To read this blog in English please click here

Wrth i'r gwanwyn prysur agosáu, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i glywed seiniau melodig teulu’r teloriaid. Dros y misoedd nesaf bydd yr ymwelwyr bychain yma yn cyrraedd yn eu heidiau wrth iddynt ymfudo i Gymru i fwynhau misoedd bywiog y gwanwyn a’r haf cynnes.

Llun: Telor y coed, Andy Hay rspb-images.com

Ond er mwyn cyrraedd yma’n ddiogel, mae rhai fel y llwydfronnau a theloriaid yr helyg, yn ymgymryd â siwrnai beryglus dros ben. Yn hedfan o Affrica, maent yn croesi moroedd, mynyddoedd ac anialdiroedd i gyrraedd yma ar gyfer y gwanwyn. Mae’n siŵr eich bod yn meddwl eu bod yn wallgof yn peryglu eu bywydau bob blwyddyn, ond byddai aros yn fwy peryglus. Credwch neu beidio, mae mudo yn hanfodol ar gyfer goroesi.

Mae teloriaid yr helyg a’r llwydfronnau yn dewis dod i Gymru oherwydd bod llawer llai o adar yma yn cystadlu am yr un safleoedd nythu. Yn ogystal, yn ystod ein hafau cynnes a gwlyb, mae llawer o bryfed o gwmpas sy’n gynhaliaeth werthfawr, tra bod ein dyddiau hir o haf - pan fydd yr haul yn machlud llawer hwyrach nag yn Affrica – yn rhoi mwy o amser i rieni fwydo eu cywion ar eu tyfiant. A gyda llai o ysglyfaethwyr i fygwth cywion yng Nghymru i gymharu ag Affrica, mae ymfudo yn gwneud bywyd yn llawer haws.

Ymwelydd arall i Gymru yn ystod yr haf yw’r aderyn deniadol ond disylw, telor y coed. Gyda'i sglein melyn llachar, mae’r aderyn golygus yma yn dal eich llygad yn syth. Maent wrth eu boddau yn treulio’r hafau yn arddangos ac yn canu yn y coetir derw gorllewinol a geir yma yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'n gwarchodfeydd goedwig fel RSPB Ynys-hir ac RSPB Carngafallt.

Gallwch yn gyffredinol gysylltu teloriaid â hafau byr Cymru, ond eto, mae rhai wedi torri'r arferiad cyfarwydd yma drwy aros yng Nghymru dros y misoedd oeraf.

Mae’r siff-saff a’r telor penddu yn herio’r gaeaf, gyda'r ddau'n ffafrio ymgolli ym mywyd Cymru trwy gydol y flwyddyn. Aderyn llwydaidd yw’r telor penddu, ac yn un sy’n egnïol iawn wrth amddiffyn bwydwyr yr ardd. Er eu bod yn bennaf yn ymweld yn yr haf, yn gynyddol mae’r teloriaid o’r Almaen a gogledd-ddwyrain Ewrop yn treulio’r gaeaf yng Nghymru. Telor bychan sydd â symudiad nodweddiadol i’w gwt yw’r siff-saff, gyda chân sy’n ymdebygu i’w enw.

Felly, yn ystod y gwanwyn hwn, wrth i chi ddeffro gyda (gobeithio) phelydrau o haul yn disgleirio trwy'r ffenestri, beth am fynd allan i’r awyr agored i weld yr holl fywyd gwyllt a allai fod wedi teithio o bell i rannu eu gwanwyn a'r haf gyda chi?