angenrheidiol bod aelodau o’r cyhoedd, fel chi, yn gallu ymddiried bod corff annibynnol yno i warchod yr amgylchedd, ac i roi llais i chi os oes gennych chi gŵyn sydd ddim yn cael sylw.
Rhaid i ni sicrhau bod ein llywodraethau’n cydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch o ran llywodraethu ym mhob rhan o’r DU
Dyma’r cyfle mawr cyntaf i lywodraethau ein pedair gwlad eu sefydlu eu hunain fel arweinwyr byd-eang ym maes adfer byd natur, a hynny ar ôl Brexit.
Mae gan Gymru gyfreithiau uchelgeisiol yn barod ar gyfer ysgogi adferiad ein treftadaeth naturiol. Ond mae angen cydweithio’n agos ar draws ffiniau er mwyn mynd i’r afael â heriau amgylcheddol. O gadwraeth rhywogaethau ymfudol ac ymledol i reoli basnau afonydd a chynefinoedd eraill, prin yw’r materion amgylcheddol y gellir mynd i’r afael a nhw heb gydweithio.
Ar hyn o bryd cyfraith yr UE sy’n sicrhau bod set gyffredin o safonau amgylcheddol gofynnol i’r pedair gwlad, ond fel arall maent yn gyfrifol am eu polisïau amgylcheddol eu hunain.
Heb y safonau cyffredin yma, mae perygl y byddwn yn gweld ‘ras i’r gwaelod’ ar ôl Brexit. Sef proses niweidiol o ddadreoleiddio cystadleuol lle mae pwysau ar ein gwledydd i geisio cael manteision economaidd tymor byr trwy ostwng safonau, gan orfodi’r lleill i wneud yr un peth.
Dyna pam mae angen sicrhau bod gan y pedair gwlad yr un safonau uchel, gyda chorff annibynnol yn perthyn i’r pedair gwlad, gyda’r pŵer i ddal y pedair llywodraeth i gyfrif, a hynny er mwyn cynnal a datblygu ein cyfreithiau amgylcheddol.
Llun: Dyfrgi, Andy Hay rspb-images.com
Heriwch Lesley Griffiths a Mark Drakeford i arwain y ffordd
Mae angen i unrhyw ateb alluogi unigolion i ddal llywodraethau a phawb sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif. Fel unigolion sy’n ymgyrchu, ysgrifennu llythyrau ac eisoes yn sefyll yn gadarn dros fyd natur, chi yw’r rhain!
Gallwch gael dylanwad ar ddyfodol ein cyfreithiau natur, a sut y byddwn yn eu gweithredu, trwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford (aelod Llywodraeth Cymru o Gydbwyllgor y Gweinidogion, sy’n helpu’r pedair llywodraeth i gydweithio)
Mae angen eu hannog nhw i barhau i weithio gyda'r DU a llywodraethau datganoledig er mwyn fynd i'r afael â'r bwlch llywodraethu, a gosod cynigion ar gyfer set o sefydliadau ar y cyd neu gydlynol, wnaiff ddal y pedwar llywodraeth i gyfrif ar eu rhwymedigaethau a'u hymrwymiadau amgylcheddol.
Dyma rai o'r prif bwyntiau y gallech eu cynnwys yn eich neges:
Os ydych chi eisiau ysbrydoliaeth ynglŷn â sut i ysgrifennu llythyr pwerus, darllenwch ein canllaw ar ymgyrchu dros fyd natur.
Gallwch ein helpu i ddilyn hynt yr ymgyrch – rhowch wybod i ni ar campaigns.wales@rspb.org.uk os ydych chi wedi anfon gwrthwynebiad, ac unrhyw atebion yr ydych wedi eu derbyn.
Os ydym ni am adfer byd natur mewn cenhedlaeth, mae angen i ni weld darpariaeth lawer mwy agored, tryloyw, ymgynghorol a chydweithredol rhwng y DU a’r llywodraethau datganoledig o ran dyfodol ein hamgylchedd. Ac mae angen llawer mwy o ffocws ar sicrhau’r canlyniadau amgylcheddol gorau posib, a hynny yn y pedair gwlad.
Gallwch chi helpu i wireddu hyn.