To read this blog in English please click here

Pob blwyddyn fe glywn Chris Rea yn canu "Driving Home for Christmas" – y cyffro o’r diwrnod olaf yn y gwaith cyn y gwyliau, a theithio’n ôl adref - gan amlaf yn daith hir - i'n teuluoedd ar gyfer dathliadau llawn hwyl y Nadolig. Ac wrth i ni deithio adref i agor anrhegion a bwyta gormod o fins-peis, mae ein hadar hefyd yn cychwyn ar eu teithiau - neu mewn gwirionedd, efallai eu bod nhw eisoes wedi cyrraedd pen eu taith. Er bod rhai adar fel y grugieir coch a du yn ddigon ffodus i aros ar dir eu cartref, mae eraill miloedd o filltiroedd i ffwrdd, wedi methu dychwelyd adref oherwydd rhwystrau tymhorol a’r tywydd.

Llun: Bod tinwyn gan Mark Thomas, rspb-images.com

Ar ein hucheldiroedd mae gennym fodion tinwyn sy'n symud oddi ar eu tir bridio cyn y gaeaf. Efallai eich bod wedi darllen yn ddiweddar ein bod wedi tagio cywion bodion tinwyn am y tro cyntaf yng Nghymru yn ôl ym mis Awst. Yn dilyn y broses tagio, fe wnaethon ni ddarganfod bod un bòd wedi hedfan o ganolbarth Cymru yr holl ffordd i dde Ffrainc.

Mae cwtiaid aur a gylfiniriaid hefyd yn mudo o'r ucheldiroedd cyn y Nadolig. Aiff y cwtiaid aur i gaeau iseldir, yn aml yn cadw cwmni’r cornchwiglod, tra bod y gylfiniriaid yn gadael yr ucheldiroedd ar ddiwedd eu tymor bridio i fynd i aeafu o gwmpas ac o fewn arfordir Cymru. Mae'n ymddangos fod cwtiaid aur a chornchwiglod yn ffafrio mannau mwy gwledig, tra yn ôl pob golwg, gwell gan y gylfiniriaid mannau glan môr ar gyfer eu dathliadau Nadoligaidd.

Mewn llefydd eraill, mae rhai'n cyrraedd y DU mewn union bryd ar gyfer yr ŵyl. Mae gwyddau talcenwyn Yr Ynys Las yn cyrraedd Aber Afon Dyfi o'u tiroedd bridio ym mis Hydref / Tachwedd, a rhain yw’r haid fwyaf deheuol yn y DU. Mae’r cochion dan-aden hefyd yn cyrraedd o gwmpas yr un amser, yn teithio am y DU ar gyfer yr hinsawdd gynhesach. Fel rheol maent yn crwydro cefn gwlad, yn bwydo mewn caeau a gwrychoedd tan fis Mawrth neu Ebrill. Yn ymuno a nhw bydd parti parablus o socanod eira, sydd hefyd yn cael gwyliau yng Nghymru yr un pryd, cyn mynd yn ôl i Sgandinafia.

Llun: Coch dan-aden gan Chris Gomersall, rspb-images.com.

Tra bod rhai adar yn mynd am y DU ar gyfer tywydd cynhesach, mae rhai eraill ar frys i ddianc y  tymheredd oer sydd ar gynnig. Mae'r gwybedog brith bach du a gwyn yn nythu yng Nghymru ond yn ymfudo ym mis Gorffennaf. Mae’n ymgymryd â'r daith beryglus yn ôl i fannau cynhesach o amgylch y Sahara a Gwlff Guinea yng Ngorllewin Affrica. Un arall o'n ffrindiau sy'n mwynhau coetiroedd Cymru yw telor y coed. Mae'r adar bach hyfryd hyn yn mwynhau ein coed ffawydd aeddfed a choed derw gorllewinol yn y gwanwyn a'r haf, cyn mynd yn ôl tuag at Affrica pan fydd haf byr Cymru yn diflannu.

Felly, tra ein bod yn mwynhau ein dathliadau Nadolig gyda'n teuluoedd, cofiwch am yr adar a fydd yn mwynhau'r Nadolig yng Nghymru, neu o bosib ymhellach ffwrdd.