I ddarllen y blog yma yn Saesneg cliciwch yma os gwelwch yn dda.Ers ymuno â Chyngor Dinas Caerdydd yn 2014 i gyflwyno ein prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, rydym wedi rhoi cyfle i dros 8,000 o blant yng Nghaerdydd i ddyfnhau eu cysylltiad â byd natur o amgylch tir yr ysgol. Eleni, lansiodd RSPB raglen newydd yn cyflwyno sesiynau allgymorth am ddim i ysgolion mewn 15 o ddinasoedd pellach ledled y DU, diolch i gefnogaeth hael Aldi.
Gyda chyllid Aldi, rydym bellach yn gallu ehangu ein rhaglen allgymorth yng Nghaerdydd i blant o dan bump oed sy'n mynychu meithrinfeydd a grwpiau chwarae ar draws y ddinas. Mae ein sesiynau blynyddoedd cynnar eisoes wedi cael derbyniad gwych gan amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys dosbarthiadau Meithrin a Derbyn mewn ysgolion cynradd.
Rydym hefyd yn gallu cyflwyno ein sesiynau allgymorth i bob dosbarth unigol o fewn pob ysgol gynradd a lleoliad blynyddoedd cynnar yn y ddinas.
Uchod: Chwith - Eleanor Bentall (rspb-images.com), Dde - Martyn Poynor
Mae ein sesiynau cynradd yn cynnwys ein sesiynau poblogaidd Rhoi Cartref i Fyd Natur a Bioblitz. Gan fod Gwylio Adar yr Ysgol bellach wedi dod yn gyfarwydd iawn, rydym wedi trosglwyddo’r awenau i ysgolion, ond gyda digon o adnoddau pellach ar ein gwefan. Yn ei le, rydym hefyd wedi cyflwyno dwy sesiwn newydd, a ddatblygwyd gan ein tîm arbenigol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd plant drwy natur. Bydd ein sesiynau Geiriau Gwyllt ar gyfer ysgolion cynradd a lleoliadau'r blynyddoedd cynnar ar gael o fis Ionawr 2018.
Nid yw'r cyfleoedd i ysgolion ysbrydoli plant i ddod yn agosach at fyd natur yn dod i ben yn y fan honno. Mae ein Sialens Wyllt i ysgolion yn ffordd berffaith o barhau â'r momentwm. Mae pob un o'n sesiynau allgymorth yn cyfri fel Gweithgaredd Sialens Wyllt ac yn fan cychwyn gwych ar gyfer cwblhau'r chwe gweithgaredd sy'n ofynnol i ennill Gwobr Efydd y Sialens Wyllt. O'r fan honno, mae angen cyflawni gweithgareddau natur pellach er mwyn cyrraedd Arian ac Aur.
Ac nid ein gweithgareddau’r Sialens Wyllt yw'r unig adnoddau rhad ac am ddim sydd ar ein gwefan. Cliciwch yma i gael mynediad i hyd yn oed mwy o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i alluogi mwy o blant i ddarganfod a mwynhau ein bywyd gwyllt gwych.
I gael gwybod mwy neu i archebu sesiwn allgymorth, cysylltwch â Swyddog Addysg, Teuluoedd ac Ieuenctid RSPB Cymru, Kelly Davies: Kelly.Davies@rspb.org.uk | 02920353271