To read this in English, please click here
Ydych chi erioed wedi meddwl o ble mae bwyd yn dod? Neu beth sy'n digwydd ar fferm o ddydd i ddydd?
Heddiw, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gweld y cysylltiad rhwng y bwyd rydyn ni’n ei fwyta a’r effaith sylweddol ar fyd natur. Gan ystyried bod dros 84% o Gymru yn cael ei ffermio, mae gan ffermio rôl hanfodol, nid yn unig o ran darparu bwyd, dŵr yfed glân a storio carbon, ond o ran gofalu am gefn gwlad a helpu i roi cartref i fyd natur hefyd.
RSPB Llyn Efyrnwy. Llun: Eleanor Bentall
Ar Mehefin 11, bydd RSPB Llyn Efyrnwy yn agor ei ddrysau ar gyfer Diwrnod Fferm Agored y Sul, digwyddiad a gynhelir ledled y DU sy'n cael ei drefnu gan LEAF (Linking Environment and Farming). Bydd y diwrnod arbennig hwn yn rhoi cyfle i bawb weld o ble mae bwyd yn dod, pa dasgau mae ffermwyr yn eu gwneud o ddydd i ddydd, a sut maen nhw’n helpu ein bywyd gwyllt i ffynnu ac yn sicrhau bod ein tirweddau’n wledd i’r llygaid.
Gyda’i gefn gwlad godidog, ei fywyd gwyllt bendigedig a phob math o weithgareddau ar y safle, mae gan RSPB Llyn Efyrnwy lawer iawn i'w gynnig. Gallwch fynd am dro o amgylch y fferm, gwylio defaid yn cael eu cneifio a chŵn defaid wrth eu gwaith, neu fwynhau’r grefft o nyddu. Boed ffermio yn rhywbeth newydd i chi neu beidio, bydd Diwrnod Fferm Agored y Sul yn rhoi cyfle i chi weld â’ch llygaid eich hun sut beth yw bod yn ffermwr a pha mor bwysig yw’r gwaith maen nhw’n ei wneud i gynhyrchu ein bwyd a chyfoethogi cefn gwlad Cymru.
Dewch i gael blas ar fywyd fferm a chael gweld sut mae’n helpu byd natur
Yn ystod Diwrnod Fferm Agored y Sul, cewch gyfle i weld cyfleusterau trin stoc RSPB Llyn Efyrnwy, y man storio tail a’r siediau ŵyna, sy'n galluogi ein ffermwyr i reoli’r rhostiroedd a’r dolydd. Mae gadael i dda byw bori ar y bryniau a’r dyffrynnoedd yn ffordd dda o reoli’r tir, ac yn helpu i greu’r cynefinoedd amrywiol sydd eu hangen ar adar fel corhedydd y waun, y cudyll bach a’r grugiar ddu er mwyn iddyn nhw oroesi. Mae’r gwaith pori yn ategu’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud i flocio ffosydd a wnaed gan ddyn er mwyn adfer yr orgors – cynefin sy’n cael ei ystyried yn bwysig yn rhyngwladol sy'n storio tair gwaith cymaint o garbon o’i gymharu â fforestydd glaw trofannol, ac sy'n darparu 70% o ddŵr yfed y DU.
Gwybedog brith. Llun: John Bridges
Mae ein ffermwyr hefyd wedi cyflwyno technegau pori yn eu coetiroedd, ac efallai y cewch gyfle i’w gweld yn gwneud y gwaith hanfodol hwn ar Ddiwrnod Fferm Agored y Sul. Drwy bori’r coetir yn RSPB Llyn Efyrnwy, maen nhw'n gobeithio creu gwahanol lefelau o lystyfiant o’r ddaear i’r canopi. Bydd y strwythurau amrywiol hyn yn hanfodol ar gyfer rhywogaethau fel y gwybedog brith (sydd ar y rhestr goch), sydd angen strwythur coetir caeëdig, a’r tingoch, sy'n mwynhau cynefin coetir gwasgaredig. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y gwahanol gynefinoedd a fydd yn cael eu creu drwy bori yn gwella bioamrywiaeth ar draws y warchodfa hefyd.
Yn ddiweddar, agorodd RSPB Llyn Efyrnwy ei ddrysau ar gyfer sesiynau ŵyna byw. Roedd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle unigryw i’r cyhoedd weld oen bach yn cael ei eni o flaen eu llygaid. Mae sesiynau ŵyna byw yn ffordd wreiddiol o roi cyfle i bawb ddilyn siwrnai ddiddorol bwyd – o ffermydd fel RSPB Llyn Efyrnwy i’n platiau neu’n bocsys bwyd. Ar Ddiwrnod Fferm Agored y Sul cewch gyfle i weld yr ŵyn, sydd ddim mor fach erbyn hyn, yn prancio yn y caeau – golygfa sy'n werth ei gweld!
Cewch gyfle i weld y bywyd gwyllt arbennig a’r gwaith hanfodol mae ffermwyr yn ei wneud er budd pobl a byd natur. Felly estynnwch eich welingtons, ewch am dro o amgylch y fferm, gwyliwch yr ŵyn yn y caeau a’r adar yn uchel ar frigau’r coed neu ar y dolydd, dewch i gwrdd â’r ffermwyr sy'n rhoi bwyd ar ein platiau, a mwynhewch awyr iach cefn gwlad Cymru.
Pan fyddwch chi’n dod draw am dro, byddem wrth ein boddau’n clywed am y bywyd gwyllt rydych chi wedi'i weld a beth rydych chi wedi'i ddysgu am ffermio sy'n cefnogi bywyd gwyllt. Gallwch gysylltu â ni ar twitter neu facebook @RSPBCymru.