To read this blog in English please click here

Mewn gwaith cadwraeth, y nod yn aml yw troi’r cloc yn ôl at gyfnod pan oedd natur yn fwy amrywiol a’r rhywogaethau o achos bryder, yn fwy niferus. Mae hyn yn berthnasol iawn i Foel y Gaseg Wen. Darn bach o weundir, sy’n mesur oddeutu 200 erw, ar Fynydd Hiraethog yw Moel y Gaseg Wen. Mae’n ddigon cyffredin mewn llawer o ffyrdd, ond mae’n deg dweud mai dyma un o fy hoff lefydd i ar Weundiroedd Gogledd Cymru.

Llun gan Stephen Bladwell: Cwtiad aur ar Foel y Gaseg Wen.

Meddyliwch yn ôl. Beth oedd yn digwydd a beth oeddech chi’n ei wneud yn 1999? I mi, bu newid mawr yn fy chwaeth mewn cerddoriaeth yn ystod y flwyddyn honno, diolch i’r ffaith i mi fynd i ŵyl go iawn am y tro cyntaf, a gweld y Red Hot Chilli Peppers yn fyw yn Temple Newsom. Dwi hefyd yn cofio gweld ffilm y Matrix yn y sinema – oedd, roedd hynny 18 mlynedd yn ôl! I mi, roedd yn flwyddyn o annibyniaeth. Dyma pryd y gwnes i ddechrau tyfu i fyny. Ar Foel y Gaseg Wen y flwyddyn honno, roedd pâr o gwtiaid aur yn nythu. Doedd hynny ddim yn rhy anghyffredin, gan gofio nad oedden nhw mor brin â hynny ar y pryd. Ond yn drist iawn, roedd y pedwar arolwg dilynol hyd at 2013 yn dangos nad oedd unrhyw gwtiaid aur yn nythu ar y safle o gwbl.

Cyn 2013, roedd RSPB Cymru wedi dechrau ceisio rhoi sylw i nifer y cwtiaid aur oedd yn nythu yng Nghymru. Ar ôl gweld y niferoedd yn disgyn oddeutu 80% dros 20 mlynedd yn rhai o’r cadarnleoedd, roedd y sefyllfa’n dechrau mynd yn ddyrys ac roedd angen i rywbeth newid. Ein project cyntaf oedd gwneud gwaith ar lawr gwlad ym Moel y Gaseg Wen ac mewn dau safle arall ar Weundiroedd Gogledd Cymru – un gerllaw ar Hiraethog, a’r llall ar weundiroedd Rhiwabon. Ymddangosodd adar i nythu ar bob un o’r tri safle yn ystod y flwyddyn gyntaf, yn syth ar ôl torri’r rhostir sych/gorgors yn ystod tymor y gaeaf 2013/14. Ers hynny, mae cwtiaid wedi dod i nythu i bum safle am y tro cyntaf, yn syth ar ôl y gwaith rheoli cyntaf.

Roedd y project cyntaf hwnnw yn cynnwys rhaglen o waith torri dros bedair blynedd. Y gaeaf diwethaf oedd y flwyddyn olaf. Mae’r cwtiaid aur wedi bod yn nythu ym Moel y Gaseg Wen bob haf yn ystod y project, a'r haf yma, am y tro cyntaf, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod dau bâr yn galw’r safle’n gartref erbyn hyn. Efallai y bydd yn cymryd sbel i ddod o hyd iddynt, ond mae gan un o'r parau dri chyw bach llond ei groen.

Llun gan Stephen Bladwell: Teulu o gwtiaid aur ar Foel y Gaseg Wen.

Erbyn hyn, rydyn ni wedi troi ein golygon at gynnal a chadw’r cynefin rydyn ni wedi'i greu, a cheisio gweld a oes modd ei ail-greu. Bydd llawer iawn yn dibynnu ar a allwn ni gynnal y llwyddiant o ran bridio ar draws safleoedd Cymru a helpu i wella’r sefyllfa i’r cwtiaid aur yn y dyfodol.

Mae’r byd yn fwy cymhleth ac yn fwy heriol mewn sawl ffordd y dyddiau hyn, ond yn y gornel fechan hon ar ucheldir Cymru mae mwy o barau o gwtiaid aur yn nythu nag yr oedd yna pan oedd byg y Mileniwm yn codi ofn ar y byd a chân Britney Spears yn sengl fwyaf poblogaidd y flwyddyn.

Efallai nad yw pethau'n ddrwg i gyd.